xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
6. Yn ddarostyngedig i reol 7, mae plentyn yn gymwys i gael pensiwn plentyn os yw'n blentyn i un o'r canlynol—
(a)aelod-ddiffoddwr tân sy'n bodloni un o'r amodau cymhwyster ac yn marw tra bo'n cael ei gyflogi gan awdurdod;
(b)aelod-bensiynwr sy'n cael pensiwn o dan y Cynllun hwn pan fo'r aelod yn marw; neu
(c)aelod gohiriedig y mae ganddo hawlogaeth o dan y Cynllun hwn i gael pensiwn gohiriedig nad yw'n cael ei dalu pan fo'r aelod yn marw.
7.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), nid yw plentyn yn gymwys—
(a)os yw'r plentyn yn 18 oed neu'n hŷn;
(b)os yw'r plentyn wedi gorffen addysg amser- llawn ac yn cael ei gyflogi â thâl; neu
(c)os yw'r plentyn yn briod neu wedi ymrwymo i bartneriaeth sifil.
(2) Mae plentyn sy'n 18 oed neu'n hŷn ond nad yw'n fwy na 23 oed yn gymwys os yw'n cael addysg amser-llawn neu'n mynychu cwrs sy'n para am flwyddyn o leiaf.
(3) Mae plentyn sy'n 18 oed neu fwy yn gymwys os yw'n dibynnu, adeg marwolaeth yr ymadawedig, ar yr aelod oherwydd ei anabledd parhaol.
(4) Nid yw plentyn yn gymwys os yw'r plentyn wedi'i gollfarnu o lofruddio'r ymadawedig, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (6).
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os yw'r plentyn wedi'i gollfarnu o ddynladdiad yr ymadawedig, caiff yr awdurdod, fel y gwêl yn dda, wrthod rhoi'r pensiwn plentyn—
(a)yn gyfan gwbl neu'n rhannol, a
(b)yn barhaol neu dros dro.
(6) Pan fo collfarn o'r disgrifiad a grybwyllir ym mharagraff (4) yn cael ei diddymu ar apêl—
(a)mae pensiwn plentyn yn daladwy o'r diwrnod ar ôl y diwrnod y bu farw'r ymadawedig, a
(b)rhaid i'r awdurdod, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r gollfarn gael ei diddymu, dalu'r ôl-ddyledion pensiwn sydd wedi cronni.
(7) Pan fo—
(a)collfarn o'r disgrifiad a grybwyllwyd ym mharagraff (5) yn cael ei diddymu ar apêl, a
(b)yr awdurdod wedi gwrthod rhoi unrhyw ran o'r pensiwn plentyn,
caiff penderfyniad yr awdurdod o dan baragraff (5) ei drin fel un sydd wedi'i ddirymu a chyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r gollfarn gael ei diddymu, rhaid iddynt dalu'r ôl-ddyledion pensiwn sydd wedi cronni ers y diwrnod y bu farw'r ymadawedig.
(8) Ni fydd dim ym mharagraff (6) neu (7) yn effeithio ar gymhwyso paragraff (4) neu (5) os caiff y plentyn y mae ei gollfarn wedi'i diddymu ei gollfarnu wedi hynny o lofruddio'r ymadawedig neu o'i ddynladdiad.
(9) Bydd pensiwn plentyn yn peidio â bod yn daladwy—
(a)oni bai bod paragraff (2) neu (3) yn gymwys, ar ben blwydd y plentyn yn ddeunaw oed neu pan fo'r digwyddiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)(b) neu (c) yn digwydd, p'un bynnag sy'n digwydd yn gyntaf;
(b)pan fo paragraff (2) yn gymwys, ar ben blwydd y plentyn yn dair ar hugain oed neu ar y diwrnod y bydd addysg amser-llawn neu gwrs y plentyn yn peidio, p'un bynnag sy'n digwydd yn gyntaf;
(c)pan fo paragraff (3) yn gymwys, os yw'r awdurdod wedi'i fodloni—
(i)nad yw'r plentyn wedi'i anablu'n barhaol mwyach; neu
(ii)na ddylai'r pensiwn plentyn fod wedi'i ddyfarnu.
(10) Oni bai bod paragraff (9)(c) yn gymwys, mae pensiwn y mae plentyn yn gymwys i'w gael fel a grybwyllir ym mharagraff (3) yn daladwy am oes.
8.—(1) Mae'r swm sy'n daladwy fel pensiwn plentyn o dan y Bennod hon fel a ganlyn—
(a)os bu farw'r ymadawedig tra'r oedd yn cael ei gyflogi fel aelod-ddiffoddwr tân a bod un plentyn cymwys, un chwarter o'r pensiwn afiechyd y byddai wedi bod gan yr aelod hawlogaeth i'w gael o dan reol 2 o Ran 3 pe bai'r aelod wedi ymddeol gyda budd dyfarndal afiechyd haen uwch ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y bu farw'r aelod;
(b)os bu farw'r ymadawedig tra'r oedd yn cael ei gyflogi gan awdurdod fel aelod-ddiffoddwr tân a bod mwy nag un plentyn cymwys, un hanner o'r pensiwn afiechyd y byddai wedi bod gan yr aelod hawlogaeth i'w gael o dan reol 2 o Ran 3 pe bai'r aelod wedi ymddeol gyda budd dyfarndal afiechyd haen uwch ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y bu farw'r aelod, wedi'i rannu â nifer y plant cymwys;
(c)mewn unrhyw achos arall, yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3)—
(i)os oes un plentyn cymwys, un chwarter o'r pensiwn yr oedd gan yr ymadawedig hawlogaeth i'w gael ar y diwrnod y bu farw'r ymadawedig (p'un a ddechreuwyd talu'r pensiwn, yn achos pensiwn gohiriedig, ai peidio);
(ii)os oes mwy nag un plentyn cymwys, un hanner o'r pensiwn yr oedd gan yr ymadawedig hawlogaeth i'w gael ar y diwrnod y bu farw'r ymadawedig (p'un a ddechreuwyd talu'r pensiwn, yn achos pensiwn gohiriedig, ai peidio), wedi'i rannu â nifer y plant cymwys.
(2) Os oedd cyfran o bensiwn yr ymadawedig wedi'i gymudo o dan reol 9 o Ran 3, mae'r swm fel a ganlyn—
(a)os oes un plentyn cymwys, un chwarter o'r gyfran sydd heb ei chymudo;
(b)os oes mwy nag un plentyn cymwys, un hanner o'r gyfran sydd heb ei chymudo, wedi'i rhannu â nifer y plant cymwys.
(3) Os oedd yr ymadawedig wedi ymddeol yn gynnar a hwnnw'n ymddeoliad cynnar ar archiad yr aelod, mae'r swm fel a ganlyn—
(a)os oes un plentyn cymwys, un chwarter o swm y pensiwn y byddai'r ymadawedig wedi'i gael pe na bai unrhyw leihad actiwaraidd wedi bod;
(b)os oes mwy nag un plentyn cymwys, un hanner o swm y pensiwn y byddai'r ymadawedig wedi'i gael pe na bai unrhyw leihad actiwaraidd wedi bod, wedi'i rannu â nifer y plant cymwys;
(c)os oedd cyfran pensiwn yr ymadawedig wedi'i chymudo, a bod un plentyn cymwys, y swm a geir drwy rannu â 4 luoswm A a B.
(ch)os oedd cyfran pensiwn yr ymadawedig wedi'i chymudo, a bod mwy nag un plentyn cymwys, y swm a geir drwy rannu lluoswm A a B â 2, ac yna rhannu'r swm canlyniadol â nifer y plant cymwys.
(4) Ym mharagraff (3)(c) ac (ch)—
A yw'r swm y byddai'r ymadawedig wedi'i gael pe na bai unrhyw leihad actiwaraidd wedi bod; a
B yw'r ffracsiwn sy'n cynrychioli'r gyfran heb ei chymudo o A wedi'i mynegi fel ffracsiwn o A.
9.—(1) Pan—
(a)nad oes gan unrhyw berson hawlogaeth i gael pensiwn goroeswr o dan reol 1 o Bennod 1, a
(b)bo plentyn i'r ymadawedig yn gymwys i gael pensiwn plentyn (“plentyn cymwys”),
rhaid i'r awdurdod, yn ddarostyngedig i baragraff (3), dalu i'r plentyn cymwys y swm y cyfeirir ato ym mharagraff (2) ar gyfer pob un o'r tair ar ddeg o wythnosau ar ôl marwolaeth yr ymadawedig neu, os yw'n fyrrach, pob wythnos gyflawn o'r cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl diwrnod marwolaeth yr ymadawedig ac sy'n dod i ben ar y diwrnod y bydd y pensiwn plentyn yn peidio â bod yn daladwy.
(2) Mae'r swm yn hafal i'r swm y byddai'r awdurdod wedi'i dalu o dan baragraff (1) o reol 4 o'r Rhan hon (pensiwn profedigaeth: goroeswyr) pe bai pensiwn goroeswr wedi bod yn daladwy.
(3) Pan fo mwy nag un plentyn cymwys, rhennir y swm a ganfyddir yn unol â pharagraff (2) yn gyfartal rhwng y plant cymwys; ond—
(a)rhaid i'r awdurdod roi'r gorau i dalu cyfran plentyn cyn gynted ag y bydd pensiwn plentyn y plentyn hwnnw yn peidio â bod yn daladwy; a
(b)rhaid i'r awdurdod ddosbarthu'r gyfran y byddai gan y plentyn hawlogaeth fel arall i'w chael yn gyfartal rhwng gweddill y plant cymwys.
(4) Pan fo person sy'n cael pensiwn profedigaeth goroeswr yn marw cyn diwedd y cyfnod y mae'r pensiwn yn daladwy ar ei gyfer (“y cyfnod o 13 wythnos”) rhaid i'r awdurdod, yn ddarostyngedig i baragraff (6), dalu i'r plentyn cymwys (os oes un) bensiwn profedigaeth: ar gyfer pob wythnos gyflawn o ba un bynnag yw'r byrraf o'r canlynol—
(a)y cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl diwrnod marwolaeth y goroeswr ac sy'n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod o 13 wythnos , a
(b)y cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl marwolaeth y goroeswr ac sy'n dod i ben ar y diwrnod y bydd y pensiwn plentyn yn peidio â bod yn daladwy.
(5) Mae swm pensiwn profedigaeth o dan baragraff (4) yn hafal i'r swm y byddai'r awdurdod wedi'i dalu o dan baragraff (1) o reol 4 o'r Rhan hon pe bai pensiwn profedigaeth goroeswr wedi bod yn daladwy am y rhan o'r cyfnod o 13 wythnos sy'n dod ar ôl marwolaeth y goroeswr.
(6) Pan fo mwy nag un plentyn cymwys, rhaid rhannu'r swm a ganfyddir yn unol â pharagraff (5) yn gyfartal rhwng y plant cymwys; ond—
(a)rhaid i'r awdurdod roi'r gorau i dalu cyfran plentyn cyn gynted ag y bydd pensiwn plentyn y plentyn hwnnw yn peidio â bod yn daladwy; a
(b)rhaid i'r awdurdod ddosbarthu'r gyfran y byddai gan y plentyn hawlogaeth fel arall i'w chael yn gyfartal rhwng gweddill y plant cymwys.
10.—(1) Pan—
(a)na fo gan unrhyw berson hawlogaeth i gael pensiwn o dan reol 1 fel goroeswr yr ymadawedig, a
(b)bo plentyn yr ymadawedig yn gymwys i gael pensiwn plentyn o dan reol 6,
rhaid i'r awdurdod dalu i'r plentyn, gyhyd ag y bo'r plentyn yn blentyn cymwys, y swm a fyddai wedi'i dalu fel pensiwn goroeswr o dan reol 2 o'r Rhan hon pe bai, ym mharagraff (1) o'r rheol honno, y geiriau “Yn ddarostyngedig i reol 3” wedi'u hepgor.
(2) Pan fo mwy nag un plentyn cymwys, rhaid i'r swm y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) gael ei rannu'n gyfartal rhwng y plant cymwys; ond—
(a)rhaid i'r awdurdod roi'r gorau i dalu cyfran plentyn cyn gynted ag y bydd pensiwn plentyn y plentyn hwnnw yn peidio â bod yn daladwy; a
(b)rhaid i'r awdurdod ddosbarthu'r gyfran y byddai gan y plentyn hawlogaeth fel arall i'w chael yn gyfartal rhwng gweddill y plant cymwys.
11. Pan fo aelod â debyd pensiwn yn marw gan adael plentyn, rhaid anwybyddu'r lleihad yn hawliau'r aelod â debyd pensiwn o dan y Cynllun hwn yn rhinwedd adran 31 o Ddeddf 1999 at ddibenion cyfrifo unrhyw bensiwn sy'n daladwy o dan y Bennod hon.
12.—(1) Caniateir i bensiwn sy'n daladwy o dan y Bennod hon gael ei chymudo am gyfandaliad—
(a)gyda chydsyniad y rhiant sydd ar ôl o rieni'r plentyn neu, os nad oes un gan y plentyn, ei warcheidwad, neu, os nad oes un gan y plentyn, y plentyn os yw dros 18 oed, a
(b)os byddai'r cyfandaliad, o'i gymudo, yn fudd-dal marwolaeth ar ffurf cyfandaliad mân-gymudo o fewn ystyr “trivial commutation lump sum death benefit” ym mharagraff 20 o Atodlen 29 i Ddeddf Cyllid 2004.
(2) Rhaid i swm y cyfandaliad gael ei gyfrifo yn unol â thablau a baratoir gan Actiwari'r Cynllun ac sydd mewn grym pan ddaw'r cymudiad yn weithredol.
(3) Ar y diwrnod y caiff pensiwn ei gymudo o dan y rheol hon, dileir pob hawlogaeth arall y plentyn o dan y Cynllun hwn i'r graddau y mae'n deillio o'r aelod ymadawedig.