xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1CYNLLUN PENSIWN NEWYDD Y DIFFODDWYR TÅN (CYMRU)

RHAN 14TALU DYFARNDALIADAU

Yr awdurdodau sy'n gyfrifol am dalu dyfarndaliadau

1.—(1Mae dyfarndal sy'n daladwy i berson neu mewn perthynas ag ef am ei fod wedi'i gyflogi fel diffoddwr tân rheolaidd yn daladwy gan yr awdurdod y cafodd y person ei gyflogi felly ddiwethaf ganddo.

(2Mae dyfarndal sy'n daladwy o dan Ran 6 (rhannu pensiwn yn sgil ysgariad) i aelod â chredyd pensiwn neu mewn perthynas â'r aelod hwnnw, ac mae unrhyw swm a delir i gymudo unrhyw ddyfarndal o'r fath yn daladwy gan yr awdurdod a gyflogodd yr aelod â debyd pensiwn y mae dyfarndal yr aelod â chredyd pensiwn yn deillio o'i hawliau pan ddaeth y gorchymyn rhannu pensiwn yn weithredol.

Didynnu treth a ffioedd lwfans cydol oes

2.  Pan fo unrhyw daliad y mae'n ofynnol i awdurdod ei wneud o dan y Cynllun hwn yn drethadwy neu'n ddarostyngedig i ffi lwfans cydol oes o dan Ddeddf Cyllid 2004(1) rhaid iddo ddidynnu swm y dreth a godir neu sydd i'w adennill o'r taliad.

Talu dyfarndaliadau

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), tra bo dyfarndal yn daladwy o dan y Cynllun hwn, rhaid ei dalu'n fisol mewn ôl-daliadau.

(2Caiff awdurdod—

(a)gohirio talu, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, i'r graddau y bo'n angenrheidiol i ddyfarnu unrhyw gwestiwn ynghylch ei atebolrwydd; a

(b)pan fo o'r farn, oherwydd swm y dyfarndal, y byddai ei dalu'n fisol mewn ôl-daliadau yn anymarferol, cyflawni ei atebolrwydd mewn perthynas â'r swm hwnnw drwy wneud taliadau bob hyn a hyn yn ôl yr ysbeidiau rhesymol a wêl yn dda.

(3Mae cyfandaliadau o dan Ran 5 ac, yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), pensiynau o dan Ran 4 yn daladwy o'r diwrnod ar ôl dyddiad y farwolaeth.

(4Mae pensiwn o dan Ran 4 mewn perthynas â phlentyn ôl-anedig yn daladwy o ddyddiad geni'r plentyn.

(5Os—

(a)na chafodd yr awdurdod ei hysbysu o farwolaeth pensiynwr; a

(b)yw pensiwn yr oedd gan y pensiynwr hawlogaeth i'w gael wedi parhau i gael ei dalu,

caiff yr awdurdod adennill y cyfan neu ran o'r gordaliad, fel y gwêl yn dda; a chaiff ei adennill drwy wrth-gyfrifiad yn erbyn unrhyw ddyfarndal arall sy'n daladwy o dan y Cynllun hwn mewn perthynas â'r ymadawedig.

(6Pan fo gan berson hawlogaeth o dan reol 8 o Ran 3 i gael ad-daliad o'i gyfraniadau pensiwn cyfanredol, nid yw'r awdurdod yn rhwym i wneud taliad—

(a)hyd nes y bydd blwyddyn o ddyddiad ymddeol y person wedi dirwyn i ben.

(b)hyd nes y bydd y person yn gofyn am daliad,

p'un bynnag yw'r cynharaf.

Pensiynau o dan fwy nag un contract cyflogaeth

4.  Pan fo person yn aelod o'r Cynllun hwn mewn perthynas â mwy nag un contract cyflogaeth (p'un ai gyda'r un awdurdodau neu rai gwahanol), rhaid ymdrin â phob cyflogaeth ar wahân at ddibenion pensiwn.

Taliadau ar gyfer pobl ifanc dan oed a phersonau sy'n analluog i reoli eu materion eu hunain

5.—(1Caniateir i unrhyw swm sy'n daladwy i berson ifanc dan oed mewn perthynas â dyfarndal, os gwêl yr awdurdod yn dda, gael ei dalu i unrhyw berson arall a ddyfernir gan yr awdurdod, a rhaid i'r person arall hwnnw, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan yr awdurdod, ei ddefnyddio er budd y person ifanc dan oed.

(2Os yw'n ymddangos i'r awdurdod fod person sydd â hawlogaeth i gael taliad dyfarndal, oherwydd anhwylder meddwl neu fel arall, yn analluog i reoli materion y person hwnnw—

(a)caiff yr awdurdod dalu'r dyfarndal neu unrhyw ran ohono i berson sydd â gofal dros y person a chanddo hawlogaeth, neu i unrhyw berson arall a ddyfernir ganddynt, a

(b)i'r graddau nad yw'n talu'r dyfarndal yn y modd hwnnw, caiff ei ddefnyddio yn y modd y gwêl yn dda er budd y person sydd â hawlogaeth neu ei ddibynyddion.

Talu dyfarndaliadau; darpariaeth atodol bellach

6.—(1Yn sgil marwolaeth person yr oedd swm yn ddyledus iddo, mewn perthynas â dyfarndal, a hwnnw'n swm nad oedd yn fwy na'r swm a bennir(2) mewn unrhyw orchymyn sydd mewn grym am y tro o dan adran 6 o Ddeddf Gweinyddu Ystadau (Taliadau Bach) 1965(3), caiff yr awdurdod, heb ei wneud yn ofynnol i ddangos profeb neu unrhyw brawf arall o hawlogaeth—

(a)pan fo'n ymddangos bod gan un person yn unig hawlogaeth lesiannol i ystad bersonol yr ymadawedig, talu'r swm i'r person hwnnw, neu

(b)mewn unrhyw achos arall, naill ai talu'r swm i un o'r personau y mae'n ymddangos bod ganddo'r hawlogaeth honno neu ei ddosbarthu ymhlith pob un neu unrhyw un ohonynt yn ôl y cyfraneddau a ddyfernir gan yr awdurdod.

(2Mae aseiniad dyfarndal, neu arwystl arno, yn ddi-rym i'r graddau y mae o blaid person nad yw'n ddibynnydd y person a chanddo hawlogaeth i gael y dyfarndal.

(3Yn sgil methdaliad person a chanddo hawlogaeth i gael dyfarndal, nid yw'r dyfarndal yn trosglwyddo i unrhyw ymddiriedolwr neu berson arall sy'n gweithredu ar ran y credydwyr.

(4Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), os bydd colled, o ganlyniad i dwyll, lladrad neu esgeuluster ar ran diffoddwr tân mewn cysylltiad â'i gyflogaeth, yng nghronfeydd awdurdod, caiff yr awdurdod wrthod talu y cyfan neu ran o unrhyw symiau a ddaw'n ddyledus i'r diffoddwr tân hwnnw oddi wrth yr awdurdod mewn perthynas â dyfarndal.

(5Rhaid i'r cyfanswm y gwrthodir ei dalu o dan baragraff (4) beidio â bod yn fwy na swm y golled; ac os bydd unrhyw anghydfod ynglyn â swm y golled yn digwydd, ni chaniateir i'r awdurdod wrthod talu unrhyw beth onid oes modd bellach adennill y golled oddi wrth y person sydd â hawlogaeth i gael y dyfarndal o dan orchymyn llys cymwys.

(6Mewn unrhyw achos rhaid peidio â gwrthod talu unrhyw ran o swm sy'n ddyledus ac nad yw'n briodoladwy i wasanaeth fel cyflogai awdurdod.

(7Pan wrthodir talu swm o dan baragraff (4), rhaid i'r awdurdod ddarparu i'r person sydd â hawlogaeth i gael y dyfarndal dystysgrif sy'n dangos y swm sy'n cael ei atal.

(2)

Adeg gwneud y Gorchymyn hwn, £5,000 yw'r swm: Gorchymyn (Gweinyddu Ystadau (Taliadau Bach) (Cynyddu Terfyn) 1984 (O.S. 1984/539).