- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5.—(1) Caiff aelod y mae ganddo hawlogaeth i gael taliad gwerth trosglwyddo o'r cyfwerth arian parod gwarantedig o dan Bennod IV Rhan IV o Ddeddf 1993 ddim ond ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gymhwyso'r taliad gwerth trosglwyddo o'r cyfwerth arian parod gwarantedig mewn un neu ragor o'r dulliau a ganiateir o dan adran 95 o'r Ddeddf honno.
(2) Caiff aelod nad oes ganddo hawlogaeth i gael taliad gwerth trosglwyddo o'r cyfwerth arian parod gwarantedig o dan Bennod IV Rhan IV o Ddeddf 1993 ddim ond ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gymhwyso'r taliad gwerth trosglwyddo o'r cyfwerth arian parod gwarantedig mewn un o'r ffyrdd a ganiateir o dan adran 95 o'r Ddeddf honno.
(3) Rhaid i'r cyfan o'r taliad gwerth trosglwyddo o'r cyfwerth arian parod gwarantedig gael ei gymhwyso, oni fydd paragraff (4) yn gymwys.
(4) Caniateir i'r buddion y gellir eu priodoli—
(a)i hawliau cronedig yr aelod i gael pensiwn â lleiafswm gwarantedig, neu
(b)i hawliau cronedig yr aelod sy'n briodoladwy i wasanaeth mewn cyflogaeth a gontractiwyd allan ar neu ar ôl 6 Ebrill 1997,
gael eu hepgor o'r taliad gwerth trosglwyddo o'r cyfwerth arian parod gwarantedig os yw adran 96(2) o Ddeddf 1993 yn gymwys (ymddiriedolwyr neu reolwyr cynlluniau neu drefniadau derbyn penodol sy'n gallu derbyn ac yn fodlon derbyn taliad trosglwyddo mewn perthynas â hawliau eraill yr aelod yn unig).
(5) Dim ond i'r canlynol y caniateir i daliad trosglwyddo gael ei wneud—
(a)cynllun pensiwn sydd wedi'i gofrestru o dan Bennod 2 Rhan 4 o Ddeddf Cyllid 2004, neu
(b)trefniant sy'n gynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymhwysol at ddibenion y Rhan honno (1).
Gweler adran 169(2) o Ddeddf Cyllid 2004 (p.12).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys