- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (5), dynodir unrhyw gorff a bennir yng Ngholofn 1 o Atodlen 4 yn awdurdod cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad 882/2004 a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2 o'r Atodlen honno i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys mewn perthynas â chyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol.
(2) Pan ddynodir yr awdurdod bwyd anifeiliaid yn awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (1), dim ond ei ardal neu ei ddosbarth yn ôl y digwydd, y mae'r dynodiad yn rhychwantu.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (6), mae unrhyw gorff a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 5 wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys at ddibenion y darpariaethau yn Rheoliad 882/2004 a nodir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny yn gymwys o ran cyfraith bwyd berthnasol.
(4) Pan fo'r awdurdod bwyd wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (3), bydd y dynodiad ddim ond yn rhychwantu ei ardal neu ei ddosbarth yn ôl y digwydd.
(5) Pan ddynodir yr Asiantaeth yn awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (1) neu (3) at ddibenion Erthygl 31(1) o Reoliad 882/2004, mae'r dynodiad yn rhychwantu cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig y mae'r Asiantaeth yn gweithredu ac yn gorfodi mewn cysylltiad â hwy Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(1) yn rhinwedd rheoliad 5(1)(a) o'r Rheoliadau hynny.
(6) Pan fo'r Asiantaeth wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (3) at ddibenion Erthygl 31(2) o Reoliad 882/2004, bydd y dynodiad yn rhychwantu, o ran Erthygl 31(2)(a) i (e), y sefydliadau a'r gweithgareddau hynny y mae'r Asiantaeth yn gweithredu ac yn gorfodi mewn cysylltiad â hwy Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 yn rhinwedd rheoliad 5(2) o'r Rheoliadau hynny.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys