Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001
6. Yn Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001(1)—
(a)Yn Rheoliadau 3(2), 5(1)(b), 7 ac 8(3)(a) yn lle “Comisiynydd Lleol yng Nghymru” neu “Gomisiynydd Lleol yng Nghymru” yn ôl y digwydd, rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru” fel bo'n briodol;
(b)Yn Rheoliadau 7(a), 9(3) ac 13(1) yn lle “Comisiynydd Lleol yng Nghymru” neu “Gomisiynydd Lleol yng Nghymru” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru” fel bo'n briodol; a
(c)Yn Rheoliad 12 yn lle “Comisiynydd Lleol i Gymru ” dylid rhoi “Public Services Ombudsman for Wales”.
(1)
O.S. 2001/2281 (Cy.171), diwygiwyd gan O.S. 2005/761.