xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2DIWYGIO IS-DDEDDFWRIAETH

Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001

6.  Yn Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001(1)

(a)Yn Rheoliadau 3(2), 5(1)(b), 7 ac 8(3)(a) yn lle “Comisiynydd Lleol yng Nghymru” neu “Gomisiynydd Lleol yng Nghymru” yn ôl y digwydd, rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru” fel bo'n briodol;

(b)Yn Rheoliadau 7(a), 9(3) ac 13(1) yn lle “Comisiynydd Lleol yng Nghymru” neu “Gomisiynydd Lleol yng Nghymru” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru” fel bo'n briodol; a

(c)Yn Rheoliad 12 yn lle “Comisiynydd Lleol i Gymru ” dylid rhoi “Public Services Ombudsman for Wales”.