xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'i wneud
12 Rhagfyr 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 128(4) a 9 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003(1).
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2003 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2003.
2. Yn ddarostyngedig i Erthygl 3, daw adran 63 o'r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2007.
3. Mae adrannau 42A(1), 43(6B) a 47(3A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(2), fel maent yn gymwys i unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2007 neu cyn hynny, i barhau i weithredu mewn perthynas â Chymru fel pe nas gwnaethpwyd y diwygiadau i'r adrannau hynny gan adran 63 o'r Ddeddf.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Rhagfyr 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau adran 63 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i rym ar 1 Ebrill 2007. Mae'r adran hon yn diddymu'r rhyddhad ardrethi gorfodol a disgresiynol yn y cynllun rhyddhad ardrethi gwledig (a sefydlwyd gan ddarpariaethau yn adrannau 42A(1), 43(6B) a 47(3A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ar gyfer Cymru drwy ddiwygio'r darpariaethau presennol fel mai i Loegr yn unig y maent yn gymwys.
Mae Erthygl 3 yn gwneud arbedion fel bod yr adrannau nas diwygiwyd o Ddeddf 1988 yn parhau i weithredu, mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2007 neu cyn hynny, fel pe na bai adran 63 o Ddeddf 2003 wedi cael ei dwyn i rym.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r darpariaethau a ganlyn o'r Ddeddf sy'n gymwys o ran Cymru wedi'u dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed gan y Prif Ysgrifennydd Gwladol cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adrannau 83, 92(1), 100(1), (2) a (4) i (8), 101 (yn rhannol), 107, 108, 111, a 127(1) (yn rhannol); a pharagraffau 31, 36 i 39 a 65 o Atodlen 7. | 18 Tachwedd 2003 | 2003/2938 |
Adran 127(1) (yn rhannol); a pharagraffau 27 and 33(2) a (4) o Atodlen 7. | 1 Ebrill 2004 | 2003/2938 |
Adrannau 62(11) a 127(1) (yn rhannol); a pharagraffau 20, 21, 25(4) i (6) a 26(3) o Atodlen 7. | 25 Tachwedd 2004 | 2004/3132 |