- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
21 Tachwedd 2006
Yn dod i rym
1 Ebrill 2007
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 55(4), 56(3), 57(7), (9) a (10) a 120(2) o Ddeddf Addysg 2005(1), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygu'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “adroddiad o arolygiad” (“inspection report”) yw'r adroddiad ar arolygiad y mae'n ofynnol i'r Prif Arolygydd ei wneud o dan adran 57(7);
ystyr “cynllun gwaith” (“action plan”) yw'r datganiad ysgrifenedig sy'n ymateb i adroddiad o arolygiad y cyfeirir ato yn adran 57(9) a rheoliad 6.
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(2),
ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Addysg 2005;
ystyr “gwyl y banc” (“bank holiday”) yw diwrnod sy'n wyl y banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(3);
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, nac yn wyl y banc;
ystyr “y Prif Arolygydd” (“the Chief Inspector”) yw Prif Arolygydd Ei Mawrhydi ar Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru(4); ac
mae i “service provider” a “relevant provider” yr ystyron a roddir iddynt gan adrannau 55 a 56 yn eu tro;
(2) Os yw'n ofynnol, o dan y Rheoliadau hyn, i rywbeth gael ei wneud gan gyfeirio at gyfnod o amser sy'n cael ei gyfrif o ddyddiad penodol, mae'r cyfnod hwnnw'n dechrau yn union ar ôl y dyddiad hwnnw.
(3) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at adrannau (heb fwy) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2005.
3.—(1) Mae'r Rheoliad hwn yn gymwys yn achos darparydd gwasanaeth neu ddarparydd perthnasol na chafodd ei archwilio o'r blaen naill ai o dan adran 35 neu 35A o Ddeddf 1998(5) nac o dan adran 55 neu 56.
(2) Os yw'r rheoliad hwn yn gymwys, mae'r darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol i gael ei arolygu o dan adran 55 neu 56 (yn ôl y digwydd), o fewn cyfnod o chwe blynedd o'r dyddiad pryd y daeth y darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol gyntaf yn ddarparydd o'r fath.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 3, rhaid i'r Prif Arolygydd wneud arolygiad, o dan adran 55, ar bob darparydd gwasanaeth, ac o dan adran 56 ar bob darparyddperthnasol, ar ôl pob bwlch o chwe blynedd.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae bylchau yn cychwyn o'r dyddiad pryd y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf ar y darparydd gwasanaeth (o dan adran 35 o Ddeddf 1998 neu adran 55) neu ar y darparydd perthnasol (o dan adran 35A o Ddeddf 1998 neu adran 56).
5. Y cyfnod y mae adroddiad o arolygiad i gael ei baratoi o'i fewn yw deg a thrigain o ddiwrnodau gwaith o'r dyddiad pryd y cwblhawyd yr arolygiad arno.
6. Rhaid i berson sy'n cael arolygiad dan adran 55 neu 56 baratoi adroddiad ysgrifenedig sy'n ymateb i'r adroddiad o arolygiad gan osod allan y camau fydd yn cael eu cymryd i fynd i'r afael ag unrhyw faterion y cyfeirir atynt yn yr adroddiad o arolygiad neu i weithredu unrhyw argymhellion a geir yn yr adroddiad, a'r graddfeydd amser ar gyfer cymryd y camau hynny neu ar gyfer gweithredu'r argymhellion hynny (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel “cynllun gwaith”).
7. Y cyfnod y mae'n rhaid i berson sy'n cael archwiliad dan adran 55 neu 56 baratoi cynllun gwaith o'i fewn yw hanner cant o ddiwrnodau gwaith o'r dyddiad y cafodd y person hwnnw gopi o'r adroddiad o arolygiad o dan adran 57(7)(b).
8.—(1) Rhaid i'r Prif Arolygydd anfon copi o adroddiad o arolygiad at y personau a ddynodir ym mharagraff (3) (yn ychwanegol at y rheini a ddynodir yn adran 57(7)(b)(i), (ii) a (iv) o Ddeddf 2005).
(2) Rhaid i'r person sydd wedi paratoi cynllun gwaith anfon copi ohono at y personau a ddynodir ym mharagraff (3).
(3) Y personau hynny yw—
(a)y Prif Arolygydd; a
(b)unrhyw berson sy'n gofyn am gopi.
9. Rhaid i gopi o'r adroddiad o arolygiad a'r cynllun gwaith fod ar gael i'w archwilio yn swyddfa gofrestredig neu ym mhrif swyddfa'r darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol a gafodd ei archwilio, a rhaid ei gyhoeddi ar unrhyw wefan ar y rhyngrwyd sydd gan y darparydd hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Tachwedd 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adrannau 55 — 57 o Ddeddf Addysg 2005 yn darparu ar gyfer arolygiad o'r gwasanaeth gyrfaoedd a gwasanaethau cysylltiedig yng Nghymru gan y Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn) Mae'r gwasanaethau hyn ar hyn o bryd yn cael eu darparu gan nifer o gwmnïau cyfyngedig â gwarantau, sy'n gweithredu ar y cyd fel Gyrfa Cymru. Mae darpariaethau Deddf 2005 yn cymryd lle'r darpariaethau a geid gynt yn Neddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998. Mae'r gofynion parthed arolygiad yn cael eu tynhau a'u gwneud yn fwy cyfatebol i'r rheini sy'n gymwys i ysgolion. Mae adrannau 55 — 57 yn darparu fframwaith, gan adael y manylion i gael eu rhagnodi mewn rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r manylion hynny.
Mae Rheoliad 2 yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau.
Mae Rheoliad 3 yn delio ag arolygiadau cyntaf. Rhaid i ddarparydd gwasanaeth gyrfaoedd a gwasanaethau eraill na chafodd ei arolygu o'r blaen gael ei arolygu o fewn cyfnod o chwe mlynedd o'r dyddiad pryd y daeth gyntaf yn ddarparydd.
Mae Rheoliad 4 yn darparu fod darparwyr presennol i gael eu harolygu bob chwe blynedd. Mae Rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiad o arolygiad gael ei baratoi o fewn deg a thrigain o ddiwrnodau gwaith o ddyddiad cwblhau'r arolygiad.
Mae Rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i gynllun gwaith (fel a ddisgrifir yn y rheoliad hwnnw) gael ei baratoi yn dilyn arolygiad.
Mae Rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r cynllun gwaith gael ei baratoi o fewn cyfnod o hanner cant o ddiwrnodau gwaith o'r dyddiad y derbyniodd y darparydd gopi o'r adroddiad o'r arolygiad.
Mae Rheoliadau 8 a 9 yn darparu ar gyfer anfon copïau o adroddiadau a chynlluniau gwaith i bersonau dynodedig, ac ar gyfer eu cyhoeddi yn swyddfeydd y darparydd ac ar y rhyngrwyd.
2005 p.18. Daw adrannau 55-57 i rym ar 1 Ebrill 2007: O.S. 2006/1338 (Cy.130 (C.45). Ar gyfer “prescribed” a “regulations”, gweler adran 55(8).
Gweler adran 73 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, p.21.
1998 p.30. Diwygiwyd adran 35 gan baragraff 77 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, a mewnosodwyd adran 35A gan adran 81 o'r Ddeddf honno. Diddymir y ddwy adran gan Ddeddf 2005, Atodlen 19, Rhan 1, sy'n effeithiol o 1 Ebrill 2007: O.S. 2006/1338 (Cy.130) (C.45).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys