Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006

Cofrestrau o orchmynion rheoli

13.—(1Mae'r manylion a ganlyn wedi eu rhagnodi ar gyfer pob cofnod mewn cofrestr a sefydlwyd ac sy'n cael ei chynnal o dan adran 232(1)(c) o'r Ddeddf o ran gorchymyn rheoli a wneir o dan adran 102 neu 113 o'r Ddeddf—

(a)cyfeiriad yr HMO neu'r tŷ y mae'r gorchymyn yn ymwneud ag ef ac unrhyw gyfeirnod a roddwyd iddo gan yr awdurdod tai lleol;

(b)disgrifiad byr o'r HMO neu'r tŷ;

(c)y dyddiad pryd y daw'r gorchymyn i rym;

(ch)crynodeb o'r rhesymau dros wneud y gorchymyn;

(d)crynodeb o delerau'r gorchymyn a'r math o orchymyn a wnaed;

(dd)gwybodaeth gryno ar unrhyw gais yn ymwneud â'r HMO neu'r tŷ sydd wedi cael ei wneud i dribiwnlys eiddo preswyl neu i'r Tribiwnlys Tiroedd; ac

(e)gwybodaeth gryno ar unrhyw benderfyniad gan y tribiwnlysoedd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (dd) sy'n ymwneud â'r HMO neu'r tŷ trwyddedig, ynghyd â'r cyfeirnod a roddwyd i'r achos gan y tribiwnlys.

(2Mae'r manylion ychwanegol a ganlyn wedi eu rhagnodi ar gyfer pob cofnod mewn cofrestr a sefydlwyd ac sy'n cael ei chynnal o dan adran 232(1)(c) o'r Ddeddf o ran gorchymyn rheoli a wneir o dan adran 102 neu 113 o'r Ddeddf—

(a)nifer y lloriau sy'n ffurfio'r HMO;

(b)nifer yr ystafelloedd yn yr HMO sy'n darparu—

(i)lle cysgu; a

(ii)lle byw;

(c)yn achos HMO sydd yn fflatiau—

(i)nifer y fflatiau sy'n hunangynhaliol;

(ii)nifer y fflatiau sydd heb fod yn hunangynhaliol;

(iii)disgrifiad o'r amwynderau sy'n cael eu rhannu gan gynnwys nifer pob amwynder;

(iv)uchafswm nifer yr aelwydydd y caniateir iddynt feddiannu'r HMO; ac

(v)uchafswm nifer y personau y caniateir iddynt feddiannu'r HMO.

(3Mae'r manylion a ganlyn wedi eu rhagnodi ar gyfer pob cofnod mewn cofrestr a sefydlwyd ac sy'n cael ei chynnal o dan adran 232(1)(c) o'r Ddeddf o ran gorchymyn rheoli annedd wag a wneir o dan adran 113(1) neu 136(1) neu (2) o'r Ddeddf—

(a)cyfeiriad yr annedd(1) y mae'r gorchymyn yn ymwneud ag ef ac unrhyw gyfeirnod a roddwyd iddo gan yr awdurdod tai lleol;

(b)disgrifiad byr o'r annedd;

(c)y dyddiad pryd y daw'r gorchymyn i rym;

(ch)crynodeb o'r rhesymau dros wneud y gorchymyn;

(d)crynodeb o delerau'r gorchymyn;

(dd)gwybodaeth gryno ar unrhyw fater yn ymwneud â'r annedd sydd wedi cael ei wneud i dribiwnlys eiddo preswyl neu i'r Tribiwnlys Tiroedd; ac

(e)gwybodaeth gryno ar unrhyw benderfyniad gan y tribiwnlysoedd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (dd) sy'n ymwneud â'r annedd, ynghyd â'r cyfeirnod a roddwyd i'r achos gan y tribiwnlys.

(1)

Am ystyr annedd (“"dwelling"”) gweler adran 132(4)(a) a (b) o'r Ddeddf.