xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4Mangreoedd a gymeradwywyd a'r awdurdod cymwys

Yr awdurdod cymwys

13.—(1Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yr awdurdod cymwys at ddibenion rhoi cymeradwyaethau o dan–

(a)Pennod III a Phennod IV o Reoliad y Gymuned;

(b)yr Atodiadau i'r Rheoliad hwnnw;

(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 92/2005; ac

(ch)y Rheoliadau hyn.

(2Ef hefyd fydd yr awdurdod cymwys ar gyfer–

(a)gwirio gweithfeydd hanner-ffordd yn unol ag Erthyglau 10(2)(d) a 10(3)(d) o Reoliad y Gymuned;

(b)gwirio gweithfeydd storio yn unol ag Erthygl 11(2)(b) o'r Rheoliad hwnnw;

(c)dilysu a gwirio gweithfeydd prosesu Categori a Chategori 2 yn unol ag Erthyglau 13(2)(c) a 13(2)(e) o'r Rheoliad hwnnw, goruchwylio gweithfeydd prosesu Categori 1, 2 a 3 yn unol â pharagraff o Bennod IV o Atodiad V i'r Rheoliad hwnnw, a dilysu'r gweithfeydd hynny yn unol â pharagraff 1 o Bennod V o Atodiad V i'r Rheoliad hwnnw;

(ch)awdurdodi defnyddio dros dro waith prosesu Categori 2 ar gyfer prosesu deunydd Categori 1 yn unol â pharagraff 2 o Bennod 1 o Atodiad VI i'r Rheoliad hwnnw;

(d)gwirio gweithfeydd oleocemegol yn unol ag Erthygl 14(2)(d) o'r Rheoliad hwnnw a derbyn y cofnodion a gyflwynir yn unol ag Erthygl 14(2)(c) o'r Rheoliad hwnnw;

(dd)gwirio gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio yn unol ag Erthygl 15(2)(c) o'r Rheoliad hwnnw;

(e)dilysu a gwirio gweithfeydd prosesu Categori 3 yn unol ag Erthygl 17(2)(c) a 17(2)(e) o'r Rheoliad hwnnw;

(f)awdurdodi defnyddio dros dro waith prosesu Categori 3 ar gyfer prosesu deunydd Categori 1 neu Gategori 2 yn unol â pharagraff 2 o Bennod 1 o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw, neu ddefnyddio gwaith prosesu Categori 2 fel canolfan gasglu yn unol â pharagraff 3 o Atodiad IX i'r Rheoliad hwnnw;

(ff)derbyn cofnodion yn ymwneud â gwaith bwyd anifeiliaid anwes neu waith technegol a gyflwynir yn unol ag Erthygl 18(2)(a)(iv) o'r Rheoliad hwnnw;

(g)cydnabod labordai at ddibenion dadansoddi samplau o weithfeydd bwyd anifeiliaid anwes a gweithfeydd technegol yn unol ag Erthygl 18(2)(a)(iii) o'r Rheoliad hwnnw, derbyn gwybodaeth o dan Erthygl 18(2)(a)(v) o'r Rheoliad hwnnw, a gwirio gweithfeydd bwyd anifeiliaid anwes a gweithfeydd technegol yn unol ag Erthygl 18(2)(b) o'r Rheoliad hwnnw;

(ng)goruchwylio ailbrosesu yn unol ag Erthygl 25(2)(c) a (d) o'r Rheoliad hwnnw;

(h)arolygu a goruchwylio'n unol ag Erthygl 26 o'r Rheoliad hwnnw;

(i)rhoi cyfarwyddiadau at ddibenion paragraff 4 o Bennod II o Atodiad II i'r Rheoliad hwnnw;

(j)derbyn dogfennau masnachol a gyflwynir yn unol â Phennod V o Atodiad II i'r Rheoliad hwnnw;

(l)awdurdodi pwynt cynrychioliadol yn siambr ymlosgi llosgydd yn unol â pharagraff 3 o Bennod II o Atodiad IV i'r Rheoliad hwnnw, ac archwilio llosgyddion yn unol â pharagraff 8 o Bennod VII o Atodiad IV i'r Rheoliad hwnnw(1); ac

(ll)awdurdodi gofynion penodol yn unol â pharagraff 14 o Ran C o Bennod II o Atodiad VI i'r Rheoliad hwnnw(2).

(3Awdurdodir defnyddio'r prosesau a ddisgrifir yn Atodiadau I i V i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 92/2005 yn unol ag Erthyglau 1 a 2 o'r Rheoliad hwnnw a'r awdurdod cymwys at ddibenion sicrhau y cydymffurfir ag Erthygl 5(3) o'r Rheoliad hwnnw yw'r Cynulliad Cenedlaethol.

Cymeradwyo mangreoedd

14.—(1Ni chaiff neb weithredu unrhyw un o'r canlynol, sef–

(a)gwaith hanner-ffordd Categori 1, 2 neu 3;

(b)gwaith storio;

(c)gwaith hylosgi neu gydhylosgi;

(ch)gwaith prosesu Categori 1 neu Gategori 2;

(d)gwaith oleocemegol Categori 2 neu Gategori 3;

(dd)gwaith bio-nwy neu waith compostio;

(e)gwaith prosesu categori 3;

(f)gwaith bwyd anifeiliaid anwes neu waith technegol;

(ff)gwaith sy'n defnyddio unrhyw un neu rai o'r prosesau a ddisgrifir yn Atodiadau I i V i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 92/2005,

i storio, prosesu, trin, gwaredu neu ddefnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid, oni bai bod–

(g)y fangre;

(h)gweithredydd y fangre; ac

(i)y cyfarpar (os o gwbl);

wedi'u cymeradwyo at y diben hwnnw yn unol â Rheoliad y Gymuned ac â'r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i weithredydd mangre a gymeradwywyd sicrhau–

(a)bod y fangre yn cael ei chynnal a'i chadw a'i gweithredu yn unol â'r canlynol–

(i)amodau'r gymeradwyaeth, a

(ii)gofynion Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; a

(b)bod unrhyw berson a gyflogir gan y gweithredydd, ac unrhyw berson y caniateir iddo fynd i mewn i'r fangre, yn cydymffurfio â'r amodau a'r gofynion hynny.

(3Rhaid i weithredydd gwaith hylosgi neu waith gydhylosgi uchel ei gynhwysedd sy'n hylosgi neu'n cydhylosgi deunydd y cyfeirir ato yn Erthygl 4(1)(b) o Reoliad y Gymuned waredu'r lludw yn unol â pharagraff 4 o Bennod VII o Atodiad IV i Reoliad y Gymuned yn yr un modd â gweithredydd gwaith hylosgi isel ei gynhwysedd; ond er mwyn osgoi amheuaeth, nid yw'r ddarpariaeth hon yn gymwys o ran hylosgi neu gydhylosgi cynnyrch sy'n deillio o ddeunydd y cyfeirir ato yn Erthygl 4(1)(b) o Reoliad y Gymuned ac a gafodd ei brosesu neu ei drin eisoes yn unol â Rheoliad y Gymuned.

(4Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

Gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio

15.—(1Bydd darpariaethau Rhan I o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn yn gymwys i waith bio-nwy a gwaith compostio sy'n cael eu defnyddio ar gyfer trin unrhyw sgil-gynhyrchion anifeiliaid (gan gynnwys gwastraff arlwyo) yn ychwanegol at ofynion paragraffau 1 i 11 o Bennod II o Atodiad VI i Reoliad y Gymuned.

(2Yn unol ag Erthygl 6(2)(g) o Reoliad y Gymuned a pharagraff 14 o Bennod II o Atodiad VI iddo–

(a)Rhaid i wastraff alwyo sydd yn cael ei drin mewn gwaith bio-nwy a gwaith compostio gael eu trin unai yn unol â Atodiad VI, Pennod II, paragraffau 12 neu 13 o Reoliad y Gymuned neu yn unol â Rhan II o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn; a

(b)rhaid trin unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid arall sy'n cael ei drin mewn gwaith bio-nwy neu waith compostio yn unol â pharagraffau 12 neu 13 o Bennod II o Atodiad VI i Reoliad y Gymuned.

(3Bydd unrhyw weithredydd sy'n methu cydymffurfio â'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

Compostio gwastraff arlwyo yn y fangre y mae'n tarddu ohoni

16.  Yn unol ag Erthygl 6(2)(g) o Reoliad y Gymuned a pharagraff 14 o Bennod II o Atodiad VI iddo, nid yw darpariaethau'r Bennod honno a darpariaethau rheoliad 14(1)(dd) uchod yn gymwys i gompostio gwastraff arlwyo Categori 3 yn y fangre y mae'n tarddu ohoni ar yr amod–

(a)mai dim ond ar dir yn y fangre honno y rhoddir y deunydd pydredig;

(b)na chedwir unrhyw anifeiliaid sy'n cnoi cil na moch yn y fangre; ac

(c)os cedwir adar yn y fangre, fod y deunydd yn cael ei gompostio mewn cynhwysydd diogel sy'n atal yr adar rhag mynd ato tra bydd y deunydd yn pydru.

Hunanwiriadau gweithfeydd prosesu a gweithfeydd hanner-ffordd

17.—(1Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 25(1) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

(2Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 25(2) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

(3Rhaid i'r gweithredydd gofnodi'r camau sy'n cael eu cymryd yn unol ag Erthygl 25(2) o Reoliad y Gymuned gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.

(4Mae Atodlen 2 (hylif sy'n deillio o anifail sy'n cnoi cil) yn effeithiol mewn perthynas â hylif sy'n dod o brosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n cnoi cil.

Samplu mewn gweithfeydd prosesu

18.—(1Os yw gwaith prosesu yn prosesu deunydd Categori 1 neu ddeunydd Categori 2, a bod deunydd proteinaidd a broseswyd i'w anfon i fan tirlenwi (neu, yn achos deunydd Categori 2, i'w roi ar dir neu i'w anfon i waith bio-nwy neu waith compostio), rhaid i'r gweithredydd, unwaith bob wythnos–

(a)cymryd o allfa'r popty y mae'r deunydd yn cael ei brosesu ynddo sampl o 50 gram o leiaf o ddeunydd proteinaidd wedi'i brosesu; a

(b)anfon y sampl i labordy a gymeradwywyd i'w phrofi am Clostridium perfringens.

(2Os yw gwaith prosesu'n prosesu deunydd Categori 3 ac y bwriedir defnyddio'r deunydd proteinaidd a broseswyd mewn bwydydd anifeiliaid, rhaid i'r gweithredydd, ar bob un o'r diwrnodau y traddodir y deunydd o'r fangre–

(a)cymryd sampl gynrychioliadol o'r deunydd proteinaidd a broseswyd; a

(b)anfon y sampl i labordy a gymeradwywyd i'w phrofi am Salmonela ac am Enterobacteriaceae.

(3Os yw gwaith prosesu'n prosesu deunydd Categori 3 ac os na fwriedir defnyddio'r deunydd proteinaidd mewn bwydydd anifeiliaid, rhaid i'r gweithredydd, unwaith bob wythnos–

(a)cymryd sampl o'r deunydd proteinaidd a broseswyd ac sy'n cael ei draddodi o'r fangre; a

(b)anfon y sampl i labordy a gymeradwywyd i'w phrofi am Salmonela ac Enterobacteriaceae.

(4Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

Samplu mewn gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio

19.—(1Yn achos gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio, rhaid i'r gweithredydd, o dro i dro yn ôl yr hyn a bennir yn y gymeradwyaeth, gymryd sampl gynrychioliadol o ddeunydd sydd wedi'i drin yn ôl y paramedrau amser a thymheredd a bennir yn Rhan II o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn neu i Reoliad y Gymuned a'i hanfon i'w phrofi am Salmonela ac Enterobacteriaceae (neu, yn achos deunydd sy'n deillio o wastraff arlwyo, Salmonela yn unig) mewn labordy a gymeradwywyd i gynnal y profion hynny.

(2Yn achos profion sy'n cadarnhau nad yw'r deunydd sydd wedi'i drin yn cydymffurfio â'r terfynau ym mharagraff 15 o Bennod II o Atodiad VI i Reoliad y Gymuned, rhaid i'r gweithredydd–

(a)hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith, gan roi manylion llawn am y methiant, am natur y sampl ac am y swp yr oedd yn deillio ohono;

(b)sicrhau na fydd unrhyw weddill traul na chompost, yr amheuir ei fod wedi'i halogi neu y mae'n hysbys ei fod wedi'i halogi, yn cael ei symud o'r fangre oni bai–

(i)ei fod wedi'i ail-drin o dan oruchwyliaeth y Cynulliad Cenedlaethol a'i ailsamplu a'i ailbrofi gan y Cynulliad Cenedlaethol, a bod yr ailbrofi wedi dangos bod y gweddill traul neu'r compost a gafodd ei ail-drin yn cydymffurfio â'r safonau yn Rheoliad y Gymuned; neu

(ii)ei fod wedi'i draddodi i'w brosesu neu i'w hylosgi mewn gwaith prosesu neu losgydd a gymeradwywyd neu (yn achos gwastraff arlwyo) wedi'i draddodi i fan tirlenwi; ac

(c)cofnodi'r camau a gymerwyd yn unol â'r rheoliad hwn.

(3Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

Samplau a anfonir i labordai

20.—(1Pa bryd bynnag y bydd gweithredydd yn anfon sampl i labordy yn unol â'r Rhan hon, rhaid i'r gweithredydd anfon yn ysgrifenedig gyda'r sampl yr wybodaeth ganlynol–

(a)enw a chyfeiriad y fangre lle y cymerwyd y sampl;

(b)y dyddiad y cymerwyd y sampl; ac

(c)disgrifiad o'r sampl a manylion sy'n dynodi pa sampl ydyw.

(2Ni chaiff neb ymyrryd â sampl a gymerwyd o dan y Rheoliadau hyn gyda'r bwriad o effeithio ar ganlyniad y prawf.

(3Rhaid i'r gweithredydd gadw cofnod o holl ganlyniadau profion labordy.

(4Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio â pharagraffau (1) neu (3) neu sy'n mynd yn groes i baragraff (2) yn euog o dramgwydd.

Labordai

21.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo labordai o dan y rheoliad hwn i gynnal un neu ragor o'r profion yn y rheoliad hwn os caiff ei fodloni bod gan y labordai hynny y cyfleusterau, y personél a'r gweithdrefnau gweithredu angenrheidiol i wneud hynny.

(2Wrth benderfynu a ddylid rhoi cymeradwyaeth neu barhau i wneud hynny, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i'r labordy gynnal yn llwyddiannus unrhyw brofion rheoli ansawdd y mae'n rhesymol i'r Cynulliad Cenedlaethol weld yn dda eu cynnal.

(3Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan y rheoliad hwn ac sy'n cynnal profion at ddibenion y Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned wneud hynny yn unol â'r darpariaethau canlynol, a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.

(4Rhaid cynnal prawf ar gyfer Clostridium perfringens yn unol â'r dull yn Rhan 1 o Atodlen 3 neu (os yw hynny wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth) â dull sy'n cydymffurfio ag ISO 7937/1997 (BS-EN 13401:1999) (Enumeration of Clostridium perfringens) neu ddull cyfwerth(3).

(5Rhaid cynnal prawf Salmonela yn unol ag un o'r dulliau yn Rhan II o Atodlen 3, neu (os yw hynny wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth) â dull sy'n cydymffurfio ag–

(a)ISO 6579/2002/BS-EN 12824:1998 (Detection of Salmonella) neu ddull cyfwerth(4); neu

(b)NMKL 71: 1993 neu ddull cyfwerth(5).

(6Rhaid cynnal prawf Enterobacteriaceae yn unol â'r dull yn Rhan III o Atodlen 3, neu (os yw hynny wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth) â dull sy'n cydymffurfio ag ISO 7402/1993 (BS 5763: Rhan 10: 1993) (Enumeration of Enterobacteriaceae) neu ddull cyfwerth(6).

(7Pan fydd profion yn cael eu cynnal er mwyn canfod un o'r canlynol, rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan y rheoliad hwn hysbysu ar unwaith y Cynulliad Cenedlaethol a gweithredydd y fangre–

(a)os yw'r profion yn methu cadarnhau bod y deunydd yn rhydd rhag Clostridium perfringens;

(b)os yw'r profion yn methu â chadarnhau bod y deunydd yn rhydd rhag Salmonela; neu

(c)os yw'r deunydd yn methu'r prawf ar gyfer Enterobacteriaceae ym mharagraff 5, Rhan III o Atodlen 3;

a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.

(8Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan y rheoliad hwn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol, o ran deunydd wedi'i brosesu, ar ddiwrnod olaf pob mis o nifer y profion a gynhaliwyd yn ystod y mis hwnnw, eu math a'u canlyniadau, a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.

(9Os yw'r sampl wedi'i hanfon i labordy a gymeradwywyd o fangre y tu allan i Gymru, rhaid dehongli'r gofyniad yn y rheoliad hwn i hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol fel gofyniad i hysbysu'r awdurdod cymwys ar gyfer y fangre y mae'r sampl wedi'i hanfon ohoni.

(1)

Ychwanegwyd Pennod VII at Atodiad IV gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 808/2003.

(2)

Ychwanegwyd y paragraff hwn gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 808/2003.

(3)

Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig, British Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.

(4)

Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig; gweler uchod.

(5)

Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig; gweler uchod.

(6)

Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig; gweler uchod.