xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1Yr Amodau Mewnforio

RHAN VICIG ANIFEILIAID HELA GWYLLT

Cyffredinol

1.  Cyfarwyddeb y Cyngor 92/45/EEC ar broblemau iechyd y cyhoedd ac iechyd anifeiliaid sy'n gysylltiedig â lladd anifeiliaid hela gwyllt ac â gosod cig anifeiliaid hela gwyllt ar y farchnad (OJ Rhif L268, 14.9.92, t.35) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan yr Act Ymaelodi (gweler paragraff 2 o Ran I) a dylid ei ddarllen gyda Chyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC (gweler paragraff 7 o Ran 1).

2.  Penderfyniad y Comisiwn 2000/585/EC sy'n llunio rhestr o drydydd gwledydd y mae Aelod-wladwriaethau'n awdurdodi mewnforio cig cwningod a chig penodol sy'n dod o anifeiliaid hela gwyllt ac o anifeiliaid hela a ffermir, ac sy'n gosod amodau ynghylch iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd ac ynghylch ardystiadau milfeddygol ar gyfer mewnforio'r cig hwn (OJ Rhif L251, 6.10.2000, t.1), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2004/413/EC (OJ Rhif L151, 30.4.2004, t.54).

Sefydliadau trydedd wlad y caniateir mewnforio cig anifeiliaid hela ohonynt

3.  Penderfyniad y Comisiwn 95/408/EC (gweler paragraff 5 o Ran II).

4.  Penderfyniad y Comisiwn 97/468/EC (OJ Rhif L199, 26.7.97, t.62) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan yr Act Ymaelodi (gweler paragraff 2 o Ran I).