- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
13.—(1) Mewn unrhyw achos pan ymddengys i'r swyddog cwynion bod cwyn neu y gallai cwyn fod yn un sy'n ymwneud ag arfer swyddogaethau gan fwy nag un awdurdod lleol (cwyn y mae mwy nag un corff yn ymwneud â hi) rhaid i'r swyddog cwynion, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol—
(a)hysbysu'r corff arall neu'r cyrff eraill sy'n ymwneud â'r gwyn ac ystyried ar y cyd â swyddog cwynion pob un o'r cyrff pa gorff a ddylai arwain y gwaith o ymdrin â'r gwyn; a
(b)hysbysu'r achwynydd o'u penderfyniad.
(2) Rhaid i swyddog cwynion awdurdod lleol sy'n arwain—
(a)sicrhau bod unrhyw ran o'r gwyn sy'n ymwneud â gweithredoedd yr awdurdod lleol yn cael ei hystyried o dan y rhan hon o'r Rheoliadau;
(b)sicrhau y rhoddir gwybod i'r achwynydd sut mae'r ymchwiliad yn mynd rhagddo;
(c)sicrhau bod yr ymateb y mae ei angen o dan reoliad 20 i'r graddau y mae'n ymarferol yn cynnwys ymateb ar unrhyw fater a oedd o fewn cwmpas cyfrifoldeb neu reolaeth unrhyw gorff arall a grybwyllir ym mharagraff (1).
(3) Rhaid i swyddog cwynion awdurdod lleol nad yw'n arwain—
(a)sicrhau bod unrhyw ran o'r gwyn sy'n ymwneud â gweithredoedd yr awdurdod lleol yn cael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn; a
(b)rhoi gwybod i swyddog cwynion y corff sy'n arwain am unrhyw benderfyniad a wneir ar y gwyn o dan reoliad 18, neu am ganlyniad unrhyw ymchwiliad o dan reoliad 19.
14.—(1) Ac eithrio pan fo paragraff (2) yn gymwys, mewn unrhyw achos pan fo cwyn yn ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol â gwasanaethau a ddarperir gan sefydliad neu asiantaeth y mae person wedi'i gofrestru mewn perthynas ag ef neu â hi gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000(1), rhaid i'r awdurdod lleol y mae cwyn o'r fath yn dod i'w law, o fewn 2 ddiwrnod i'r gwyn ddod i law—
(a)anfon manylion am y gwyn gyfan neu am y rhan honno o'r gwyn sy'n ymwneud â'r gwasanaeth cofrestredig at y person a gofrestrwyd fel darparwr y gwasanaeth hwnnw;
(b)gofyn i'r person yr anfonir ato fanylion o dan is-baragraff (a) hysbysu'r awdurdod o fewn 10 niwrnod gwaith o ganlyniad ei ystyriaeth o'r gwyn; a
(c)hysbysu'r achwynydd o'r camau sydd wedi'u cymryd o dan is-baragraffau (a) a (b).
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys—
(a)os yw cwyn eisoes wedi'i hystyried gan y person cofrestredig; neu
(b)os yw'r awdurdod lleol o'r farn y byddai mynd ymlaen o dan baragraff (1) yn debygol o beryglu neu ragfarnu'r ymchwiliad i'r gwyn o dan Ran V o'r Rheoliadau neu y byddai'n peryglu neu'n rhagfarnu ymchwiliad gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Mewn unrhyw achos pan fo cwyn yn ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol â gwasanaethau a ddarperir gan sefydliad neu asiantaeth y mae person wedi'i gofrestru gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef neu hi, rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol os na fu'n bosibl dod i benderfyniad ar y gwyn o dan reoliad 18.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys