xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 3293 (Cy.253)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadu Cyn-gychwyn) (Cymru) (Diwygio) 2005

Wedi'u gwneud

29 Tachwedd 2005

Yn dod i rym

30 Rhagfyr 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(6), 9, 98 a 144(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(1) a chyda chymeradwyaeth Canghellor y Trysorlys i'r graddau y mae'n ofynnol o dan adran 98(6), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005(2).

Diwygio'r Prif Reoliadau

2.—(1Yn rheoliad 12(5) o'r Prif Reoliadau (Cysylltu â'r asiantaeth fabwysiadau briodol), yn lle “(3)”, rhodder “(4)”.

(2Yn rheoliad 18(3) o'r Prif Rheoliadau (Ffioedd), ar ôl “o dan reoliad 13”, ychwanegir “neu 14”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Tachwedd 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005 (“y Prif Reoliadau”) yn gwneud darpariaeth o dan adran 98 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (“y Ddeddf”) at ddibenion cynorthwyo pobl a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005 i gael gwybodaeth am eu mabwysiadu ac i hwyluso cysylltiad rhwng y bobl hynny a'u perthnasau geni drwy wasanaeth cyfryngol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro dau gyfeirnod anghywir o fewn y Prif Reoliadau.

Nid yw'r Prif Reoliadau eisioes mewn grym a bydd y diwygiadau hyn yn cael effaith o'r adeg y bydd y Prif Reoliadau yn dod i rym.

(1)

2002 p.38. Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn adran 144(1) o'r Ddeddf o ran Lloegr, fel yr Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac o ran Cymru a Lloegr, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol yn gweithredu ar y cyd.