- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
29 Tachwedd 2005
Yn dod i rym
30 Rhagfyr 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(6), 9, 98 a 144(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(1) a chyda chymeradwyaeth Canghellor y Trysorlys i'r graddau y mae'n ofynnol o dan adran 98(6), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005(2).
2.—(1) Yn rheoliad 12(5) o'r Prif Reoliadau (Cysylltu â'r asiantaeth fabwysiadau briodol), yn lle “(3)”, rhodder “(4)”.
(2) Yn rheoliad 18(3) o'r Prif Rheoliadau (Ffioedd), ar ôl “o dan reoliad 13”, ychwanegir “neu 14”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Tachwedd 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005 (“y Prif Reoliadau”) yn gwneud darpariaeth o dan adran 98 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (“y Ddeddf”) at ddibenion cynorthwyo pobl a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005 i gael gwybodaeth am eu mabwysiadu ac i hwyluso cysylltiad rhwng y bobl hynny a'u perthnasau geni drwy wasanaeth cyfryngol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro dau gyfeirnod anghywir o fewn y Prif Reoliadau.
Nid yw'r Prif Reoliadau eisioes mewn grym a bydd y diwygiadau hyn yn cael effaith o'r adeg y bydd y Prif Reoliadau yn dod i rym.
2002 p.38. Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn adran 144(1) o'r Ddeddf o ran Lloegr, fel yr Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac o ran Cymru a Lloegr, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol yn gweithredu ar y cyd.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys