- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Rheoliadau 5 a 6)
1. Yn yr Atodlen hon mae'r un ystyr i “awdurdod priodol” (“appropriate authority”) ag yn Atodlen 1.
2. Os bydd awdurdod addysg lleol yn awdurdod priodol mewn perthynas ag ysgol, caiff yr awdurdod hwnnw ddirprwyo i bennaeth yr ysgol unrhyw rai o'i swyddogaethau o dan yr Atodlen hon.
3. Yn ddarostyngedig i baragraffau 4 i 6 rhaid i'r awdurdod priodol wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i ethol athro-lywodraethwyr a staff-lywodraethwyr.
4. Yr awdurdod priodol sydd i benderfynu at ddibenion ethol athro-lywodraethwyr neu staff-lywodraethwyr a yw person yn athro neu athrawes ysgol neu'n cael ei gyflogi fel arall i weithio yn yr ysgol.
5. Yn achos y pŵer a roddir gan baragraff 3—
(a)nid yw'n cynnwys pŵer i osod unrhyw ofynion ynghylch yr isafswm o bleidleisiau y mae angen eu bwrw i ymgeisydd gael ei ethol ond
(b)mae'n cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ynghylch dyddiadau cymhwyso, mae'n cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ynghylch dyddiadau cymhwyso.
6. Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir drwy bleidlais gudd.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys