Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005

Dirprwyo swyddogaethau

50.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 51 o'r Rheoliadau hyn, rheoliad 3(2) o Reoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) 1998(1) a rheoliad 7 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000(2), caiff y corff llywodraethu ddirprwyo unrhyw rai o'i swyddogaethau i—

(a)pwyllgor;

(b)unrhyw lywodraethwr; neu

(c)y pennaeth (boed lywodraethwr neu beidio).

(2Pan fo corff llywodraethu wedi dirprwyo swyddogaethau ni fydd hyn yn rhwystro'r corff llywodraethu rhag arfer y swyddogaethau hynny.

(3Rhaid i'r corff llywodraethu adolygu'n flynyddol y modd yr arferir swyddogaethau a ddirprwywyd ganddo.

(1)

O.S. 1998/2535 fel y'i diwygiwyd mewn perthynas â Chymru gan O.S. 1999/2243.