Diwygio Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002
17.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002(1) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn lle'r diffiniad o “ysgol”, rhodder y canlynol—
“ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig neu ysgol feithrin a gynhelir;”.