Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ombwdsmon Tai Cymdeithasol (Cymru) 2005

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1816 (Cy.145)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Ombwdsmon Tai Cymdeithasol (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

5 Gorffennaf 2005

Yn dod i rym

15 Gorffennaf 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 51B o Ddeddf Tai 1996(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ombwdsmon Tai Cymdeithasol (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “achwynydd”; (“complainant”) yw person sy'n honni ei fod wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi oherwydd mater y mae gan OTCC hawl i ymchwilio iddo o dan y Rheoliadau hyn a hwnnw'n berson nad yw'n landlord cymdeithasol sy'n gweithredu yn rhinwedd ei swyddogaeth fel landlord o'r fath;

  • mae “camau”; (“action”) yn cynnwys methiant i weithredu (a rhaid dehongli ymadroddion cysylltiedig yn unol â hynny);

  • ystyr “camau perthnasol”; (“relevant action”) yw'r camau a gymerir gan y landlord cymdeithasol yn ei swyddogaeth fel landlord cymdeithasol;

  • ystyr “gwasanaeth perthnasol”; (“relevant service”) yw unrhyw wasanaeth y mae'n swyddogaeth y landlord cymdeithasol i'w ddarparu yn rhinwedd ei swydd fel landlord cymdeithasol;

  • mae i “landlord cymdeithasol”; (“social landlord”) yr ystyr a roddir i “social landlord in Wales”; fel y'i diffinnir yn adran 51C(1) o Ddeddf Tai 1996(2); ac

  • ystyr “OTCC”; (“SHOW”) yw Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru(3).

Materion y caniateir gwneud cwynion amdanynt

3.  Mae'r canlynol yn faterion y caniateir gwneud cwynion amdanynt i OTCC yn unol â'r Rheoliadau hyn:

(a)camweinyddu honedig gan landlord cymdeithasol mewn cysylltiad â chamau perthnasol;

(b)methiant honedig gan landlord cymdeithasol i ddarparu gwasanaeth perthnasol; ac

(c)methiant honedig mewn gwasanaeth perthnasol a ddarparwyd gan landlord cymdeithasol.

Y seiliau y mae mater yn cael ei eithrio rhag ymchwiliad o'u herwydd

4.—(1Ni chaiff OTCC ymchwilio i'r canlynol:

(a)materion sy'n codi mewn cysylltiad â landlord cymdeithasol sy'n cyflawni unrhyw un o'i swyddogaethau heblaw o ran Cymru;

(b)camau a gymerwyd gan y landlord cymdeithasol pan nad oedd y landlord cymdeithasol hwnnw wedi'i gofrestru;

(c)materion o ran contract cyflogaeth rhwng y landlord cymdeithasol ac unrhyw berson arall (ond nid gweithdrefnau ar gyfer recriwtio a phenodi);

(ch)materion o ran penderfynu swm y rhent; a

(d)mater sy'n destun cwyn a wnaed i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn erbyn landlord cymdeithasol cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym oni bai bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno y caiff OTCC ymchwilio i'r mater.

(2Ni chaiff OTCC ymchwilio i fater os oes neu os oedd rhwymedi gan yr achwynydd drwy reithdrefnau mewn llys cyfraith, oni fydd OTCC wedi'i fodloni, yn yr amgylchiadau penodol, nad yw'n rhesymol disgwyl i'r achwynydd gyrchu, neu ddisgwyl ei fod wedi cyrchu, rhwymedi drwy lys.

(3) (ayn ddarostyngedig i is-baragraff (b) ni chaiff OTCC ymchwilio i fater onid yw wedi'i fodloni:

(i)bod y mater wedi cael ei ddwyn i sylw'r landlord cymdeithasol y mae'n ymwneud ag ef gan neu ar ran yr achwynydd; a

(ii)bod y landlord cymdeithasol wedi cael cyfle rhesymol i ymchwilio ac ymateb i'r gŵyn yn unol â gweithdrefn gwyno'r landlord cymdeithasol.

(b)nid yw is-baragraff (a) yn gymwys os yw OTCC wedi'i fodloni ei bod yn rhesymol, serch hynny, iddo ymchwilio i'r mater yn yr amgylchiadau penodol.

(4Nid yw paragraffau (1) i (3) yn atal OTCC rhag ymchwilio i gamau a gymerwyd gan landlord cymdeithasol i weithredu gweithdrefn a sefydlwyd i ymchwilio i gwynion neu i adolygu penderfyniadau.

Disgrifiad o unigolyn a gaiff gwyno

5.—(1Dyma'r personau sy'n cael cwyno:

(a)achwynydd;

(b)person a awdurdodwyd gan yr achwynydd i weithredu ar ei ran; ac

(c)os nad yw'r achwynydd yn alluog i awdurdodi person i weithredu ar ei ran, person y mae'n ymddangos i OTCC ei fod yn briodol i gynrychioli achwynydd.

(2OTCC sydd i benderfynu unrhyw gwestiwn a oes gan berson hawl o dan y rheoliad hwn i gwyno.

Pŵer OTCC i ymchwilio i gŵyn a wnaed

6.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 5 caiff OTCC ymchwilio i gŵyn os gwnaed y gŵyn gan neu ar ran achwynydd yn unol â'r Rheoliadau hyn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) rhaid gwneud cwyn yn ysgrifenedig, gan bennu'r materion y cwynir amdanynt.

(3Nid oes angen cwyno'n ysgrifenedig os yw OTCC wedi'i fodloni bod amgylchiadau arbennig sy'n ei gwneud yn briodol i'r gŵyn gael ei gwneud ar lafar.

(4Rhaid gwneud cwyn i OTCC cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y diwrnod y daeth yr achwynydd yn ymwybodol yn gyntaf o'r materion a honnwyd yn y gŵyn, ond caiff OTCC hepgor y gofyniad hwn os yw OTCC o'r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6) caiff OTCC:

(a)penderfynu a ddylid cychwyn neu barhau ymchwiliad neu ddirwyn ymchwiliad i ben; a

(b)cychwyn neu barhau ymchwiliad i gŵyn hyd yn oed os tynnwyd y gŵyn yn ôl.

(6Os bydd OTCC yn unol â pharagraff (5) yn penderfynu peidio ag ymchwilio neu'n penderfynu dirwyn ymchwiliad i ben, rhaid i OTCC baratoi datganiad ysgrifenedig o'r rhesymau dros y penderfyniad.

(7Rhaid i OTCC anfon copi o'r datganiad at:

(a)yr achwynydd;

(b)y landlord cymdeithasol; ac

(c)unrhyw berson arall y mae OTCC yn barnu ei fod yn briodol.

(8Os bydd datganiad ysgrifenedig o'r rhesymau a baratowyd o dan baragraff (6) –

(a)yn crybwyll enw unrhyw berson heblaw'r landlord cymdeithasol y gwnaed y gŵyn amdano, neu

(b)yn cynnwys unrhyw fanylion sydd, ym marn OTCC, yn debyg o ddangos pwy yw unrhyw berson o'r fath a'r rheini'n fanylion y gellid eu hepgor, ym marn OTCC, heb amharu ar effeithiolrwydd y datganiad o'r rhesymau,

rhaid peidio â chynnwys yr wybodaeth honno mewn fersiwn o'r datganiad o'r rhesymau a anfonir at berson o dan baragraff (7), a hynny'n ddarostyngedig i baragraff (9).

(9Nid yw paragraff (8) yn gymwys o ran fersiwn o'r datganiad o'r rhesymau os bydd OTCC, ar ôl pwyso a mesur buddiannau'r achwynydd a buddiannau unrhyw bersonau eraill y mae OTCC yn meddwl eu bod yn briodol, yn barnu y byddai cynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o'r datganiad o'r rhesymau er lles y cyhoedd.

Y weithdrefn sydd i'w dilyn wrth gynnal ymchwiliadau

7.—(1Os bydd OTCC yn penderfynu ymchwilio i gŵyn, rhaid i OTCC:

(a)rhoi cyfle i'r landlord cymdeithasol wneud sylwadau ar unrhyw honiadau sydd yn y gwyn; a

(b)rhoi cyfle i unrhyw berson arall yr honnir yn y gŵyn ei fod wedi cymryd y camau neu awdurdodi'r camau y cwynir amdanynt wneud sylwadau ar unrhyw honiadau ynglŷn â'r person hwnnw.

(2Rhaid cynnal ymchwiliad yn unol â'r Rheoliadau hyn yn breifat.

(3Mae'r weithdrefn ar gyfer cynnal ymchwiliad i fod yn weithdrefn y mae OTCC yn ystyried ei bod yn briodol yn amgylchiadau'r achos.

(4At ddibenion ymchwiliad caiff OTCC ofyn i'r landlord cymdeithasol ac unrhyw berson yr ystyrir ei fod yn gallu rhoi gwybodaeth neu ddangos dogfen sy'n berthnasol i'r ymchwiliad i wneud hynny.

(5At ddibenion ymchwiliad caiff OTCC ofyn:

(a)i dystion fod yn bresennol a chael eu holi; a

(b)bod dogfennau yn cael eu dangos.

(6Bydd methu â chydymffurfio â pharagraffau (4) a (5) yn golygu y caiff OTCC ddod i'r casgliadau y bydd yn barnu eu bod yn briodol.

(7Caiff OTCC ofyn i unrhyw berson a ystyrir yn briodol ddarparu unrhyw gyfleuster y mae ei angen yn rhesymol at ddibenion ymchwiliad.

Penderfynu

8.—(1Ar ôl cwblhau ymchwiliad i gŵyn, rhaid i OTCC wneud penderfyniad ysgrifenedig ynglŷn â hi.

(2Os bydd OTCC mewn penderfyniad yn casglu bod yr achwynydd wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad i'r mater yr ymchwilir iddo, rhaid i'r landlord cymdeithasol ystyried y penderfyniad ac unrhyw argymhellion sydd ynddo a hysbysu OTCC yn ysgrifenedig cyn diwedd cyfnod o un mis ar ôl y dyddiad y daw'r penderfyniad i law'r landlord cymdeithasol (neu unrhyw gyfnod hwy y caiff OTCC ei ganiatáu'n ysgrifenedig) o'r canlynol:

(a)y camau y mae wedi eu cymryd neu'n bwriadu eu cymryd wrth ymateb i'r penderfyniad, a

(b)o fewn pa gyfnod y mae'n bwriadu cymryd y camau hynny (os nad yw eisioes wedi'u cymryd).

(3Os na fydd OTCC wedi cael yr hysbysiad sy'n ofynnol o dan baragraff (2) cyn diwedd y cyfnod a bennir yn y paragraff hwnnw, neu os bydd wedi cael yr hysbysiad ond nad yw'n fodlon naill ai:

(a)ar y camau y mae'r landlord cymdeithasol wedi eu cymryd neu'n bwriadu eu cymryd,

(b)ar hyd y cyfnod y mae'n bwriadu cymryd y camau hynny o'i fewn,

(c)bod y landlord cymdeithasol wedi cymryd y camau yr oedd yn bwriadu eu cymryd o fewn y cyfnod perthnasol,

caiff OTCC baratoi adroddiad arbennig yn unol â pharagraff (4).

(4Rhaid i adroddiad arbennig gynnwys y canlynol:

(a)y penderfyniad ynglŷn â'r ymchwiliad; a

(b)ymateb y landlord cymdeithasol i'r penderfyniad hwnnw; ac

(c)unrhyw argymhellion, os oes rhai, y gwêl OTCC yn dda eu gwneud o ran y camau y dylai'r landlord cymdeithasol eu cymryd ym marn OTCC:

(i)i wneud iawn am yr anghyfiawnder neu'r caledi i'r achwynydd; a

(ii)i atal anghyfiawnder neu galedi tebyg rhag cael ei achosi yn y dyfodol.

(5Os yw penderfyniad neu adroddiad arbennig –

(a)yn crybwyll enw unrhyw berson heblaw'r landlord cymdeithasol y gwnaed y gŵyn amdano, neu

(b)yn cynnwys unrhyw fanylion sydd, ym marn OTCC, yn debyg o ddangos pwy yw unrhyw berson o'r fath a'r rheini'n fanylion y gellid eu hepgor, ym marn OTCC, heb amharu ar effeithiolrwydd y penderfyniad neu'r adroddiad arbennig,

rhaid peidio â chynnwys yr wybodaeth honno mewn fersiwn o'r penderfyniad neu'r adroddiad arbennig a anfonir at berson o dan reoliad 11(1), neu a gyhoeddir o dan reoliad 11(2), a hynny'n ddarostyngedig i baragraff (6).

(6Nid yw paragraff (5) yn gymwys o ran fersiwn o'r penderfyniad neu'r adroddiad arbennig os yw OTCC, ar ôl cymryd i ystyriaeth fuddiannau'r achwynydd ac unrhyw bersonau eraill y mae OTCC yn meddwl eu bod yn briodol, yn barnu y byddai er lles y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o'r penderfyniad neu'r adroddiad arbennig.

Dulliau amgen o ddatrys anghydfod

9.—(1Caiff OTCC gymryd unrhyw gamau y mae'n ystyried sy'n briodol er mwyn datrys cwyn y mae gan OTCC bŵer i ymchwilio iddi o dan reoliad 6.

(2Caiff OTCC gymryd unrhyw gamau o dan y rheoliad hwn yn ogystal â chynnal ymchwiliad i'r gŵyn neu yn lle ei gynnal.

(3Rhaid cymryd unrhyw gamau o dan y rheoliad hwn yn breifat.

Ymgynghori a chydweithredu â phersonau eraill

10.  Caiff OTCC ymghynghori ag unrhyw un a all fod o gymorth mewn ymchwiliad a gofyn bod yr wybodaeth honno neu'r dogfennau hynny yr ystyrir eu bod yn berthnasol i'r ymchwiliad yn cael eu dangos at ddibenion yr ymchwiliad.

Dull cyfathrebu a chyhoeddi'r penderfyniadau a'r adroddiadau arbennig

11.—(1Pan fydd penderfyniad wedi'i wneud yn unol â rheoliad 8(1) neu pan fydd adroddiad wedi'i baratoi o dan reoliad 8(4), rhaid i OTCC anfon copi o'r penderfyniad neu'r adroddiad hwnnw at y canlynol:

(a)y person a wnaeth y gŵyn;

(b)y landlord cymdeithasol, neu unrhyw berson arall yr honnir yn y gŵyn ei fod wedi cymryd y camau y cwynir amdanynt neu ei fod wedi'u hawdurdodi;

(c)Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac

(ch)unrhyw berson arall neu bersonau eraill y mae OTCC yn ystyried sy'n briodol.

(2Caiff OTCC gyhoeddi penderfyniad neu adroddiad arbennig ar unrhyw gŵyn, naill ai yn ei gyfanrwydd neu'n rhannol, os yw OTCC o'r farn, ar ôl pwyso a mesur buddiannau'r achwynydd a buddiannau unrhyw berson arall y mae OTCC yn ystyried sy'n briodol, ei fod er lles y cyhoedd i wneud hynny.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Gorffennaf 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae adran 228 o Ddeddf Tai 2004 yn mewnosod adran 51B (Ymchwilio i gwynion) yn Neddf Tai 1996 (“Deddf 1996”). Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 51B o Ddeddf 1996 ac maent yn gwneud darpariaeth ynglyn ag ymchwiliadau gan Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru (“OTCC”) i gwynion a wnaed yn erbyn landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru fel y diffinnir “social landlords in Wales”; yn adran 51C(1) o Ddeddf 1996. Yn rhinwedd adran 51A (Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru) o Ddeddf 1996 y person sydd yn Gomisiynydd Lleol Cymru yw OTCC hefyd.

Mae rheoliad 3 yn nodi'r materion y caniateir gwneud cwynion amdanynt. Mae rheoliad 4 yn nodi ar ba sail y caniateir eithrio mater rhag ymchwiliad. Mae rheoliad 5 yn pennu unigolion a gaiff gwyno. Mae rheoliad 6 yn nodi pŵer OTCC i ymchwilio i gŵyn. Ymdrinnir â'r weithdrefn sydd i'w dilyn wrth gynnal ymchwiliadau yn rheoliad 7. Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i OTCC wneud penderfyniad ysgrifenedig o ran cwyn. Mae rheoliad 9 yn cynnwys darpariaeth i OTCC atgyfeirio cwynion at ddull amgen priodol i ddatrys anghydfod. Mae rheoliad 10 yn ymdrin ag ymgynghori a chydweithredu â phersonau eraill. Mae rheoliad 11 yn nodi dull cyfathrebu a chyhoeddi penderfyniadau ac adroddiadau arbennig.

(1)

1996 p.52. Mewnosodwyd adran 51B gan adran 228 o Ddeddf Tai 2004 (p.34). Daw adran 51B i rym ar 14 Mehefin 2005 drwy O.S. 2005/1844 (Cy.144) (C.75) .

(2)

1996 p. 52. Gweler adran 51C(1)

(3)

Gweler adran 51A (Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru) o Ddeddf Tai 1996 (p.52) — bydd y person sydd yn Gomisiynydd Lleol Cymru hefyd yn Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill