xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CHYSBYSU'R FANGRE

Gofyniad i hysbysu'r fangreLL+C

21.—(1Pan fo gwastraff peryglus yn cael ei gynhyrchu mewn unrhyw fangre heblaw mangre esempt neu'n cael ei symud oddi yno, rhaid hysbysu'r fangre i'r Asiantaeth yn unol â gofynion y Rhan hon.

(2Mae mangre a hysbyswyd yn briodol i'r Asiantaeth yn unol â'r Rhan hon yn fangre a hysbyswyd at ddibenion y Rheoliadau hyn am y cyfnod o ddeuddeg mis (“cyfnod yr hysbysiad”) sy'n dechrau ar yr amser effeithiol ac yn dod i ben ar ddiwedd diwrnod olaf y cyfnod hwnnw o ddeuddeg mis.

(3Mae'n ddyletswydd ar gynhyrchydd gwastraff peryglus i hysbysu'r fangre berthnasol yn unol â rheoliadau 24 a 26 os nad yw wedi'i hysbysu fel arall eisoes.

(4Heb leihau effaith paragraff (3), caiff traddodwr, yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn rheoliad 25, hysbysu mangre'r safle yn unol â'r rheoliad hwnnw a rheoliad 26.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 21 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I2Rhl. 21 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwahardd symud gwastraff peryglus o fangre oni roddwyd hysbysiad neu onid yw'n esemptLL+C

22.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb symud, na pheri symud, na chludo gwastraff peryglus o unrhyw fangre, onid yw'r fangre honno, pan symudir y gwastraff, yn fangre a hysbyswyd neu'n fangre esempt.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i symud neu gludo gwastraff peryglus o unrhyw fangre os oedd y gwastraff hwnnw wedi'i ddyddodi yn y fangre honno yn groes i adran 33 o Ddeddf 1990 heblaw drwy honni cydymffurfedd â thrwydded rheoli gwastraff neu esemptiad cofrestredig.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 22 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I4Rhl. 22 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Esemptiad rhag y gofyniad i hysbysuLL+C

23.—(1Nid oes angen hysbysu mangre esempt i'r Asiantaeth yn unol â'r Rhan hon.

(2Mae mangre o ddisgrifiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3), i'r graddau a bennir yn y paragraff hwnnw, yn fangre esempt am y tro—

(a)os cedwir y terfyn cymwys (heblaw mewn perthynas â llong); a

(b)os na symudir gwastraff peryglus o'r fangre gan unrhyw berson heblaw—

(i)cludwr cofrestredig; neu

(ii)cludwr sy'n esempt rhag y gofyniad i gofrestru fel cludwr cofrestredig yn unol â Deddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989(1).

(3Dyma'r disgrifiadau o fangreoedd—

(a)mangre swyddfa, i'r graddau bod y gwastraff peryglus yn deillio wrth ddefnyddio'r fangre fel swyddfa;

(b)mangre siop, i'r graddau bod y gwastraff peryglus yn deillio wrth ddefnyddio'r fangre fel siop;

(c)mangre sy'n cael ei defnyddio ar gyfer amaethyddiaeth o fewn ystyr Deddf Amaethyddiaeth 1947(2), i'r graddau bod gwastraff peryglus yn deillio wrth ddefnyddio'r fangre ar gyfer amaethyddiaeth;

(ch)mangre o ddisgrifiad a restrir—

(i)ym mharagraffau (a) i (e) o adran 75(5) o Ddeddf 1990; neu

(ii)yn Atodlen 1 i Reoliadau Gwastraff a Reolir 1992(3),

(d)mangre lle mae cyfarpar gwastraff trydanol ac electronig yn cael ei gasglu, i'r graddau y mae'r fangre yn cael ei defnyddio at y diben hwnnw;

(dd)mangre sy'n cael ei defnyddio gan bractis deintyddol, milfeddygol neu feddygol i'r graddau y mae'r fangre yn cael ei defnyddio at y diben hwnnw; ac

(e)unrhyw long.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 23 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I6Rhl. 23 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Hysbysiad gan gynhyrchyddLL+C

24.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i gynhyrchydd gwastraff peryglus hysbysu mangre'r safle i'r Asiantaeth neu, os yw'n gweithredu gwasanaeth symudol ac yn dewis trin mangre'r gwasanaeth fel y fangre berthnasol mewn perthynas ag unrhyw fangre gysylltiedig, mangre'r gwasanaeth—

(a)cyn y tro cyntaf y mae'n cynhyrchu gwastraff peryglus ar fangre'r safle, neu, yn achos hysbysu mangre'r gwasanaeth ar unrhyw un o'r mangreoedd perthnasol ar safle, yn ôl gofynion yr achos;

(b)os oedd y fangre berthnasol cyn hynny yn fangre a hysbyswyd, ond bod cyfnod yr hysbysiad wedi dod i ben, cyn y tro nesaf y bydd yn cynhyrchu gwastraff peryglus ar fangre'r safle neu unrhyw un o fangreoedd cysylltiedig, yn ôl gofynion yr achos;

(c)pan fo'r fangre yn peidio â bod yn fangre esempt, cyn y tro nesaf y bydd yn cynhyrchu gwastraff peryglus ar y safle honno; neu

(ch)os bydd y fangre a hysbyswyd yn peidio â bod yn fangre'r gwasanaeth mewn perthynas ag unrhyw fangre gysylltiedig o ran mynd dros y terfynau cymwys y darperir ar eu cyfer yn rheoliad 30 mewn perthynas â'r fangre gysylltiedig honno, cyn mynd dros y terfynau hynny.

(2Os na ellir yn rhesymol ragweld y bydd gweithgareddau'r cynhyrchydd yn cynhyrchu gwastraff peryglus, mae paragraff (1) yn gymwys fel pe rhoddid yn lle “cyn” bob tro y mae'n digwydd, “cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedyn”.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 24 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I8Rhl. 24 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Hysbysiad gan draddodwrLL+C

25.—(1Rhaid i draddodwr sy'n bwriadu symud, neu beri symud, unrhyw wastraff peryglus o unrhyw fangre hysbysu'r fangre honno i'r Asiantaeth—

(a)os y fangre honno yw mangre'r safle ac os na wyddys pwy yw'r cynhyrchydd, neu os na ellir dod o hyd iddo heb anhwylustod afresymol neu dreuliau afresymol; neu

(b)os na chynhyrchwyd y gwastraff ar y fangre honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 25 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I10Rhl. 25 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Darpariaethau cyffredin ynghylch hysbysiadauLL+C

26.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys p'un a roddir hysbysiad gan neu ar ran y cynhyrchydd neu'r traddodwr.

(2Gellir rhoi hysbysiad o'r fangre berthnasol yn ysgrifenedig neu dros y ffôn.

(3Ni cheir rhoi hysbysiad heb gydsyniad yr Asiantaeth fwy nag un mis ymlaen llaw i'r amser y bydd yn effeithiol.

(4Rhaid i'r person sy'n rhoi'r hysbysiad roi'r wybodaeth ganlynol i'r Asiantaeth—

(a)ei enw a'i gyfeiriad a manylion sut y gellir cysylltu ag ef, ac os yw'n hysbysu ar ran person arall, enw a chyfeiriad y person hwnnw a manylion sut y gellir cysylltu â'r person hwnnw;

(b)cyfeiriad y fangre sy'n cael ei hysbysu;

(c)dosbarthiad y fangre yn unol â'r SIC; ac

(ch)unrhyw wybodaeth arall y gall yr Asiantaeth yn rhesymol ofyn amdani mewn cysylltiad â'i swyddogaethau monitro symud gwastraff peryglus, neu arolygu yn unol â rheoliad 56 o'r Rheoliadau hyn neu baragraff 13 o Atodlen 4 i Reoliadau 1994.

(5Os bydd unrhyw newidiadau yn yr wybodaeth sy'n cael ei darparu yn unol â pharagraff (4) yn ystod y cyfnod hysbysu, nid yw'r fangre i'w thrin fel mangre sydd wedi'i hysbysu tan fydd yr Asiantaeth wedi cael yr wybodaeth sydd wedi'i diweddaru yn y fath fodd ag i fodloni gofynion paragraff (4).

(6Caiff yr Asiantaeth ragnodi model wedi ei fformadu i hysbysu mangre yn ysgrifenedig ac, os rhagnodir fformat am y tro yn unol â'r paragraff hwn—

(a)rhaid i'r Asiantaeth gyhoeddi'r model wedi'i fformadu ar ei gwefan ac mewn modd arall y mae'n ystyried sy'n briodol i hysbysu personau y mae'n ofynnol iddynt hysbysu'r fangre o'i gynnwys; a

(b)nid yw'r Asiantaeth yn gorfod ystyried unrhyw hysbysiad oni chafodd ei wneud yn y model hwnnw a fformadwyd, neu mewn fformat ag effaith sylweddol debyg.

(7Rhaid i'r person sy'n hysbysu dalu i'r Asiantaeth y ffi berthnasol sy'n daladwy ar gyfer hysbysu'r fangre ar yr un pryd ag y rhoddir yr hysbysiad (ond nid oes unrhyw ffioedd yn daladwy mewn perthynas â gwybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (5)).

(8Os gofynnir iddi wneud hynny, rhaid i'r Asiantaeth hysbysu person sy'n ddeiliad gwastraff peryglus neu sy'n cynnal busnes traddodi neu gasglu gwastraff peryglus p'un a yw unrhyw fangre lle mae'r person hwnnw yn bwriadu symud, peri symud neu gludo unrhyw wastraff peryglus yn fangre a hysbyswyd, ac os felly, y manylion sydd gan yr Asiantaeth ynghylch y person a hysbysodd y fangre ac amser effeithiol yr hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 26 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I12Rhl. 26 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Cod mangreLL+C

27.—(1Pan hysbysir mangre berthnasol yn briodol i'r Asiantaeth, a bod yr Asiantaeth yn cael y ffi berthnasol, rhaid iddi wrth ei derbyn ddyroddi i'r person sy'n hysbysu god cofrestru, sef cod unigryw ar gyfer y fangre honno (“cod mangre”).

(2Caniateir i'r cod mangre gynnwys llythrennau, Rhif au neu symbolau, neu unrhyw gyfuniad o lythrennau, Rhif au a symbolau.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 27 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I14Rhl. 27 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Yr amser effeithiolLL+C

28.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) o'r Rheoliad hwn a heb leihau effaith rheoliad 26(3), yr amser y mae'r hysbysiad yn cymryd effaith (“yr amser effeithiol”) yw—

(a)os oes cyfnod o hysbysiad blaenorol yn parhau mewn grym, pan ddaw'r cyfnod hwnnw i ben;

(b)os yw'r person sy'n rhoi'r hysbysiad yn gofyn am ddyddiad ar gyfer cychwyn, ar ddechrau'r dyddiad y gofynnwyd amdano;

(c)ym mhob achos arall, ar ddechrau'r pedwerydd diwrnod busnes ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

(2Ni all hysbysiad ddod yn effeithiol cyn yr amser y bydd yr Asiantaeth yn dyroddi'r cod mangre ar gyfer y cyfnod y mae'r hysbysiad yn ymdrin ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 28 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I16Rhl. 28 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwasanaethau symudolLL+C

29.—(1Os yw cynhyrchydd gwastraff peryglus yn gweithredu gwasanaeth symudol, y fangre berthnasol mewn perthynas ag unrhyw fangre gysylltiedig yw mangre y mae paragraff (2) yn gymwys iddi (“mangre'r gwasanaeth”) tra gweithredir y gwasanaeth symudol hwnnw o fewn y terfynau cymwys ac yr ufuddheir i'r cyfyngiad deiliadaeth o ran pob mangre gysylltiedig.

(2Dyma'r mangreoedd y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddynt—

(a)y fangre lle gweithredir y gwasanaeth symudol; neu

(b)os gweithredir y gwasanaeth symudol o fwy nag un set o fangreoedd, prif le busnes y cynhyrchydd.

(3Os yw unrhyw fangre—

(a)yn fangre safle ar wahân i'r gwasanaeth symudol; a hefyd

(b)yn fangre mewn perthynas â'r gwasanaeth symudol,

caniateir gwneud un hysbysiad unigol.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 29 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I18Rhl. 29 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Y terfynau cymwysLL+C

30.—(1Y terfynau cymwys ar gyfer—

(a)gwasanaeth symudol yw bod cyfanswm maint y gwastraff peryglus a gynhyrchir wrth gynnal y gwasanaeth hwnnw mewn unrhyw set unigol o fangreoedd cysylltiedig yn llai na 200kg mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis; a

(b)unrhyw fangre esempt yw bod cyfanswm y gwastraff peryglus a gynhyrchwyd yn y fangre yn llai na 200kg mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis.

(2Mae gwastraff peryglus a gynhyrchir ar fangre siop gan gwsmeriaid y meddiannydd i'w drin fel pes cynhyrchwyd gan y meddiannydd at ddibenion y Rheoliad hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Rhl. 30 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I20Rhl. 30 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Cyfyngiad y ddeiliadaethLL+C

31.  Cyfyngiad y ddeiliadaeth yw nad yw gweithredydd y gwasanaeth symudol naill ai'n berchen nac yn feddiannydd y mangreoedd cysylltiedig hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Rhl. 31 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I22Rhl. 31 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Dehongli'n gyffredinol Ran 5LL+C

32.  Yn y Rhan hon—

mae i “amser effeithiol” (“effective time”) yr ystyr a roddir gan reoliad 28;

ystyr “cludwr cofrestredig” (“registered carrier”) yw cludwr a gofrestrwyd yn unol â Deddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989(4);

mae i “cyfnod hysbysu” (“period of notification”) yr ystyr a roddir gan reoliad 21(2);

ystyr “Deddf 1963” (“the 1963 Act”) yw Deddf Swyddfeydd, Siopau a Mangreoedd Rheilffyrdd 1963(5);

ystyr “ffi berthnasol” (“relevant fee”) yw'r ffi sy'n daladwy yn ôl cynllun a wnaed yn unol ag adran 41 o Ddeddf 1995;

mae i “cyfarpar gwastraff trydanol ac electronig” yr ystyr a roddir i “waste electrical and electronic equipment” yng Nghyfarwyddeb 2002/96/EC(6);

mae i “mangre a hysbyswyd” (“notified premises”) yr ystyr a roddir gan reoliad 21(2);

ystyr “mangre berthnasol” (“relevant premises”) yw'r fangre y mae'n ofynnol i'r cynhyrchydd neu'r traddodwr ei hysbysu;

mae i “mangre esempt” (“exempt premises”) yr ystyr a roddir gan reoliad 23;

mae i “mangre gwasanaeth” (“service premises”) yr ystyr a roddir gan reoliad 29(1);

ystyr “mangre gysylltiedig” (“related premises”) yw mangre safle lle mae gwasanaeth symudol yn cynhyrchu gwastraff y mae mangre safle yn fangre berthnasol ar ei gyfer yn unol â rheoliad 29;

ystyr “mangre safle” (“site premises”) yw mangre lle mae gwastraff peryglus yn cael ei gynhyrchu;

mae i “mangre siop” yr ystyr a roddir i “shop premises” gan adran 1(3) o Ddeddf 1963; a

mae i “mangre swyddfa” yr ystyr a roddir i “office premises” gan adran 1(2)(a) o Ddeddf 1963.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Rhl. 32 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I24Rhl. 32 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

(3)

O.S. 1992/588. Diwygiwyd rheoliad 2 gan reoliad 24(3) o O.S. 1994/1056; mae diwygiadau eraill i O.S. 1992/588 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(6)

OJ Rhif L 037, 13.12.2003, t.24.