xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CCYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym fel a ganlyn —

(a)Rhannau 1, 2, paragraff 1 o Ran 1 o Atodlen 12 ac, at ddibenion y paragraff hwnnw yn unig, yn Rhan 5, rheoliadau 59(3) ac Atodlen 9 a rheoliad 74 ar 6 Gorffennaf 2005; a

(b)y gweddill, ar 16 Gorffennaf 2005.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

Y Gyfarwyddeb Wastraff ac ystyr GwastraffLL+C

2.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn —

(a)ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff” (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC(1) ar wastraff fel y'i diwygiwyd gan —

(i)Cyfarwyddebau'r Cyngor 91/156/EEC(2) a 91/692/EEC(3);

(ii)Penderfyniad y Comisiwn 96/350/EC(4); a

(iii)Rheoliad (EC)Rhif 1882/2003(5); a

(b)ystyr “gwastraff” (“waste”) yw unrhyw beth—

(i)sy'n wastraff(6) at ddibenion y Gyfarwyddeb Wastraff; a

(ii)yn ddarostyngedig i reoliad 15, nas gwaharddwyd o rychwant y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 2 o'r Gyfarwyddeb honno.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at amodau'r Gyfarwyddeb Wastraff yn gyfeiriad at yr amodau a osodwyd yn Erthygl 4 o'r Gyfarwyddeb honno, sef, sicrhau bod gwastraff yn cael ei adfer neu ei waredu heb beryglu iechyd dynol a heb ddefnyddio prosesau neu ddulliau a allai niweidio'r amgylchedd ac yn benodol—

(a)heb beri risg i ddŵr, aer, pridd a phlanhigion ac anifeiliaid;

(b)heb beri niwsans drwy sŵn neu arogleuon; ac

(c)heb effaith andwyol ar gefn gwlad neu fannau o ddiddordeb arbennig.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

Y Gyfarwyddeb Gwastraff PeryglusLL+C

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus” (“the Hazardous Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC(7) ar wastraff peryglus, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 94/31/EC(8).

(2Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at—

(a)Atodiad I, Atodiad II neu Atodiad III yn gyfeiriad at yr atodiad i'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus a rifwyd felly, fel y nodir yr atodiad hwnnw yn y Rheoliadau hyn fel a ganlyn—

(i)Atodlen 1, sy'n dangos Atodiad I (Categorïau neu fathau generig o wastraff peryglus a restrwyd yn ôl eu natur neu'r gweithgaredd a'u cynhyrchodd);

(ii)Atodlen 2, sy'n nodi Atodiad II (Cyfansoddion gwastraffoedd yn Atodiad I.B sy'n eu gwneud yn beryglus pan fydd ganddynt y nodweddion a ddisgrifir yn Atodiad III); a

(iii)Atodlen 3, sy'n nodi Atodiad III (Nodweddion gwastraffoedd sy'n eu gwneud yn beryglus);

(b)mae nodweddion peryglus yn gyfeiriad at y nodweddion a geir ac a nodir yn Atodiad III.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

Y Rhestr WastraffoeddLL+C

4.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Penderfyniad y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2000/532/EC(9) ar 3 Mai 2000 yn disodli Penderfyniad 94/3/EC sy'n sefydlu rhestr wastraffoedd yn unol ag Erthygl 1(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff a Phenderfyniad y Cyngor 94/904/EC sy'n sefydlu rhestr o wastraffoedd peryglus yn unol ag Erthygl 1(4) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC ar wastraff peryglus, fel y'i diwygiwyd gan y diwygiadau i hynny sy'n effeithiol o dro i dro o ran Cymru yn unol â Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd;

ystyr “Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes Regulations”) yw Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005(10); ac

ystyr “y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes”) yw'r rhestr wastraffoedd a nodir ym Mhenderfyniad y Rhestr Wastraffoedd fel y'i nodir o bryd i'w gilydd yn Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd, sef y rhestr y cyfeirir ati yn indent cyntaf Erthygl 1(4) o'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus a luniwyd ar sail Atodiadau I a II, a honno'n rhestr a chanddi un neu fwy o'r nodweddion a restrir yn Atodiad III, gan gymryd i ystyriaeth darddiad a chyfansoddiad y gwastraff ac, os oes angen, gwerthoedd terfyn y crynodiad.

(2Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn ynglŷn â'r ffaith bod unrhyw wastraff—

(a)“wedi'i restru fel gwastraff ” ac “wedi'i restru fel gwastraff peryglus” yn cyfeirio at y ffaith bod y gwastraff hwnnw wedi'i restru fel gwastraff, neu fel gwastraff peryglus, yn ôl y digwydd, yn y Rhestr Wastraffoedd, ar yr amod, yn achos gwastraff y mae gwerth terfyn o grynodiad yn gymwys iddo, mai dim ond pan fo'r gwerth terfyn perthnasol o grynodiad wedi'i fodloni y dylid barnu ei fod wedi'i restru fel gwastraff peryglus;

(b)“heb ei restru fel gwastraff peryglus” yn cyfeirio at y ffaith bod y gwastraff hwnnw heb ei restru fel gwastraff peryglus yn y Rhestr Wastraffoedd, p'un a ydyw wedi'i restru fel gwastraff ai peidio, neu p'un a ydyw fel arall yn wastraff peryglus ai peidio yn unol â'r Rheoliadau hyn;

ac mae ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

Dehongli'n GyffredinolLL+C

5.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “amlgasgliad” (“multiple collection”) yr ystyr a roddir gan reoliad 38;

mae i “ardal harbwr” yr un ystyr â “harbour area” yn Rheoliadau Sylweddau Peryglus mewn Ardaloedd Harbwr 1987(11);

mae i “argyfwng neu berygl difrifol” (“emergency or grave danger”) yr ystyr a roddir gan reoliad 61;

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw Asiantaeth yr Amgylchedd;

ystyr “atodlen y cludwyr” (“schedule of carriers”) yw'r ffurf ar atodlen a nodir yn Atodlen 5 ac y mae'n ofynnol ei chwblhau pan fo mwy nag un cludwr yn cludo, neu i gludo, y llwyth;

ystyr “cludwr” (“carrier”), mewn perthynas â llwyth o wastraff peryglus, yw person sy'n cymryd un neu fwy o'r camau canlynol, sef, casglu'r llwyth o'r fangre lle cafodd ei gynhyrchu neu o'r fangre lle mae'n cael ei gadw, ei draddodi i'r traddodai, neu ei gludo wrth ei drosglwyddo o'r fangre honno i'r traddodai;

ystyr “cod chwe digid” (“six digit code”) yw'r cod chwe digid sy'n cyfeirio at fath o wastraff yn unol â'r Rhestr Wastraffoedd, ac mewn perthynas â gwastraff peryglus, mae'n cynnwys y seren;

mae “cod traddodi” (“consignment code”) i'w ddehongli'n unol â rheoliad 34(1);

mae “cymysgu” (“mixing”) i'w ddehongli'n unol â rheoliad 18;

ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “chwarter” (“quarter”) yw unrhyw gyfnod o dri mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi neu 31 Rhagfyr;

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(12);

ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd 1995(13);

ystyr “diwrnod busnes” (“business day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw—

(a)

unrhyw ddydd Sadwrn neu unrhyw ddydd Sul;

(b)

unrhyw ddydd Gwener y Groglith neu unrhyw ddydd Nadolig;

(c)

unrhyw ddiwrnod sy'n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(14); neu

(ch)

unrhyw ŵyl gyhoeddus arall;

ystyr “SIC” (“SIC”) yw'r cyhoeddiad sy'n dwyn y teitl “the UK Standard Industrial Classification of Economic Activities 2003” a baratowyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'i gyhoeddi gan Wasg ei Mawrhydi ar 31 Rhagfyr 2002 ac a weithredwyd ar 1 Ionawr 2003(15);

ystyr “esemptiad cofrestredig” (“registered exemption”) yw gweithgaredd a nodir yn Atodlen 3 i Reoliadau 1994 ac sydd wedi'i gofrestru gyda'r awdurdod cofrestru priodol yn unol â'r Rheoliadau hynny;

ystyr “gwasanaethau brys” (“emergency services”) yw gwasanaeth yr heddlu, y gwasanaeth tân a'r gwasanaeth ambiwlans y mae'n debygol y byddai'n rhaid iddynt ymateb i argyfwng;

ystyr “gwasanaeth symudol” (“mobile service”) yw gwasanaeth sy'n cael ei weithredu o fangre ac sy'n cynnwys un neu ragor o'r gweithgareddau canlynol, sef, adeiladu, cynnal a chadw neu drwsio unrhyw fangre arall, neu sy'n cynnwys unrhyw osodion, ffitiadau neu gyfarpar a leolir yn y fangre arall honno, a hwnnw'n wasanaeth y mae gweithredydd y gwasanaeth yn cynhyrchu gwastraff peryglus wrth gynnal y gwasanaeth hwnnw yn y fangre arall honno;

ystyr “gwastraff asbestos” (“asbestos waste”) yw gwastraff sy'n cynnwys asbestos neu a halogwyd ganddo;

mae i “gwastraff nad yw'n beryglus” (“non-hazardous waste”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 7;

mae “gwastraff peryglus” (“hazardous waste”) i'w ddehongli yn unol â rheoliad 6;

ystyr “llong” (“ship”) yw cwch o unrhyw fath gan gynnwys cwch ymsuddol, cwch arnofiol ac unrhyw strwythur sy'n llwyfan gosodedig neu arnofiol;

mae i “llong y Deyrnas Unedig” yr ystyr a roddir i “United Kingdom ship” yn adran 1 o Ddeddf Llongau Masnachol 1995(16);

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw long ac unrhyw gyfrwng cludo arall y mae gwasanaeth symudol yn cael ei weithredu ohono;

ystyr “nodyn traddodi” (“consignment note”), mewn perthynas â llwyth o wastraff peryglus, yw ffurflen adnabod y mae'n ofynnol iddi fynd gyda'r gwastraff peryglus pan drosglwyddir ef yn unol ag Erthygl 5(3)(17) o'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus;

ystyr “nodyn traddodi amlgasgliad” (“multiple collection consignment note”) yw'r nodyn traddodi a nodir yn Atodlen 6 ac y mae'n ofynnol ei ddefnyddio mewn perthynas ag amlgasgliadau;

mae i “person awdurdodedig” yr ystyr a roddir i “authorised person” gan adran 108(15) o Ddeddf 1995;

ystyr “Rheoliadau 1994” (“the 1994 Regulations”) yw Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff 1994(18);

ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Gwastraff Arbennig 1996(19);

ystyr “SEPA” yw Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban;

ystyr “traddodai” (“consignee”), mewn perthynas â llwyth o wastraff peryglus, yw'r person y mae'r gwastraff yn cael neu i'w drosglwyddo iddo i'w adfer neu ei waredu;

ystyr “traddodwr” (“consignor”), mewn perthynas â llwyth o wastraff peryglus, yw'r person sy'n peri bod y gwastraff hwnnw'n cael ei symud o'r fangre lle cafodd y gwastraff ei gynhyrchu neu lle cedwir ef;

mae i “trwydded gwastraff” yr un ystyr â “waste permit” yn Atodlen 4 i Reoliadau 1994; ac

mae i “trwydded rheoli gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste management licence” gan adran 35(1) o Ddeddf 1990.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae gan yr ymadroddion canlynol (sef yr ymadroddion a ddiffinnir yn Erthygl 1(b) i (g) o'r Gyfarwyddeb Wastraff) yr ystyron sydd ganddynt yn y gyfarwyddeb honno, sef —

ystyr “cynhyrchydd” (“producer”) yw unrhyw un y mae ei weithgareddau yn cynhyrchu gwastraff (“y cynhyrchydd gwreiddiol” (“the original producer”)) neu unrhyw un sy'n gwneud gwaith rhagbrosesu, cymysgu neu weithrediadau eraill sy'n golygu bod newid yn natur neu yng nghyfansoddiad y gwastraff hwn;

ystyr “deiliad” (“holder”) yw cynhyrchydd y gwastraff neu'r person y mae'r gwastraff yn ei feddiant;

ystyr “rheoli” (“management”) yw casglu, cludo, adfer a gwaredu gwastraff, gan gynnwys goruchwylio gweithrediadau o'r fath ac ôl-gofal ar safleoedd gwaredu;

ystyr “gwaredu” (“disposal”) yw unrhyw un o'r gweithrediadau y darperir ar eu cyfer yn Atodiad IIA o'r Gyfarwyddeb Wastraff;

ystyr “adfer” (“recovery”) yw unrhyw rai o'r gweithrediadau y darperir ar eu cyfer yn Atodiad IIB o'r Gyfarwyddeb Wastraff(20); ac

ystyr “casglu” (“collection”) yw crynhoi, sortio neu gymysgu gwastraff neu unrhyw un neu fwy o'r gweithrediadau hynny, at ddibenion cludo,

ac mae ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

(a)caniateir i unrhyw ddogfen sydd i'w darparu neu i'w rhoi i unrhyw berson (heblaw hysbysiad cosb benodedig o dan Ran 10) gael ei darparu neu ei rhoi i'r person hwnnw ar ffurf electronig os oes modd i'r testun hwnnw gael ei gynhyrchu gan y person hwnnw ar ffurf dogfen sy'n weladwy ac yn ddarllenadwy;

(b)caiff unrhyw ofyniad i wneud neu gadw cofnod neu i ddal gafael ar gofnod neu i gadw cofrestr ei fodloni ar ffurf electronig os oes modd i'r testun hwnnw gael ei gynhyrchu gan y person hwnnw ar ffurf dogfen sy'n weladwy ac yn ddarllenadwy;

(c)caiff unrhyw ofyniad i lofnodi hysbysiad, nodyn traddodi, atodlen y cludwyr neu nodyn traddodi amlgasgliad ei fodloni gan lofnod electronig wedi ei ymgorffori yn y ddogfen; ac

(ch)ystyr “llofnod electronig” (“electronic signature”) yw data ar ffurf electronig sydd wedi'i atodi i ddata electronig arall neu wedi'i gysylltu'n rhesymegol ag ef ac sy'n gweithredu fel dull dilysu.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

(1)

OJ Rhif L 194, 25.7.1975, t.39.

(2)

OJ Rhif L 78, 26.3.1991, t.32.

(3)

OJ Rhif L 377, 31.12.1991, t.48 (fel y'i diwygiwyd drwy Gorigendwm, OJ Rhif L 146, 13.6.2003, t.52).

(4)

OJ. Rhif L 135, 6.6.1996, t.32.

(5)

OJ Rhif L 284, 31.10.2003, t.1.

(6)

Mae Erthygl 1(a) o'r Gyfarwyddeb Wastraff yn diffinio “waste” fel unrhyw sylwedd neu eitem yn y categorïau a nodir yn Atodlen I (Categorïau o Wastraff) i'r Gyfarwyddeb honno y mae'r deiliad yn cael gwared arno neu arni neu'n bwriadu gwneud hynny neu y mae'n ofynnol iddo gael gwared arno neu arni.

(7)

OJ Rhif L 377, 31.12.1991, t.20 (fel y'i cywirwyd drwy Gorigendwm i Gyfarwyddeb 91/689/EC (OJ Rhif L 23, 30.1.1998 t.39).

(8)

OJ Rhif L 168, 2.7.1994, t.28.

(9)

OJ Rhif L 226, 6.9.2000, t.3.

(11)

O.S. 1987/37, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(14)

1971 p.80.

(15)

ISBN 0116216417.

(17)

O dan Erthygl 5(3) mae'n ofynnol i'r nodyn traddodi gynnwys y manylion a bennir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 94/774/EC (OJ Rhif L 310, 3/12/1994 t. 70; disgwylir y caiff y penderfyniad hwn ei newid ym Mehefin 2005). Ceir y gofynion perthnasol yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn.

(19)

O.S. 1996/972 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1996/2019, 1997/251, 2001/3148.

(20)

Dehonglwyd ystyron “gwaredu” (“disposal”) ac “adfer” (“recovery”) gan Lys Cyfiawnder Ewrop yn C-6/00. Dyfarnodd y Llys (ym mharagraff 60 o'r dyfarniad) fel a ganlyn: “…the intention of Annexes II A and II B to the Directive is to list the most common disposal and recovery operations and not precisely and exhaustively to specify all the disposal and recovery operations covered by the Directive.”.