Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1313 (Cy.95)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

10 Mai 2005

Yn dod i rym

30 Rhagfyr 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 26(1) i (2B), 59(4)(a) a (5) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989(1) ac adrannau 9(1)(a), 11(1)(b), 27(3), , 45(1) a (2), 53, 54 a 140(7) ac (8) a 142(4) a (5) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(2) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “achos adran 83” (“section 83 case”) yw achos lle bo person yn bwriadu dod â phlentyn, neu'n peri bod rhywun arall yn dod â phlentyn, i'r Deyrnas Unedig mewn amgylchiadau lle y mae adran 83 o'r Ddeddf (cyfyngiadau ar ddod â phlant i'r Deyrnas Unedig) yn gymwys;

mae i “asiantaeth fabwysiadu” yr ystyr a roddir i “adoption agency” yn adran 2(1) o'r Ddeddf;

ystyr “awdurdod cofrestru” (“registration authority”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru(3);

ystyr “awdurdod tramor perthnasol” (“relevant foreign authority”) yw person, sydd y tu allan i Ynysoedd Prydain yn cyflawni swyddogaethau yn y wlad lle y mae'r plentyn, neu yn lle y mae'r darpar fabwysiadydd yn preswylio'n arferol, sy'n cyfateb i swyddogaethau asiantaeth fabwysiadu neu i swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o ran mabwysiadau ag elfen dramor iddynt;

ystyr “CAFCASS” yw y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd(4);

yn y rheoliadau hyn, mae'r termau “cyflogi” a “chyflogaeth” yn cynnwys cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio a boed o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau neu mewn modd nad yw o dan gontract;

mae i “cymdeithas fabwysiadu gofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered adoption society” yn adran 2(2) o'r Ddeddf;

mae i “cynghorydd asiantaeth” (“agency adviser”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 8;

ystyr “cynghorydd meddygol” (“medical adviser”) yw'r person a benodwyd yn gynghorydd meddygol gan yr asiantaeth fabwysiadu yn unol â rheoliad 9;

mae i “cynllun lleoliad” (“placement plan”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 36(2);

mae i “cynllun lleoliad mabwysiadu” (“adoption placement plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 36;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn wyl y banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(5).

mae i “dyfarniad o gymhwyster” (“qualifying determination”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 28(4)(a);

mae i “gwasanaethau cymorth mabwysiadu” (“adoption support services”) yr ystyr a roddir yn adran 2(6) o'r Ddeddf ac mewn rheoliadau a wneir o dan adran 2(6)(b) o'r Ddeddf;

Mae i “gwasanaeth mabwysiadu” yr ystyr a roddir i “adoption service” gan adran 2(1) o'r Ddeddf;

ystyr “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yw person a gofrestrwyd mewn cofrestr a gynhelir gan Gyngor Gofal Cymru neu'r Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol o dan adran 56 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(6) neu mewn cofrestr gyfatebol a gynhelir o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon;

ystyr “hysbysu” (“notify”) yw hysbysu yn ysgrifenedig;

mae i “lleoliad arfaethedig” (“proposed placement”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 32(1);

ystyr “panel adolygu annibynnol” (“independent review panel”) yw panel a ffurfiwyd o dan adran 12 o'r Ddeddf;

ystyr “panel mabwysiadu” (“adoption panel”) yw panel a sefydlwyd yn unol â rheoliad 3;

ystyr “panel mabwysiadu ar y cyd” (“joint adoption panel”) yw panel a sefydlwyd yn unol â rheoliad 3(5);

mae i “person annibynnol” (“independent person”) o ran panel mabwysiadu yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 3;

ystyr “rhiant” (“parent”), mewn perthynas â phlentyn, yw unrhyw riant sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn o dan Ddeddf 1989.

mae i “swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh family proceedings officer” yn adran 35(4) o Ddeddf Plant 2004(7)); ac

mae i “swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol” yr ystyr a roddir i “social services functions” yn adran 1A o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970.

RHAN 2ASIANTAETH FABWYSIADU — TREFNIADAU AR GYFER GWAITH MABWYSIADU

Sefydlu panel mabwysiadu

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu sefydlu o leiaf un panel, a elwir y panel mabwysiadu, yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu benodi person i gadeirio'r panel, sef person na fu'n aelod etholedig, ymddiriedolwr, cyfarwyddwr neu'n gyflogai o'r asiantaeth o fewn y 12 mis diwethaf, sydd â'r sgiliau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer cadeirio'r panel mabwysiadu.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid bod dim mwy na deg aelod i'r panel mabwysiadu, gan gynnwys y person a benodwyd o dan baragraff (2), a rhaid iddo gynnwys —

(a)dau weithiwr cymdeithasol;

(b)yn achos cymdeithas fabwysiadu gofrestredig, person sy'n gyfarwyddwr, rheolwr neu'n swyddog arall o'r asiantaeth sy'n ymwneud â rheolaeth yr asiantaeth;

(c)yn achos awdurdod lleol, un aelod etholedig o'r awdurdod;

(ch)y person a benodwyd fel cynghorydd meddygol i'r asiantaeth yn unol â rheoliad 9, (neu un ohonynt os penodwyd mwy nag un cynghorydd meddygol), tra pery'r person hwnnw'n gynghorydd meddygol;

(d)o leiaf dri pherson arall (y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn fel “personau annibynnol”) gan gynnwys lle y bo'n rhesymol ymarferol o leiaf ddau berson â phrofiad personol o fabwysiadu.

(4Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu benodi dau o aelodau'r panel mabwysiadu y bydd y naill neu'r llall yn gweithredu fel cadeirydd os yw'r person a benodwyd i gadeirio'r panel yn absennol neu os yw ei swydd yn wag (“yr is-gadeirydd”).

(5Caniateir sefydlu'r panel mabwysiadu ar y cyd gan unrhyw ddau awdurdod lleol ond dim mwy na thri awdurdod lleol (“panel mabwysiadu ar y cyd”) ac os sefydlir panel mabwysiadu ar y cyd—

(a)mwyafswm nifer y personau y gellir eu penodi i'r panel hwnnw yw un ar ddeg;

(b)rhaid i bob awdurdod lleol benodi dau berson i'r panel, y mae'n rhaid i un ohonynt fod yn weithiwr cymdeithasol a rhaid i'r llall fod yn aelod etholedig o'r awdurdod hwnnw;

(c)drwy gytundeb rhwng yr awdurdodau lleol rhaid penodi—

(i)person i gadeirio'r panel nad yw'n aelod etholedig o unrhyw un o'r awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y panel ac y mae ganddo'r sgiliau a'r profiad sy'n angenrheidiol i gadeiro'r panel mabwysiadu;

(ii)o leiaf dri aelod annibynnol gan gynnwys lle y bo'n rhesymol ymarferol o leiaf ddau berson â phrofiad personol o fabwysiadu;

(iii)dau o aelodau'r panel y bydd y naill neu'r llall yn gweithredu fel cadeirydd os yw'r person a benodwyd i gadeirio'r panel yn absennol neu os yw ei swydd yn wag (“yr is-gadeirydd”).

(iv)cynghorydd meddygol i un o'r awdurdodau.

(6Rhaid peidio â phenodi person yn berson annibynnol ar banel mabwysiadu os yw'r person hwnnw—

(a)yn cael ei gyflogi neu wedi cael ei gyflogi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf —

(i)yn achos cymdeithas fabwysiadu gofrestredig, gan yr asiantaeth honno; neu

(ii)yn achos awdurdod lleol, gan yr awdurdod hwnnw i gyflawni unrhyw swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod hwnnw;

(b)yn aelod etholedig neu wedi bod yn aelod etholedig o'r awdurdod hwnnw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf;

(c)yn ymddiriedolwr neu wedi bod yn ymddiriedolwr yn achos cymdeithas fabwysiadu gofrestredig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf neu os yw wedi ymwneud â rheolaeth yr asiantaeth honno;

(ch)yn rhiant mabwysiadol y mae'r asiantaeth wedi lleoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gydag ef neu berson y mae'r asiantaeth wedi ei gymeradwyo yn berson addas i fod yn rhiant mabwysiadol onid oes o leiaf ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i'r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneud ynglyn â'r plentyn;

(d)os yw'n perthyn—

(i)yn achos cymdeithas fabwysiadu gofrestredig, i berson a gyflogir gan yr asiantaeth honno; neu

(ii)yn achos awdurdod lleol, i berson a gyflogir gan yr awdurdod hwnnw i gyflawni unrhyw un o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod hwnnw.

(7At ddibenion paragraff (6)(d) mae person (“person A”) yn perthyn i berson arall (“person B”) os yw person A —

(a)yn aelod o aelwyd person B neu'n briod â pherson B neu'n bartner sifil i berson B;

(b)yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd i berson B; neu

(c)yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd i'r person sy'n briod â pherson B neu'n bartner sifil i berson B.

Deiliadaeth swydd aelodau'r panel mabwysiadu

4.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau y rheoliad hwn a rheoliad 10, rhaid i aelod o'r panel mabwysiadu beidio â dal swydd am gyfnod hirach na 5 mlynedd, ac ni chaiff ddal swydd ar banel mabwysiadu yr un asiantaeth fabwysiadu am fwy na dau gyfnod yn olynol heb gael bwlch yn y cyfamser am gyfnod o dair blynedd o leiaf.

(2Rhaid i'r aelod sy'n gynghorydd meddygol y panel mabwysiadu ddal swydd ond cyhyd â'r cyfnod y'i penodwyd o dan reoliad 9.

(3Caiff aelod o'r panel mabwysiadu ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi mis o hysbysiad ysgrifenedig i'r asiantaeth fabwysiadu.

(4Os yw'r asiantaeth fabwysiadu o'r farn bod unrhyw aelod o'r panel mabwysiadu yn anaddas neu'n analluog i barhau yn y swydd, gellir terfynu swydd yr aelod hwnnw ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig iddo ynghyd â rhesymau.

(5Rhaid i derfyniad penodiad aelod o banel mabwysiadu ar y cyd o dan baragraff (4) gael cytundeb yr holl awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y panel.

Cyfarfodydd panel mabwysiadu

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chynhelir unrhyw fusnes gan y panel mabwysiadu onid yw o leiaf bump o'i aelodau, gan gynnwys y person a benodwyd i gadeirio'r panel neu un o'r is-gadeiryddion, ac o leiaf un o'r gweithwyr cymdeithasol ac o leiaf un o'r personau annibynnol, yn cyfarfod fel y panel.

(2Yn achos panel mabwysiadu ar y cyd, ni chynhelir unrhyw fusnes ganddo onid yw o leiaf chwech o'i aelodau, gan gynnwys y person a benodwyd i gadeirio'r panel neu un o'r is-gadeiryddion, ac o leiaf un gweithiwr cymdeithasol ac o leiaf un o'r personau annibynnol, yn cyfarfod fel y panel.

(3Rhaid i'r panel mabwysiadu wneud cofnod ysgrifenedig o'i drafodion, ei argymhellion a'r rhesymau dros ei argymhellion.

Talu ffioedd — cadeirydd neu berson annibynnol ar banel mabwysiadu awdurdod lleol

6.  Caiff awdurdod lleol dalu i berson a benodwyd yn gadeirydd ei banel mabwysiadu neu ei banel mabwysiadu ar y cyd neu i unrhyw berson annibynnol ar y panel, unrhyw ffi a benderfynir gan yr awdurdod lleol hwnnw, sef ffi sydd yn swm rhesymol.

Trefniadau asiantaeth fabwysiadu ar gyfer gwaith mabwysiadu

7.  Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, drwy ymgynghori â'r panel mabwysiadu ac, i'r graddau a bennir yn rheoliad 9(2), â chynghorydd meddygol yr asiantaeth, baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig a chyfarwyddiadau gweithdrefnol sy'n llywodraethu sut yr arferir swyddogaethau'r asiantaeth a'r panel o ran mabwysiadu, a rhaid i'r asiantaeth adolygu'r cyfarwyddiadau hynny yn gyson a, phan fydd yn briodol, eu diwygio.

Gofyniad i benodi cynghorydd asiantaeth i'r panel mabwysiadu

8.  Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu benodi uwch aelod o staff, neu yn achos panel mabwysiadu ar y cyd rhaid i'r awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y panel drwy gytundeb benodi uwch aelod o staff o un o'r awdurdau lleol hynny, (i'w alw'n “cynghorydd yr asiantaeth”) gyda'r cymwysterau, y sgiliau a'r profiad y mae'r asiantaeth yn ystyried eu bod yn briodol —

(a)i gynorthwyo'r asiantaeth wrth benodi (gan gynnwys ailbenodi), terfynu ac adolygu penodi aelodau o'r panel mabwysiadu;

(b)i fod yn gyfrifol am gynefino a hyfforddi aelodau o'r panel mabwysiadu;

(c)i fod yn gyfrifol am weinyddu'r panel mabwysiadu, gan gynnwys cynorthwyo gyda chydlynu rhwng yr asiantaeth a'r panel mabwysiadu a monitro perfformiad aelodau o'r panel mabwysiadu; ac

(ch)i roi'r cyfryw gyngor i'r panel mabwysiadu y gall y panel ofyn amdano o ran unrhyw achos neu yn gyffredinol.

Gofyniad i benodi cynghorydd meddygol

9.—(1Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu benodi o leiaf un ymarferydd meddygol cofrestredig yn gynghorydd meddygol yr asiantaeth.

(2Rhaid ymgynghori â chynghorydd meddygol yr asiantaeth fabwysiadu o ran trefniadau ar gyfer gweld a datgelu gwybodaeth am iechyd, sydd yn ofynnol neu a ganiateir yn rhinwedd y Rheoliadau hyn.

Sefydlu paneli mabwysiadu newydd ar 30 Rhagfyr 2005

10.—(1Bydd holl aelodau panel mabwysiadu a sefydlwyd cyn 30 Rhagfyr 2005 (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel yr “hen banel mabwysiadu”) yn peidio â dal swydd ar y dyddiad hwnnw.

(2Gydag effaith o 30 Rhagfyr 2005 ymlaen, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu sefydlu panel mabwysiadu newydd yn unol â rheoliadau 3 a 4.

(3Pan fydd aelod o hen banel mabwysiadu yn peidio â dal swydd o dan baragraff (1) a ph'un a estynwyd cyfnod swydd yr aelod hwnnw gan yr asiantaeth fabwysiadu yn unol â rheoliad 5A(1A) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983(8) neu mewn unrhyw achos arall, caniateir penodi'r aelod hwnnw yn aelod o banel mabwysiadu newydd o'r un asiantaeth fabwysiadu ac eithrio na chaiff cyfnod ei swydd ar y panel mabwysiadu newydd fod yn hirach na'r hyn a ganiateir gan reoliad 4 gan gyfrif y cyfnod y mae eisoes wedi gwasanaethu fel aelod o'r hen banel mabwysiadu.

RHAN 3DYLETSWYDDAU ASIANTAETH FABWYSIADU OS YW'R ASIANTAETH YN YSTYRIED MABWYSIADU AR GYFER PLENTYN

Cymhwysiad rheoliadau 11 i 20

11.  Mae rheoliadau 11 i 20 yn gymwys pan fydd asiantaeth fabwysiadu yn ystyried mabwysiadu ar gyfer plentyn.

Gofyniad i ddechrau cofnod achos i blentyn

12.—(1Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu drefnu cofnod achos o ran y plentyn a rhoi ynddo unrhyw wybodaeth a gafwyd ac unrhyw adroddiad, argymhelliad neu benderfyniad a wnaed yn rhinwedd y Rheoliadau hyn.

(2Os yw'r plentyn—

(a)yn derbyn gofal; neu

(b)yn cael llety o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989 (darparu llety gan gyrff gwirfoddol),

rhaid i'r awdurdod lleol neu, yn ôl y digwydd, y gymdeithas fabwysiadu gofrestredig gael gafael ar unrhyw wybodaeth y mae angen cael gafael arni gan yr asiantaeth yn rhinwedd y Rhan hon, o'r cofnodion a gynhelir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan Ddeddf 1989, a rhoi'r wybodaeth honno yn y cofnod achos y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

Gofyniad i ddarparu cwnsela a gwybodaeth ar gyfer y plentyn a chanfod ei ddymuniadau a'i deimladau.

13.—(1Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol ac yng ngoleuni oedran a dealltwriaeth y plentyn—

(a)darparu gwasanaeth cwnsela ar gyfer y plentyn;

(b)esbonio i'r plentyn mewn modd priodol y weithdrefn ynglyn â'i fabwysiadu, a goblygiadau cyfreithiol ei fabwysiadu, a rhoi'r wybodaeth ysgrifenedig briodol i'r plentyn ynglyn â'r materion hyn; ac

(c)canfod dymuniadau a theimladau'r plentyn o ran—

(i)posibilrwydd lleoliad gyda theulu newydd a'i fabwysiadu;

(ii)ei fagwraeth grefyddol a diwylliannol; a

(iii)cyswllt â'i riant, ei warcheidwad, perthynas neu berson arwyddocaol arall.

Gofyniad i ddarparu cwnsela a gwybodaeth ar gyfer rhiant neu warcheidwad y plentyn neu bobl eraill a chanfod eu dymuniadau a'u teimladau.

14.—(1Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol —

(a)darparu gwasanaeth cwnsela i riant neu warcheidwad y plentyn;

(b)esbonio a darparu gwybodaeth ysgrifenedig i riant neu warcheidwad y plentyn ar y materion canlynol—

(i)y weithdrefn o ran mabwysiadu a lleoliad ar gyfer mabwysiadu a;

(ii)goblygiadau cyfreithiol —

(aa)cydsynio i leoliad ar gyfer mabwysiadu o dan adran 19 o'r Ddeddf (lleoli plant gyda chydsyniad rhiant);

(bb)cydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf (cydsyniad ymlaen llaw i fabwysiadu);

(cc)gorchymyn lleoliad; a

(iii)goblygiadau cyfreithiol mabwysiadu; ac

(c)canfod dymuniadau a theimladau rhiant neu warcheidwad y plentyn neu unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol o ran y canlynol—

(i)y materion a nodir yn adran 1(4)(f)(ii) a (iii) o'r Ddeddf (materion y mae'n rhaid i'r asiantaeth eu hystyried);

(ii)lleoliad y plentyn ar gyfer mabwysiadu a'i fabwysiadu gan gynnwys unrhyw ddymuniadau a theimladau ynghylch magwraeth grefyddol a diwylliannol y plentyn; a

(iii)cyswllt â'r plentyn os awdurdodwyd yr asiantaeth i leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu neu os mabwysiedir y plentyn.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan nad oes gan dad plentyn gyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac mae'r asiantaeth yn gwybod pwy yw'r tad.

(3Os yw paragraff (2) yn gymwys a bod yr asiantaeth fabwysiadu wedi'i bodloni ei bod yn briodol gwneud hynny, rhaid i'r asiantaeth—

(a)cyflawni o ran y tad ofynion paragraff (1)(a), (b)(i), a (iii) ac (c) fel pe baent yn gymwys i'r tad, a

(b)canfod i'r graddau y mae'n bosibl p'un a yw'r tad—

(i)yn dymuno cael cyfrifoldeb rhiant am y plentyn o dan adran 4 o Ddeddf 1989) (caffael cyfrifoldeb rhiant)(9); neu

(ii)yn bwriadu gwneud cais am orchymyn preswylio neu orchymyn cyswllt ynglyn â'r plentyn o dan adran 8 o Ddeddf 1989 (preswyliad, cyswllt a gorchmynion eraill ynglyn â phlant) neu lle y bo plentyn yn ddarostyngedig i orchymyn gofal, gorchymyn o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant â phlant mewn gofal).

Gofyniad i gael gwybodaeth am y plentyn (gan gynnwys gwybodaeth am ei iechyd)

15.—(1Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gael gafael ar yr wybodaeth am y plentyn a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu —

(a)gwneud trefniadau i'r plentyn gael ei archwilio gan ymarferydd meddygol cofrestredig; a

(b)cael adroddiad ysgrifenedig gan yr ymarferydd hwnnw ar gyflwr iechyd y plentyn a rhaid iddo gynnwys unrhyw driniaeth y mae'r plentyn yn ei chael, anghenion y plentyn am ofal iechyd a'r materion a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 1,

oni chafodd yr asiantaeth gyngor gan y cynghorydd meddygol nad oes angen yr archwiliad a'r adroddiad hwnnw.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu wneud trefniadau —

(a)bod archwiliadau meddygol a seiciatryddol eraill, a phrofion eraill, yn cael eu cyflawni ar y plentyn yn ôl argymhelliad cynghorydd meddygol yr asiantaeth; a

(b)cael gafael ar adroddiadau ysgrifenedig o'r archwiliadau a'r profion hynny.

(4Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys os yw'r plentyn yn deall digon i wneud penderfyniad seiliedig ar wybodaeth ac yn gwrthod cael archwiliadau neu brofion eraill.

Gofyniad i gael gwybodaeth am deulu'r plentyn (gan gynnwys gwybodaeth am iechyd y teulu)

16.—(1Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gael gafael ar yr wybodaeth am deulu'r plentyn a bennir yn Rhannau 3 a 4 o Atodlen 1.

(2Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gael gafael ar yr wybodaeth am iechyd pob un o rieni a brodyr a chwiorydd naturiol y plentyn a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 1.

Gofyniad i baratoi adroddiad ysgrifenedig ar gyfer y panel mabwysiadu

17.—(1Os bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried yn ngoleuni'r holl wybodaeth a gafwyd yn rhinwedd rheoliadau 12 i 16 mai mabwysiadu yw'r dewis gorau er mwyn sefydlogrwydd ar gyfer y plentyn, rhaid i'r asiantaeth baratoi adroddiad ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys —

(a)yr wybodaeth am y plentyn a theulu'r plentyn a bennir yn Rhannau 1, 3 a 4 o Atodlen 1;

(b)crynodeb, a ysgrifenwyd gan gynghorydd meddygol yr asiantaeth, o gyflwr iechyd y plentyn, hanes ei iechyd ac unrhyw angen am ofal iechyd a all godi yn y dyfodol;

(c)dymuniadau a theimladau'r plentyn ynglyn â'r materion a nodir yn rheoliad 13(1)(c);

(ch)dymuniadau a theimladau rhiant neu warcheidwad y plentyn, a phan fo rheoliad 14(2) yn gymwys, tad y plentyn, ac unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol, ynghylch y materion a nodir yn rheoliad 14(1)(c);

(d)barn yr asiantaeth fabwysiadu am angen y plentyn o ran cyswllt â'i riant neu ei warcheidwad neu berthynas arall neu ag unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol (gan gynnwys tad y plentyn pan fo rheoliad 14(2) yn gymwys) a'r trefniadau y mae'r asiantaeth yn bwriadu eu gwneud i ganiatáu cyswllt â'r plentyn i unrhyw berson;

(dd)asesiad o ddatblygiad emosiynol y plentyn a datblygiad ei ymddygiad ac unrhyw anghenion cysylltiedig;

(e)asesiad o gynneddf rhiant neu warcheidwad y plentyn i fod yn rhiant, ac os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, ei dad;

(f)cronoleg o'r penderfyniadau a'r camau a gymerwyd gan yr asiantaeth ynglyn â'r plentyn;

(ff)dadansoddiad o'r opsiynau am ofal y plentyn yn y dyfodol a gafodd eu hystyried gan yr asiantaeth a pham yr ystyrir mai lleoliad ar gyfer mabwysiadu yw'r dewis gorau; a

(g)unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei bod yn berthnasol.

(2Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu anfon yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd â'r adroddiadau eraill y mae eu hangen yn rhinwedd rheoliad 15 a 16 at y panel mabwysiadu.

(3Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, y gall y panel mabwysiadu ofyn amdani ac anfon yr wybodaeth honno at y panel.

Swyddogaeth y panel mabwysiadu o ran plentyn a atgyfeirir gan yr asiantaeth fabwysiadu

18.—(1Rhaid i'r panel mabwysiadu ystyried achos pob plentyn a gaiff ei atgyfeirio ato gan yr asiantaeth fabwysiadu a gwneud argymhelliad i'r asiantaeth honno ynghylch a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.

(2Wrth ystyried pa argymhelliad i'w wneud, rhaid i'r panel mabwysiadu roi sylw i'r dyletswyddau a osodwyd ar yr asiantaeth fabwysiadu o dan adran 1(2), (4), (5) a (6) o'r Ddeddf (ystyriaethau sy'n gymwys wrth arfer pwerau o ran mabwysiadu plentyn) a —

(a)rhaid iddo bwyso a mesur a chymryd i ystyriaeth yr holl wybodaeth a'r adroddiadau a ddaeth iddo yn unol â rheoliad 17;

(b)caiff ofyn i'r asiantaeth gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r panel yn ystyried ei bod yn angenrheidiol;

(c)rhaid iddo gael cyngor cyfreithiol yr ystyria sy'n angenrheidiol o ran yr achos.

(3Pan fo'r panel mabwysiadu yn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu rhaid iddo ystyried a chaiff ar yr un pryd roi cyngor i'r asiantaeth ynghylch —

(a)y trefniadau y mae'r asiantaeth yn bwriadu eu gwneud er mwyn caniatáu cyswllt â'r plentyn i unrhyw berson;

(b)os yw'r asiantaeth fabwysiadu yn awdurdod lleol, a ddylid gwneud cais am orchymyn lleoliad ynglyn â'r plentyn.

Penderfyniad a hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu

19.—(1Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu —

(a)ystyried argymhelliad y panel mabwysiadu;

(b)ystyried unrhyw gyngor a roddir gan y panel mabwysiadu yn unol â rheoliad 18(3); ac

(c)rhoi sylw i'r ystyriaeth a nodir yn adran 1(2) o'r Ddeddf

wrth benderfynu a ddylid lleoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.

(2Nid oes unrhyw aelod o'r panel mabwysiadu i gymryd rhan yn unrhyw benderfyniad a wneir gan yr asiantaeth fabwysiadu o dan baragraff (1).

(3Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, os yw eu cyfeiriad yn hysbys i'r asiantaeth, hysbysu ei phenderfyniad yn ysgrifenedig a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu neu unrhyw benderfyniad ynglyn â threfniadau cyswllt i—

(a)rhiant neu warcheidwad y plentyn;

(b)unrhyw berthynas neu berson arwyddocaol arall yr ymgynghorodd yr asiantaeth ag ef o dan reoliad 14(1) gan gynnwys unrhyw berson y gall fod gorchymyn cyswllt ganddo o dan adran 8 o Ddeddf 1989 neu orchymyn o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant â phlant mewn gofal) mewn grym yn union cyn yr awdurdodir yr asiantaeth i leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu; ac

(c)os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, tad y plentyn; ac

(ch)rhaid i'r asiantaeth esbonio ei phenderfyniad i'r plentyn mewn modd priodol ac yng ngoleuni oedran a dealltwriaeth y plentyn.

(4Oni wnaed cais y gellid gwneud gorchymyn gofal o ran y plentyn, nas penderfynwyd arno, neu os yw'r plentyn yn llai na 6 wythnos oed, rhaid i'r asiantaeth ganfod a yw rhiant neu warcheidwad y plentyn yn barod—

(a)i gydsynio o dan adran 19 o'r Ddeddf (lleoli plant gyda chydsyniad rhiant) i'r plentyn gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda darpar fabwysiadwyr a enwir yn y cydsyniad neu iddo gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gydag unrhyw ddarpar fabwysiadwyr y caiff yr asiantaeth eu dewis; a

(b)ar yr un adeg i gydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf (cydsynio ymlaen llaw i fabwysiadu).

(5Pan fydd rhiant neu warcheidwad y plentyn yn barod i gydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf, rhaid i'r asiantaeth esbonio a chadarnhau yn ysgrifenedig i riant neu warcheidwad y plentyn —

(a)y gellir tynnu unrhyw gydsyniad a roddir o dan adran 20 o'r Ddeddf yn ôl ond bydd y tynnu'n ôl hwnnw yn aneffeithiol os gwneir hynny ar ôl i gais am orchymyn mabwysiadu gael ei wneud;

(b)drwy roi hysbysiad i'r asiantaeth caiff, ar yr adeg honno neu rywbryd wedyn, ddatgan nad yw'n dymuno cael ei hysbysu o unrhyw gais am orchymyn mabwysiadu; ac

(c)caniateir tynnu'r cyfryw ddatganiad yn ôl.

Cais i benodi swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS

20.—(1Pan fydd rhiant neu warcheidwad y plentyn yn barod i gydsynio i leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu o dan adran 19 o'r Ddeddf (lleoli plant gyda chydsyniad rhiant) ac, yn ôl y digwydd, yn barod i gydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf (cydsyniad ymlaen llaw i fabwysiadu), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi un o'i swyddogion achosion teuluol ar gyfer Cymru(10) neu, pan fydd y plentyn yn arferol yn preswylio yn Lloegr, ofyn i CAFCASS benodi un o'i swyddogion er mwyn iddo gymeradwyo'r cydsyniad i'r lleoli neu i'r mabwysiadu ac, wrth ofyn, anfon hefyd yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 2.

(2Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu o ran y plentyn gadw'r canlynol yn y cofnod achos a gynhelir yn unol â rheoliad 12 —

(a)y ffurflen gydsynio wedi'i llofnodi'n briodol gan y rhiant neu'r gwarcheidwad a swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS yn dyst i hynny;

(b)unrhyw hysbysiad a roddir i'r asiantaeth o dan adran 20(4)(a) o'r Ddeddf (datganiad na ddymunir cael hysbysiad o unrhyw gais am orchymyn mabwysiadu); ac

(c)hysbysiad tynnu'n ôl unrhyw gydsyniad neu ddatganiad a roddwyd o dan adrannau 19 neu 20 o'r Ddeddf.

RHAN 4DYLETSWYDDAU ASIANTAETH FABWYSIADU O RAN DARPAR FABWYSIADYDD

Gofyniad i ddarparu cwnsela a gwybodaeth

21.  Pan fydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried a yw person yn addas i fabwysiadu plentyn, rhaid i'r asiantaeth —

(a)darparu gwasanaeth cwnsela ar gyfer y darpar fabwysiadydd;

(b)mewn achos adran 83, esbonio i'r darpar fabwysiadydd y weithdrefn o ran mabwysiadu plentyn o'r wlad y mae'r darpar fabwysiadydd yn dymuno mabwysiadu ohoni a goblygiadau cyfreithiol gwneud hynny;

(c)mewn unrhyw achos arall esbonio i'r darpar fabwysiadydd y weithdrefn o ran lleoli ar gyfer mabwysiadu (gan gynnwys lleoliad drwy gydsyniad o dan adran 19 o'r Ddeddf, cydsyniad i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf, cyfyngu cyfrifoldeb rhiant a gorchmynion lleoliad) a mabwysiadu a goblygiadau cyfreithiol gwneud hynny; a

(ch)rhoi gwybodaeth ysgrifenedig i'r darpar fabwysiadydd ynglyn â'r materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b) neu, yn ôl y digwydd, (c).

Gofyniad i ystyried cais am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn

22.—(1Pan fydd yr asiantaeth fabwysiadu, yn dilyn y gweithdrefnau y cyfeirir atynt yn rheoliad 21, yn cael cais ysgrifenedig oddi wrth ddarpar fabwysiadydd am asesiad o'i addasrwydd i fabwysiadu plentyn, rhaid i'r asiantaeth ddechrau cofnod achos o ran y darpar fabwysiadydd hwnnw ac ystyried addasrwydd y person hwnnw i fabwysiadu plentyn.

(2Caiff yr asiantaeth fabwysiadu ofyn i'r darpar fabwysiadydd ddarparu unrhyw wybodaeth bellach yn ysgrifenedig y mae'r asiantaeth yn rhesymol yn ei gwneud yn ofynnol.

(3Pan fydd paragraff (1) yn gymwys o ran cwpl, ystyrir yr asesiad o'u haddasrwydd i fabwysiadu plentyn ar y cyd a bydd yr asiantaeth yn dechrau cofnod achos unigol.

Gofyniad i wneud gwiriadau gyda'r heddlu

23.—(1Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gael y canlynol —

(a)o ran y darpar fabwysiadydd, tystysgrif record droseddol fanwl yn ôl ystyr adran 115 o Ddeddf yr Heddlu 1997(11) gan gynnwys y materion a bennir yn is-adran (6A) o'r adran honno; a

(b)o ran unrhyw aelod arall o aelwyd y darpar fabwysiadydd sy'n 18 oed neu drosodd, tystysgrif record droseddol fanwl o dan adran 115 o'r Ddeddf honno gan gynnwys y materion a bennir yn is-adran (6A) o'r adran honno.

(2Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu beidio ag ystyried person yn addas i fabwysiadu plentyn neu, yn ôl y digwydd, rhaid iddi ystyried nad yw person bellach yn addas i fabwysiadu plentyn, os yw'r person neu unrhyw aelod o aelwyd y person hwnnw sy'n 18 oed neu drosodd —

(a)wedi'i gollfarnu o dramgwydd benodedig a gyflawnwyd pan oedd yn 18 oed neu drosodd; neu

(b)os cafodd rybuddiad gan gwnstabl o ran unrhyw dramgwydd o'r fath, y cyfaddefodd y person i'r tramgwydd pan roddwyd y rhybuddiad iddo.

(3Ym mharagraff (2) ystyr “tramgwydd penodedig” yw —

(a)tramgwydd yn erbyn plentyn;

(b)tramgwydd a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3;

(c)tramgwydd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(12) o ran nwyddau y gwaharddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876 (gwaharddiadau a chyfyngiadau ynghylch pornograffi)(13) os oedd y nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blant o dan 16 oed;

(ch)unrhyw dramgwydd arall sy'n cynnwys anaf corfforol i blentyn, ac eithrio tramgwydd ymosodiad cyffredin neu guro,

ac mae i'r ymadrodd “tramgwydd yn erbyn plentyn” yr ystyr a roddir i “offence against a child” yn adran 26(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000(14) ac eithrio nad yw'n cynnwys tramgwydd yn groes i adran 9 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 (gweithgaredd rhywiol â phlentyn) mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed a'r plentyn yn 13 oed neu drosodd adeg cyflawni'r tramgwydd.

(4Ni chaiff asiantaeth fabwysiadu ystyried bod person yn addas i fabwysiadu plentyn neu, yn ôl y digwydd, rhaid iddi ystyried nad yw person bellach yn addas i fabwysiadu plentyn, os yw'r person neu unrhyw aelod o aelwyd y person hwnnw sy'n 18 oed neu drosodd —

(a)wedi'i gollfarnu o dramgwydd a bennir ym mharagraff 1 o Ran 2 o Atodlen 3 a gyflawnwyd pan oedd yn 18 oed neu drosodd neu os cafodd rybuddiad gan gwnstabl o ran unrhyw dramgwydd o'r fath, y cyfaddefodd y person i'r tramgwydd pan roddwyd y rhybuddiad iddo; neu

(b)yn dod o fewn paragraff 2 neu 3 o Ran 2 o Atodlen 3,

er bod y tramgwyddau statudol a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 3 wedi'u diddymu.

Gofyniad i hysbysu

24.  Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig cyn gynted â phosibl ar ôl dod yn ymwybodol nad yw'r person yn addas, neu yn ôl y digwydd, nad yw'r person bellach yn addas, i fabwysiadu plentyn yn rhinwedd rheoliad 23(2) i (4).

Gofyniad i ddarparu paratoad ar gyfer mabwysiadu

25.—(1Pan fydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried a yw person yn addas i fabwysiadu plentyn, rhaid i'r asiantaeth wneud trefniadau i'r darpar fabwysiadydd gael y paratoad hwnnw ar gyfer mabwysiadu y mae'r asiantaeth yn ystyried ei bod yn briodol.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw'r asiantaeth fabwysiadu wedi'i bodloni bod y gofynion a nodir yn y paragraff hwnnw wedi cael eu cyflawni o ran y darpar fabwysiadydd gan asiantaeth fabwysiadu arall.

(3Pan na fydd y darpar fabwysiadydd yn barod i ymgymryd â'r paratoad ar gyfer mabwysiadu y mae'r asiantaeth fabwysiadu yn ystyried ei fod yn briodol yn ei achos ef, caniateir i'r asiantaeth wrthod mynd ymlaen â chais y darpar fabwysiadydd am asesiad o'i addasrwydd.

(4Ym mharagraff (1) mae “paratoad ar gyfer mabwysiadu” yn cynnwys darparu gwybodaeth i ddarpar fabwysiadydd ynghylch —

(a)ystod oedran, rhyw ac anghenion tebygol a chefndir plant y gellid eu lleoli ar gyfer mabwysiadu gan yr asiantaeth fabwysiadu;

(b)arwyddocâd a goblygiadau cyfreithiol mabwysiadu i blentyn a'i deulu;

(c)cyswllt rhwng plentyn a'i rieni naturiol a pherthnasau eraill pan awdurdodir lleoli plentyn ar gyfer mabwysiadu neu pan gaiff y plentyn ei fabwysiadu;

(ch)y sgiliau sydd eu hangen i fod yn rhiant mabwysiadol;

(d)safbwynt y plentyn a theulu'r plentyn;

(dd)gweithdrefnau'r asiantaeth fabwysiadu o ran asesu darpar fabwysiadwyr a lleoli plentyn ar gyfer mabwysiadu; a

(e)y weithdrefn o ran mabwysiadu a lleoli ar gyfer mabwysiadu.

Gweithdrefnau o ran gwneud asesiad

26.—(1Os bydd yr asiantaeth fabwysiadu, wedi iddo ddilyn y gweithdrefnau y cyfeirir atynt yn rheoliad 23 a 25, o'r farn y gallai'r darpar fabwysiadydd fod yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol, rhaid iddi gynnal asesiad yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gael y manylion hynny am y darpar fabwysiadydd y cyfeirir atynt yn Rhan 1 o Atodlen 4.

(3Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gael —

(a)adroddiad ysgrifenedig gan ymarferydd meddygol cofrestredig am iechyd y darpar fabwysiadydd y mae'n rhaid iddo ymdrin â'r materion a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 4 oni chafodd adroddiad o'r fath ei lunio o fewn 6 mis ar ôl i'r panel ystyried yr achos o dan reoliad 27 a'i fod ar gael i'r asiantaeth;

(b)adroddiad ysgrifenedig am bob un o'r cyfweliadau gyda'r personau a enwebwyd gan y darpar fabwysiadydd yn ganolwyr personol; ac

(c)adroddiad ysgrifenedig gan yr awdurdod lleol y mae'r darpar fabwysiadydd yn byw yn ei ardal, a phan fo'r darpar fabwysiadydd wedi byw yn yr ardal honno am gyfnod llai na deuddeng mis rhaid i'r asiantaeth gael adroddiad ysgrifenedig hefyd gan yr awdurdod lleol yr oedd y darpar fabwysiadydd yn byw yn ei ardal cyn hynny.

(4Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu baratoi adroddiad ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys—

(a)manylion am y darpar fabwysiadydd fel a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 4;

(b)crynodeb, a ysgrifenwyd gan gynghorydd meddygol yr asiantaeth, ar gyflwr iechyd y darpar fabwysiadydd;

(c)asesiad yr asiantaeth ar addasrwydd y darpar fabwysiadydd i fabwysiadu plentyn, ac wrth benderfynu addasrwydd cwpl i fabwysiadu plentyn, rhaid i'r asiantaeth roi sylw priodol i'r angen am gysondeb a sefydlogrwydd yn eu perthynas;

(ch)unrhyw wybodaeth berthnasol y caiff yr asiantaeth afael arni o dan baragraff (3)(c);

(d)unrhyw sylwadau gan yr asiantaeth ar y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 22, 23 a 25;

(dd)unrhyw wybodaeth arall y mae'r asiantaeth yn ystyried sy'n berthnasol.

(5Mewn achos adran 83 rhaid i'r adroddiad gynnwys —

(a)enw'r wlad (“tarddwlad”) y mae'r darpar fabwysiadydd yn dymuno mabwysiadu ohoni;

(b)cadarnhad bod y darpar fabwysiadydd yn bodloni'r gofynion cymhwyster i fabwysiadu o'r darddwlad;

(c)gwybodaeth ychwanegol a gafwyd o ganlyniad i ofynion y darddwlad; ac

(ch)asesiad yr asiantaeth o addasrwydd y darpar fabwysiadydd i fabwysiadu plentyn sy'n preswylio'n arferol y tu allan i Ynysoedd Prydain.

(6Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd yr atgyfeirir ei gais at y panel mabwysiadu ac ar yr un pryd yr anfonir copi at y darpar fabwysiadydd o adroddiad yr asiantaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (4), a gwahodd unrhyw sylwadau ar yr adroddiad sydd i'w anfon yn ysgrifenedig at yr asiantaeth o fewn 10 niwrnod gwaith, gan ddechrau ar y dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad.

(7Ar ddiwedd y cyfnod o 10 diwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (6) (neu'n gynharach os ceir unrhyw sylwadau a wnaed gan y darpar fabwysiadydd cyn bod 10 niwrnod gwaith wedi mynd heibio) rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu anfon —

(a)yr adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4), ynghyd ag unrhyw sylwadau a roddwyd gan y darpar fabwysiadydd o dan baragraff (6);

(b)yr adroddiadau ysgrifenedig y cyfeirir atynt ym mharagraff (3); ac

(c)unrhyw wybodaeth arall berthnasol a gafwyd gan yr asiantaeth o dan y rheoliad hwn

at y panel mabwysiadu.

(8Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, y gall y panel mabwysiadu ei gwneud yn ofynnol ac anfon yr wybodaeth honno at y panel.

Swyddogaeth y panel mabwysiadu

27.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r panel mabwysiadu ystyried achos y darpar fabwysiadydd a gaiff ei atgyfeirio ato gan yr asiantaeth fabwysiadu a gwneud argymhelliad i'r asiantaeth honno a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn.

(2Wrth ystyried pa argymhelliad i'w wneud, o ran y panel mabwysiadu—

(a)rhaid iddo bwyso a mesur a chymryd i ystyriaeth yr holl wybodaeth a'r adroddiadau a ddaeth iddo yn unol â rheoliad 26;

(b)caiff ofyn i'r asiantaeth gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r panel yn ystyried ei bod yn angenrheidiol; ac

(c)rhaid iddo gael y cyngor cyfreithiol yr ystyria sy'n angenrheidiol o ran yr achos.

(3Pan fydd y panel mabwysiadu yn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu bod y darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn, caiff ystyried ac ar yr un pryd caiff gynghori'r asiantaeth am y nifer o blant y gall y darpar fabwysiadydd fod yn addas i'w mabwysiadu, ystod eu hoedran, eu rhyw a'u nodweddion (iechyd a chymdeithasol).

(4Cyn gwneud unrhyw argymhelliad, rhaid i'r panel mabwysiadu wahodd y darpar fabwysiadwyr i ddod i gyfarfod a gynhelir gan y panel.

Penderfyniad a hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu

28.—(1Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried argymhelliad y panel mabwysiadu wrth ddod i benderfyniad ynghylch a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn.

(2Nid oes unrhyw aelod o'r panel mabwysiadu i gymryd rhan yn unrhyw benderfyniad a wneir gan yr asiantaeth fabwysiadu o dan baragraff (1).

(3Os yw'r asiantaeth fabwysiadu yn penderfynu bod y darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn, rhaid iddi hysbysu'r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig o'i phenderfyniad.

(4Os yw'r asiantaeth fabwysiadu o'r farn nad yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn, rhaid iddi—

(a)hysbysu'r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig nad yw'n bwriadu cymeradwyo'r darpar fabwysiadydd fel rhywun addas i fabwysiadu plentyn (“dyfarniad o gymhwyster”);

(b)anfon gyda'r hysbysiad hwnnw ei rhesymau ynghyd â chopi o argymhelliad y panel mabwysiadu, os ydynt yn wahanol;

(c)cynghori'r darpar fabwysiadydd y caiff o fewn 20 niwrnod gwaith gan ddechrau ar y dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad y caiff y darpar fabwysiadydd—

(i)cyflwyno unrhyw sylwadau i'r asiantaeth, neu

(ii)wneud cais i'r panel adolygu annibynnol i adolygu'r dyfarniad cymwys.

(5O fewn y cyfnod o 20 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (4), os na fydd y darpar fabwysiadydd wedi gwneud unrhyw sylwadau neu wedi gwneud cais i banel adolygu annibynnol, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu fynd rhagddi i wneud ei phenderfyniad a rhaid iddi hysbysu'r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig o'i phenderfyniad ynghyd â'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(6O fewn y cyfnod o 20 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (4), os bydd yr asiantaeth fabwysiadu wedi cael sylwadau pellach oddi wrth y darpar fabwysiadydd, caiff atgyfeirio'r achos ynghyd â'r holl wybodaeth berthnasol yn ôl at eu panel mabwysiadu ar gyfer ystyriaeth bellach.

(7Rhaid i'r panel mabwysiadu ystyried unrhyw achos a atgyfeirir ato o dan baragraff (6) a gwneud argymhelliad o'r newydd i'r asiantaeth fabwysiadu o ran a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn.

(8Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu benderfynu'r achos ond os atgyfeiriwyd yr achos at y panel mabwysiadu o dan baragraff (6) neu os yw'r darpar fabwysiadydd wedi gwneud cais i'r panel adolygu annibynnol am adolygiad o'r dyfarniad o gymhwyster rhaid iddo benderfynu ond dim ond ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw argymhelliad gan y panel mabwysiadu a wnaed o dan baragraff (7) a rheoliad 27 neu, yn ôl y digwydd, gan y panel adolygu annibynnol.

(9Cyn gynted â phosibl ar ôl gwneud ei phenderfyniad o dan baragraff (8), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig o'i phenderfyniad gan ddatgan ei rhesymau dros y penderfyniad hwnnw os yw o'r farn nad yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn, ac o argymhelliad y panel mabwysiadu o dan baragraff (7), os yw hwn yn wahanol i benderfyniad yr asiantaeth fabwysiadu.

Gwybodaeth sydd i'w hanfon at y panel adolygu annibynnol

29.—(1Os yw'r asiantaeth fabwysiadu yn cael hysbysiad oddi wrth y panel adolygu annibynnol bod darpar fabwysiadydd wedi gwneud cais am adolygiad o'r dyfarniad cymwys, rhaid i'r asiantaeth, o fewn 10 niwrnod gwaith ar ôl derbyn yr hysbysiad hwnnw, anfon at y panel adolygu annibynnol yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2)(15).

(2Mae'r wybodaeth ganlynol yn un a bennir at ddibenion paragraff (1) —

(a)yr holl adroddiadau a gwybodaeth a anfonwyd at y panel mabwysiadu yn unol â rheoliad 26;

(b)unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan y darpar fabwysiadydd yn unol â rheoliad 26(6);

(c)unrhyw adroddiadau eraill neu wybodaeth arall a anfonwyd gan yr asiantaeth fabwysiadu at y panel mabwysiadu;

(ch)cofnod o drafodion y panel mabwysiadu, ei argymhellion a'i resymau dros ei argymhellion;

(d)yr hysbysiad, ynghyd â'r rhesymau a anfonwyd gan yr asiantaeth fabwysiadu at y darpar fabwysiadydd yn unol â rheoliad 28(4)(a) a (b).

Adolygiadau a therfynu cymeradwyaeth

30.—(1Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu adolygu cymeradwyaeth pob darpar fabwysiadydd yn unol â'r rheoliad hwn, oni bai—

(a)mewn achos adran 83, bod y darpar fabwysiadydd wedi ymweld â'r plentyn yn y wlad lle mae'r plentyn yn arferol yn preswylio ynddi a'i fod wedi cadarnhau'n ysgrifenedig ei fod yn mynd ymlaen â'r mabwysiadu; a

(b)mewn unrhyw achos arall, bod y plentyn wedi'i leoli ar gyfer mabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd.

(2Rhaid i adolygiad ddigwydd pryd bynnag y bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried ei fod yn angenrheidiol ond fel arall ddim mwy na dwy flynedd ar ôl cymeradwyaeth ac yna ar ôl bylchau nad ydynt yn fwy na dwy flynedd.

(3Wrth ymgymryd ag adolygiad o'r fath rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu —

(a)gwneud yr ymholiadau hynny a chael gafael ar yr wybodaeth honno y mae'n ystyried sy'n angenrheidiol er mwyn adolygu a yw'r darpar fabwysiadydd yn parhau i fod yn addas i fabwysiadu plentyn; a

(b)gofyn am farn y darpar fabwysiadydd a'i hystyried.

(4Fel rhan o bob adolygiad rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried—

(a)pam na leolwyd unrhyw blentyn hyd yn hyn gyda'r darpar fabwysiadydd;

(b)unrhyw drefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu ac a ddylent barhau neu gael eu haddasu;

(c)pan ddychwelir plentyn at yr asiantaeth fabwysiadu yn unol ag adran 35(1) neu (2) o'r Ddeddf, y rhesymau dros ddychwelyd y plentyn; ac

(ch)a yw'r darpar fabwysiadydd yn parhau i fod yn addas i fabwysiadu plentyn.

(5Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu —

(a)nodi'n ysgrifenedig y trefniadau sy'n llywodraethu dull cyflawni'r adolygiad ar ddarpar fabwysiadydd a rhaid dwyn y trefniadau ysgrifenedig i sylw—

(i)y darpar fabwysiadydd; a

(ii)unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol,

(b)sicrhau bod—

(i)yr wybodaeth a gafwyd ynglŷn â'r darpar fabwysiadydd;

(ii)manylion y trafodion mewn unrhyw gyfarfod a drefnwyd gan yr asiantaeth i ystyried unrhyw agwedd o'r adolygiad; a

(iii)manylion unrhyw benderfyniad a wnaed yn ystod yr adolygiad neu o ganlyniad iddo,

yn cael eu cofnodi'n ysgrifenedig a'u rhoi yng nghofnod achos y darpar fabwysiadydd.

(6Ar ddiwedd yr adolygiad, os bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried nad yw'r darpar fabwysiadydd bellach yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol, rhaid iddi baratoi adroddiad ysgrifenedig y mae'n rhaid iddo gynnwys —

(a)yr wybodaeth a gafwyd ar y materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (3) a (4);

(b)rhesymau'r asiantaeth; ac

(c)unrhyw wybodaeth arall y mae'r asiantaeth yn ystyried sy'n berthnasol.

(7Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd fod yr adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (6) i gael ei atyfeirio at y panel mabwysiadu a rhoi copi i'r darpar fabwysiadydd o'r adroddiad hwnnw, a gwahodd sylwadau ar yr adroddiad sydd i'w hanfon yn ysgrifenedig at yr asiantaeth o fewn 10 niwrnod gwaith, gan ddechrau ar y dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad.

(8Ar ddiwedd y cyfnod o 10 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (7) (neu'n gynharach os daw unrhyw sylwadau a wnaed gan y darpar fabwysiadydd i law cyn i'r 10 niwrnod gwaith ddod i ben) rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu anfon copi o'r adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (6), ynghyd â sylwadau'r darpar fabwysiadydd a'r adroddiad a gafodd ei baratoi ar gyfer y panel o dan reoliad 26(4).

(9Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, y gall y panel mabwysiadu ofyn amdani ac anfon yr wybodaeth honno at y panel.

(10Rhaid i'r panel mabwysiadu ystyried yr adroddiad ac unrhyw wybodaeth arall a roddwyd iddo gan yr asiantaeth fabwysiadu o dan y rheoliad hwn a gwneud argymhelliad i'r asiantaeth a yw'r darpar fabwysiadydd yn parhau i fod yn addas i fabwysiadu plentyn.

(11Mae rheoliad 28 yn gymwys o ran y penderfyniad gan yr asiantaeth fabwysiadu ynghylch a yw darpar fabwysiadydd yn parhau i fod yn addas i fabwysiadu plentyn fel y mae'n gymwys o ran y penderfyniad gan yr asiantaeth ynghylch a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn.

Dyletswyddau asiantaeth fabwysiadu mewn achos adran 83 yn dilyn cymeradwyo darpar fabwysiadydd

31.  Os bydd asiantaeth fabwysiadu yn penderfynu mewn achos adran 83 i gymeradwyo darpar fabwysiadydd fel person addas i fabwysiadu plentyn, rhaid i'r asiantaeth anfon at y Cynulliad Cenedlaethol —

(a)cadarnhad ysgrifenedig o'r penderfyniad ac unrhyw argymhelliad y caiff yr asiantaeth ei wneud o ran y nifer o blant y gall y darpar fabwysiadydd fod yn addas i'w mabwysiadu, ystod eu hoedran, eu rhyw, eu hanghenion tebygol a'u cefndir;

(b)yr holl ddogfennau a gwybodaeth a roddwyd i'r panel mabwysiadu yn unol â rheoliad 26;

(c)cofnod o drafodion y panel mabwysiadu, ei argymhellion a'i resymau dros ei argymhellion;

(ch)os oedd y darpar fabwysiadydd wedi gwneud cais am adolygiad gan banel annibynnol o ddyfarniad o gymhwyster, cofnodion trafodion y panel hwnnw, ei argymhellion a'r rhesymau dros ei argymhellion; a

(d)unrhyw wybodaeth arall ynglyn â'r achos y gall y Cynulliad Cenedlaethol neu'r awdurdod tramor perthnasol ei gwneud yn ofynnol.

RHAN 5DYLETSWYDDAU'R ASIANTAETH FABWYSIADU O RAN LLEOLIAD ARFAETHEDIG PLENTYN GYDA DARPAR FABWYSIADYDD

Y lleoliad arfaethedig

32.—(1Os bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried lleoli plentyn ar gyfer mabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd penodol (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel “y lleoliad arfaethedig”) rhaid i'r asiantaeth —

(a)rhoi i'r darpar fabwysiadydd adroddiad am y plentyn a rhaid i'r adroddiad gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 5 ac unrhyw wybodaeth arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei bod yn berthnasol;

(b)cyfarfod â'r darpar fabwysiadydd i drafod y lleoliad arfaethedig;

(c)canfod barn y darpar fabwysiadydd am —

(i)y lleoliad arfaethedig;

(ii)anghenion asesedig y plentyn ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu a'r cynllun cymorth mabwysiadu;

(iii)y trefniadau y mae'r asiantaeth yn bwriadu eu gwneud er mwyn caniatáu cyswllt â'r plentyn i unrhyw berson; a

phan fo'n gymwys, unrhyw gyfyngiad wrth arfer ei gyfrifoldeb rhiant.

(ch)darparu gwasanaeth cwnsela ar gyfer y darpar fabwysiadydd ac unrhyw wybodaeth bellach iddo yn ôl y gofyn.

(2Os dilynwyd y gweithdrefnau a nodir ym mharagraff (1) ac os yw'r darpar fabwysiadydd wedi cadarnhau i'r asiantaeth yn ysgrifenedig ei fod yn barod i gytuno ar y lleoliad arfaethedig, rhaid i'r asiantaeth mewn achosion o'r fath ac os yw'n ystyried ei bod yn briodol i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol yng ngoleuni oedran a dealltwriaeth y plentyn, gwnsela'r plentyn a dweud wrth y plentyn am y darpar fabwysiadwyr, eu hamgylchiadau teuluol ac awyrgylch eu cartrefi a chanfod barn y plentyn am y lleoliad arfaethedig, y trefniadau cyswllt ac unrhyw gyfyngiad ar gyfrifoldeb rhiant y darpar fabwysiadydd.

(3Os yw'r asiantaeth fabwysiadu o'r farn y dylai'r lleoliad arfaethedig fynd rhagddo, rhaid i'r asiantaeth—

(a)os yw'r asiantaeth yn awdurdod lleol, gwneud asesiad o anghenion y plentyn a'r darpar deulu mabwysiadol ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 4(6) o'r Ddeddf;

(b)ystyried y trefniadau ar gyfer caniatáu cyswllt gan unrhyw berson â'r plentyn;

(c)ystyried a ddylid cyfyngu i unrhyw raddau ar gyfrifoldeb unrhyw riant neu warcheidwad, neu ddarpar fabwysiadwyr;

(ch)paratoi adroddiad ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys—

(i)rhesymau'r asiantaeth dros gynnig y lleoliad;

(ii) yr wybodaeth a gafwyd yn rhinwedd paragraffau (1) a (2);

(iii)os yw'r asiantaeth yn awdurdod lleol, ei gynigion ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, os o gwbl, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 4(6) o'r Ddeddf;

(iv)y trefniadau y mae'r asiantaeth yn bwriadu eu gwneud er mwyn caniatáu cyswllt â'r plentyn i unrhyw berson;

(v)cynigion yr asiantaeth i gyfyngu ar gyfrifoldeb unrhyw riant neu warcheidwad, neu ddarpar fabwysiadydd; a

(vi)unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol i'r lleoliad arfaethedig.

(4Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd bod y lleoliad arfaethedig i'w atyfeirio at y panel mabwysiadu ac anfon at y darpar fabwysiadydd gopi o adroddiad yr asiantaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (3) a gwahodd unrhyw sylwadau ar yr adroddiad i'w hanfon yn ysgrifenedig at yr asiantaeth o fewn 10 niwrnod gwaith, gan ddechrau ar y dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad.

(5Ar ddiwedd y cyfnod o 10 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (4) (neu'n gynharach os ceir sylwadau cyn bod 10 niwrnod gwaith wedi mynd heibio) rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu anfon —

(a)yr adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3);

(b)yr adroddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 17;

(c)yr adroddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 26 ac unrhyw sylwadau a wnaed gan y darpar fabwysiadydd ar yr adroddiad hwnnw;

(ch)unrhyw wybodaeth berthnasol arall a gafwyd gan yr asiantaeth o dan y rheoliad hwn

at y panel mabwysiadu.

(6Ni chaiff yr asiantaeth fabwysiadu ond atgyfeirio at y panel mabwysiadu ei chynnig i leoli plentyn ar gyfer mabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd penodol yn unig os ymgynghorwyd ag unrhyw asiantaeth fabwysiadu arall sydd wedi gwneud penderfyniad yn unol â'r Rheoliadau hyn y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu, neu os yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn, ynghylch y lleoliad arfaethedig.

(7Os yw'r asiantaeth fabwysiadu yn cynnig lleoli plentyn ar gyfer mabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd penodol, rhaid i'r asiantaeth ddechrau cofnodion achos mewn unrhyw achos os nad yw eisoes wedi dechrau cofnodion o'r fath a rhoi yn y cofnod priodol unrhyw wybodaeth, adroddiad, argymhelliad neu benderfyniad a atgyfeiriwyd ati gan asiantaeth fabwysiadu arall ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall sydd i'w hanfon at y panel mabwysiadu yn rhinwedd y rheoliad hwn ynglyn â hwy.

(8Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall o ran y lleoliad arfaethedig, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, y gall y panel mabwysiadu ofyn amdani ac anfon yr wybodaeth honno at y panel.

Swyddogaeth y panel mabwysiadu o ran lleoliad arfaethedig

33.—(1Rhaid i'r panel mabwysiadu ystyried y lleoliad arfaethedig a gaiff ei atgyfeirio ato gan yr asiantaeth fabwysiadu a gwneud argymhelliad i'r asiantaeth ynghylch a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd penodol hwnnw.

(2Wrth ystyried pa argymhelliad i'w wneud, rhaid i'r panel mabwysiadu roi sylw i'r dyletswyddau a osodwyd ar yr asiantaeth fabwysiadu o dan adran 1(2), (4) a (5) o'r Ddeddf (ystyriaethau sy'n gymwys wrth arfer pwerau o ran mabwysiadu plentyn) ac —

(a)rhaid iddo bwyso a mesur a chymryd i ystyriaeth yr holl wybodaeth a'r adroddiadau a ddaeth iddo yn unol â rheoliad 32;

(b)caiff ofyn i'r asiantaeth fabwysiadu gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r panel yn ystyried ei bod yn angenrheidiol; ac

(c)rhaid iddo gael cyngor cyfreithiol yr ystyria sy'n angenrheidiol o ran yr achos.

(3Rhaid i'r panel mabwysiadu hefyd ystyried a chaiff, os yw'r panel yn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd penodol hwnnw, ystyried rhoi cyngor ar yr un pryd i'r asiantaeth fabwysiadu ynghylch —

(i)os yw'r asiantaeth fabwysiadu yn awdurdod lleol, cynigion yr awdurdod i ddarparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu;

(ii)y trefniadau y mae'r asiantaeth yn bwriadu eu gwneud er mwyn caniatáu cyswllt â'r plentyn i unrhyw berson;

(iii)a ddylid gwneud cais am orchymyn lleoliad; a

(iv)os awdurdodwyd yr asiantaeth i leoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu a ydyw'n ystyried y dylid cyfyngu ar gyfrifoldeb rhiant unrhyw berson ac, os felly, i ba raddau.

(4Caiff y panel mabwysiadu wneud yr argymhelliad ym mharagraff (1) ond ddim ond —

(a)os yw'r argymhelliad hwnnw i gael ei wneud yn yr un cyfarfod o'r panel mabwysiadu lle cafodd argymhelliad ei wneud y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu; neu

(b)os yw'r asiantaeth fabwysiadu neu asiantaeth fabwysiadu arall wedi gwneud penderfyniad yn unol â rheoliad 19 y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu;

ac yn y naill achos a'r llall bod yr argymhelliad i'w wneud yn yr un cyfarfod o'r panel y cafodd argymhelliad ei wneud bod y darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn neu fod yr asiantaeth fabwysiadu, neu asiantaeth fabwysiadu arall, wedi gwneud penderfyniad yn unol â rheoliad 28 fod y darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn.

Penderfyniad yr asiantaeth fabwysiadu o ran y lleoliad arfaethedig

34.—(1Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu wneud y canlynol —

(a)ystyried argymhelliad y panel mabwysiadu;

(b)ystyried unrhyw gyngor a roddir gan y panel mabwysiadu yn unol â rheoliad 33(3); a

(c)rhoi sylw i'r ystyriaeth a nodir yn adran 1(2) o'r Ddeddf,

wrth benderfynu a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd penodol.

(2Nid oes unrhyw aelod o'r panel mabwysiadu i gymryd rhan yn unrhyw benderfyniad a wneir gan yr asiantaeth fabwysiadu o dan baragraff (1).

(3Cyn gynted â phosibl ar ôl iddi benderfynu rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig o'i phenderfyniad ynghylch y lleoliad arfaethedig, trefniadau cyswllt a chyfyngu ar gyfrifoldeb rhiant unrhyw berson.

(4Cyn gynted â phosibl ar ôl iddi benderfynu, rhaid i'r asiantaeth hysbysu yn ysgrifenedig —

(a)y rhiant neu'r gwarcheidwad, os yw'r asiantaeth yn gwybod lle y maent; a

(b)os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, tad y plentyn,

o'i phenderfyniad.

(5Os yw'r asiantaeth fabwysiadu yn penderfynu y dylai'r lleoliad arfaethedig fynd rhagddo, rhaid i'r asiantaeth esbonio ei phenderfyniad i'r plentyn mewn modd priodol ac yng ngoleuni oedran a dealltwriaeth y plentyn.

Swyddogaeth yr asiantaeth fabwysiadu mewn achos adran 83

35.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn achos adran 83 os yw'r asiantaeth fabwysiadu yn cael gwybodaeth gan yr awdurdod tramor perthnasol ynghylch plentyn sydd i'w fabwysiadu gan ddarpar fabwysiadydd y mae'r asiantaeth wedi ei gymeradwyo fel rhywun addas i fabwysiadu plentyn.

(2Os yw paragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu—

(a)anfon copi o'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at y darpar fabwysiadydd onid yw'n gwybod bod y darpar fabwysiadydd wedi cael copi;

(b)ystyried yr wybodaeth honno;

(c)cyfarfod y darpar fabwysiadydd i drafod yr wybodaeth; ac

(ch)os yw'n briodol, darparu gwasanaeth cwnsela ar gyfer y darpar fabwysiadydd ac unrhyw wybodaeth bellach iddo yn ôl y gofyn.

RHAN 6LLEOLIADAU AC ADOLYGIADAU

Gofynion a osodir ar yr asiantaeth fabwysiadu cyn y lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd

36.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r asiantaeth fabwysiadu —

(a)wedi penderfynu yn unol â rheoliad 34 i leoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd penodol; a

(b)wedi cyfarfod â'r darpar fabwysiadydd i ystyried y trefniadau y mae'n bwriadu eu gwneud er mwyn lleoli'r plentyn gydag ef.

(2Os yw paragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, o leiaf 7 niwrnod cyn lleoli'r plentyn gyda'r darpar fabwysiadydd, roi cynllun lleoli i'r darpar fabwysiadydd ynglyn â'r plentyn sy'n ymdrin â'r materion a bennir yn Atodlen 6 (“y cynllun lleoliad”).

(3Os yw paragraff (1) yn gymwys ac mae'r plentyn eisoes yn byw gyda'r darpar fabwysiadydd, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu roi i'r darpar fabwysiadydd y cynllun lleoliad ynglyn â'r plentyn o fewn 7 niwrnod ar ôl iddo benderfynu lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd.

(4Os yw paragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, cyn iddo leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd—

(a)hysbysu ymarferydd cyffredinol y darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig o'r lleoliad arfaethedig ac anfon gyda'r hysbysiad hwnnw adroddiad ysgrifenedig o hanes iechyd y plentyn a chyflwr presennol ei iechyd;

(b)hysbysu'r awdurdod lleol (os nad yr awdurdod hwnnw yw'r asiantaeth fabwysiadu) a'r Bwrdd Iechyd Lleol neu'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol (Lloegr) y mae'r darpar fabwysiadydd yn preswylio yn ei ardal yn ysgrifenedig o'r lleoliad arfaethedig;

(c)hysbysu'r awdurdod addysg lleol y mae'r darpar fabwysiadydd yn preswylio yn ei ardal yn ysgrifenedig o'r lleoliad arfaethedig a gwybodaeth am hanes addysgol y plentyn ac a gafodd neu a yw'n debygol o gael ei asesu ar gyfer anghenion addysgol arbennig o dan Ddeddf Addysg 1996.

(5Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig o unrhyw newid yn y cynllun lleoliad.

(6Os yw paragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, cyn i'r plentyn gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y darpar fabwysiadydd, drefnu i'r darpar fabwysiadydd gyfarfod â'r plentyn ac yn dilyn y cyfarfod hwnnw gwnsela'r darpar fabwysiadydd ac, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol yng ngoleuni oedran a dealltwriaeth y plentyn, gwnsela'r plentyn am y lleoliad arfaethedig.

(7Os bydd y darpar fabwysiadydd, ar ôl dilyn y gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6), yn cadarnhau'n ysgrifenedig ei fod yn dymuno mynd rhagddo â'r lleoliad, ac os awdurdodir yr asiantaeth fabwysiadu i leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu neu os yw'r plentyn yn iau na chwe wythnos oed, caiff yr asiantaeth fabwysiadu leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd.

(8Os yw'r plentyn eisoes yn byw gyda'r darpar fabwysiadydd, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig o'r dyddiad y lleolir y plentyn yno gan yr asiantaeth ar gyfer ei fabwysiadu.

Adolygiadau

37.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan awdurdodir asiantaeth fabwysiadu i leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu ond na leolwyd y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw plentyn yn cael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu.

(3Os yw paragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu wneud adolygiad achos ar y plentyn —

(a)dim mwy na thri mis ar ôl y dyddiad y mae gan yr asiantaeth yr awdurdod am y tro cyntaf i leoli; a

(b)wedyn dim mwy na chwe mis ar ôl dyddiad yr adolygiad blaenorol (“adolygiad chwe mis”),

nes lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.

(4Os yw paragraff (2) yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu wneud adolygiad achos ar y plentyn —

(a)dim mwy na phedair wythnos ar ôl dyddiad y lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu (“yr adolygiad cyntaf”);

(b)dim mwy na thri mis ar ôl yr adolygiad cyntaf; ac

(c)wedyn dim mwy na chwe mis ar ôl dyddiad yr adolygiad blaenorol,

oni chaiff y plentyn ei ddychwelyd i'r asiantaeth gan y darpar fabwysiadydd neu oni wneir gorchymyn mabwysiadu.

(5Os yw paragraff (2) yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu —

(a)sicrhau yr ymwelir â'r plentyn a'r darpar fabwysiadydd o fewn un wythnos ar ôl y lleoli ac wedyn o leiaf unwaith yr wythnos tan yr adolygiad cyntaf ac wedyn yn ôl yr amlder a benderfynir gan yr asiantaeth ym mhob adolygiad;

(b)sicrhau bod adroddiadau ysgrifenedig yn cael eu llunio am yr ymweliadau hynny; ac

(c)rhoi cyngor a chymorth o'r fath i'r darpar fabwysiadydd y mae'r asiantaeth o'r farn bod eu hangen.

(6Wrth wneud adolygiad rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ymweld â'r plentyn ac i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol ganfod barn —

(a)y plentyn yng ngoleuni ei oedran a'i ddealltwriaeth;

(b)os lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu, y darpar fabwysiadydd; ac

(c)unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn barnu eu bod yn berthnasol,

o ran pob un o'r materion a nodir ym mharagraff (7)(a) i (dd).

(7Fel rhan o bob adolygiad rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried—

(a)p'un a leolwyd y plentyn ai peidio, a ydyw'r asiantaeth fabwysiadu yn parhau'n fodlon y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu;

(b)anghenion y plentyn, ei les, ei gynnydd a'i ddatblygiad, ac a oes angen gwneud unrhyw newidiadau i ddiwallu anghenion y plentyn neu gynorthwyo datblygiad y plentyn;

(c)y trefniadau presennol ar gyfer cyswllt, ac a ddylent barhau neu gael eu haddasu;

(ch)pan leolir plentyn ar gyfer ei fabwysiadu, y trefniadau o ran arfer cyfrifoldeb rhiant am y plentyn, ac a ddylent barhau neu gael eu haddasu;

(d)y trefniadau presennol ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu ac a ddylid gwneud ailasesiad o'r angen am y gwasanaethau hynny;

(dd)wrth ymgynghori â'r asiantaethau priodol, y trefniadau ar gyfer asesu a diwallu anghenion gofal iechyd ac anghenion addysgol y plentyn;

(e)yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4) amlder yr adolygiadau.

(8Os yw'r plentyn yn destun gorchymyn lleoliad ond na chafodd ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu ar adeg yr adolygiad chwe mis cyntaf, rhaid i'r awdurdod yn yr adolygiad hwnnw—

(a)darganfod pam na chafodd y plentyn ei leoli ar gyfer mabwysiadu ac ystyried pa gamau pellach ddylai'r awdurdod eu cymryd o ran lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu; a

(b)yng ngoleuni hynny, ystyried a yw'n parhau'n fodlon y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu.

(9Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu —

(a)nodi'n ysgrifenedig y trefniadau sy'n llywodraethu'r dull y mae achos pob plentyn i gael ei adolygu a rhaid dwyn y trefniadau ysgrifenedig i sylw—

(i)y plentyn os yw'n rhesymol ymarferol yng ngoleuni ei oedran a'i ddealltwriaeth;

(ii)y darpar fabwysiadydd; a

(iii)unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn barnu ei fod yn berthnasol.

(b)sicrhau bod—

(i)yr wybodaeth a gafwyd o ran achos plentyn gan gynnwys dymuniadau a theimladau'r plentyn hyd y gellir eu casglu;

(ii)manylion y trafodion mewn unrhyw gyfarfod a drefnwyd gan yr asiantaeth i ystyried unrhyw agwedd ar adolygiad o'r achos; a

(iii)manylion unrhyw benderfyniad a wnaed yn ystod adolygiad neu o ganlyniad iddo (gan gynnwys amlder yr ymweliadau),

yn cael eu cofnodi'n ysgrifenedig a'u rhoi yng nghofnod achos y plentyn.

(10Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, hysbysu—

(a)y plentyn os yw o'r farn ei fod yn ddigon hen a'i fod yn deall digon;

(b)y darpar fabwysiadydd; ac

(c)unrhyw berson arall y mae'n ystyried y dylid ei hysbysu

o ganlyniad yr adolygiad ac o unrhyw benderfyniad a gymerwyd ganddi o ganlyniad i'r adolygiad.

(11Os dychwelir y plentyn i'r asiantaeth fabwysiadu yn unol ag adran 35(1) neu (2) o'r Ddeddf, rhaid i'r asiantaeth gynnal adolygiad o achos y plentyn cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag dim hwyrach na 28 niwrnod ar ôl y dyddiad y dychwelir y plentyn i'r asiantaeth.

Swyddogion adolygu annibynnol

38.—(1Rhaid i asiantaeth fabwysiadu sy'n awdurdod lleol neu'n gymdeithas fabwysiadu gofrestredig sy'n gorff gwirfoddol sydd yn darparu llety i blentyn, benodi person (“y swyddog adolygu annibynnol”) o ran achos pob plentyn a awdurdodwyd i'w leoli ar gyfer mabwysiadu gan yr asiantaeth i gyflawni'r swyddogaethau a grybwyllir yn adran 26(2A) o Ddeddf 1989.

(2Rhaid bod gan y swyddog adolygu annibynnol brofiad arwyddocaol mewn gwaith cymdeithasol a'i fod yn dal Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol neu Radd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster cyfatebol a gydnabyddir gan Gyngor Gofal Cymru.

(3Os yw'r swyddog adolygu annibynnol yn gyflogai i'r asiantaeth fabwysiadu rhaid sicrhau nad yw swydd y swyddog adolygu annibynnol yn yr asiantaeth honno o dan reolaeth uniongyrchol —

(a)person sy'n ymwneud â rheoli'r achos;

(b)person sydd â chyfrifoldebau rheoli o ran y person a grybwyllir yn is-baragraff (a); neu

(c)person sydd â rheolaeth dros yr adnoddau a glustnodwyd i'r achos.

(4Rhaid i'r swyddog adolygu annibynnol, cyn belled ag y mae'n rhesymol ymarferol, gadeirio unrhyw gyfarfod a gynhelir mewn cysylltiad ag adolygiad achos y plentyn.

(5Rhaid i'r swyddog adolygu annibynnol, cyn belled ag y mae'n rhesymol ymarferol, gymryd camau i sicrhau y cynhelir yr adolygiad yn unol â rheoliad 37 ac yn benodol sicrhau—

(a)bod barn y plentyn yn cael ei deall a'i hystyried;

(b)bod y personau sy'n gyfrifol am weithredu unrhyw benderfyniad a wnaed o ganlyniad i'r adolygiad yn cael eu henwi; a

(c)bod unrhyw fethiant i adolygu'r achos yn unol â rheoliad 37 neu i gymryd camau priodol i wneud neu weithredu trefniadau y cytunwyd arnynt yn yr adolygiad yn cael ei ddwyn i sylw personau ar lefel briodol o gyfrifoldeb yn yr asiantaeth.

(6Os bydd y plentyn yr adolygir ei achos yn dymuno dwyn camau cyfreithiol o dan y Ddeddf ar ei ran ei hun, er enghraifft, gwneud cais i'r llys i ddirymu gorchymyn lleoliad, swyddogaeth y swyddog adolygu annibynnol yw—

(a)cynorthwyo'r plentyn i gael cyngor cyfreithiol; neu

(b)sefydlu a oes oedolyn priodol yn alluog ac yn barod i weithredu i ddarparu'r cymorth hwnnw neu ddwyn camau cyfreithiol ar ran y plentyn.

(7Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r swyddog adolygu annibynnol o—

(a)unrhyw fethiant arwyddocaol i wneud neu weithredu trefniadau yn unol ag adolygiad;

(b)unrhyw newid arwyddocaol mewn amgylchiadau sy'n digwydd ar ôl yr adolygiad sy'n effeithio ar y trefniadau hynny.

Tynnu cydsyniad yn ôl

39.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan dynnir cydsyniad yn ôl o dan adran 19, neu adran 19 a 20 o'r Ddeddf o ran plentyn yn unol ag adran 52(8) o'r Ddeddf.

(2Os yw paragraff (1) yn gymwys ac os yw'r asiantaeth fabwysiadu yn awdurdod lleol, pan dderbynnir y ffurflen neu'r hysbysiad a roddir yn unol ag adran 52(8) o'r Ddeddf rhaid i'r awdurdod ar unwaith adolygu ei benderfyniad i leoli'r plentyn i'w fabwysiadu ac os bydd yr awdurdod, yn unol ag adran 22(1) neu (2) o'r Ddeddf yn penderfynu gwneud cais am orchymyn lleoliad o ran y plentyn, rhaid iddo ar unwaith hysbysu —

(a)y rhiant neu'r gwarcheidwad;

(b)os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, tad y plentyn, ac

(c)os lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu, y darpar fabwysiadydd y lleolir y plentyn gydag ef.

(3Os bydd paragraff (1) yn gymwys a bod yr asiantaeth fabwysiadu yn gymdeithas fabwysiadu gofrestredig, rhaid i'r asiantaeth ar unwaith ystyried a yw'n briodol i hysbysu'r awdurdod lleol y mae'r plentyn yn byw yn ei ardal.

RHAN 7COFNODION

Storio cofnodion achos

40.  Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu sicrhau bod y cofnodion achos a drefnwyd yn unol â rheoliadau 12 neu 22 o ran plentyn neu ddarpar fabwysiadydd a bod cynnwys y cofnodion achos hynny bob amser yn cael eu cadw mewn cyflwr diogel ac yn benodol bod mesurau priodol yn cael eu cymryd i rwystro'r cofnodion achos rhag cael eu lladrata, rhag datgelu nas awdurdodwyd, rhag colled neu ddistryw neu niwed iddynt neu i'w cynnwys.

Cadw cofnodion achos

41.  Pan wneir gorchymyn mabwysiadu ynglyn â phlentyn rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gadw'r holl gofnodion achos a luniwyd yn unol â rheoliadau 12 neu 22 am 100 mlynedd o leiaf. Mewn unrhyw achos arall rhaid i'r asiantaeth gadw'r cofnodion achos am y cyfnod hwnnw y mae'n ystyried ei fod yn briodol.

Cyfrinachedd cofnodion achos

42.  Yn ddarostyngedig i reoliad 43, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu drin unrhyw wybodaeth a geir, neu adroddiadau neu argymhellion neu benderfyniadau a wneir yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn gyfrinachol.

Mynediad at gofnodion achos a datgelu gwybodaeth

43.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ddarparu'r mynediad hwnnw at ei chofnodion achos a datgelu'r wybodaeth honno sydd yn ei meddiant, y gallai fod ei hangen —

(a)i'r sawl sy'n cynnal ymchwiliad o dan adran 81 o Ddeddf 1989 (ymchwiliadau) neu adran 17 o'r Ddeddf (ymchwiliadau) at ddibenion ymchwiliad o'r fath;

(b)i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(c)yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 74(5) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (datgeliad), i Gomisiynydd Plant Cymru at ddibenion unrhyw archwiliad a gynhelir yn unol â Rhan V o'r Ddeddf honno;

(ch)yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adrannau 29(7) a 32(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 (ymchwiliadau a datgeliad), i Gomisiynydd Gweinyddiaeth Leol yng Nghymru, at ddibenion unrhyw ymchwiliad a gynhelir yn unol â Rhan III o'r Ddeddf honno;

(d)i unrhyw berson a benodwyd gan yr asiantaeth fabwysiadu at ddibenion ystyriaeth gan yr asiantaeth o unrhyw sylwadau (gan gynnwys cwynion);

(dd)i'r personau a'r awdurdodau gan y Rheoliadau hyn ac i'r graddau a bennir yn y Rheoliadau hyn;

(e)i swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS at ddibenion cyflawni dyletswyddau'r swyddog o dan y Ddeddf;

(f)i lys y mae ganddo bŵer i wneud gorchymyn o dan y Ddeddf neu o dan Ddeddf 1989.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff yr asiantaeth fabwysiadu ddarparu'r mynediad hwnnw a datgelu'r wybodaeth honno sydd yn ei meddiant, fel y gwêl yn dda at ddibenion cyflawni ei swyddogaethau fel asiantaeth fabwysiadu.

(3Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw fynediad a ddarperir neu ddatgeliad a roir yn rhinwedd y rheoliad hwn.

Trosglwyddo cofnodion achos

44.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff yr asiantaeth fabwysiadu drosglwyddo copi o gofnod achos (neu ran ohono) i asiantaeth fabwysiadu arall pan fydd o'r farn fod hyn er lles plentyn neu ddarpar fabwysiadydd y mae'r cofnod yn ymwneud ag ef, a rhaid cadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw drosglwyddiad o'r fath.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i gymdeithas fabwysiadu gofrestredig sy'n bwriadu peidio â gweithredu neu beidio â bod yn gymdeithas fabwysiadu gofrestredig drosglwyddo ar unwaith naill ai ei chofnodion achos i asiantaeth fabwysiadu arall ar ôl cael cymeradwyaeth yr awdurdod cofrestru ar gyfer trosglwyddiad o'r fath neu drosglwyddo ei chofnodion achos —

(a)i'r awdurdod lleol y lleolir prif swyddfa'r gymdeithas yn ei ardal; neu

(b)yn achos cymdeithas sy'n cyfuno â chymdeithas fabwysiadu gofrestredig arall i ffurfio cymdeithas fabwysiadu gofrestredig newydd, i'r corff newydd hwnnw.

(3Os yw cymdeithas fabwysiadu gofrestredig yn bwriadu peidio â darparu ar gyfer mabwysiadu plant ond ei bod wedi'i chofrestru i ddarparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu caiff gadw ei holl gofnodion achos ar ôl cael yn gyntaf gymeradwyaeth yr awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig ar gyfer eu cadw.

(4Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu y trosglwyddir cofnodion achos iddi yn rhinwedd paragraff (2)(a) neu (b) hysbysu'r awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig o'r cyfryw drosglwyddiad.

Cymhwyso rheoliadau 41 i 43

45.  Nid yw rheoliadau 41 i 43 yn gymwys i gofnodion achos sy'n ddarostyngedig i'r rheoliadau a wneir o dan adrannau 56 i 68 o'r Ddeddf.

RHAN 8AMRYWIOL

Addasu Deddf 1989 o ran mabwysiadu

46.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys —

(a)pan awdurdodir awdurdod lleol i leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu; neu

(b)pan fydd plentyn a leolwyd ar gyfer ei fabwysiadu gan awdurdod lleol yn llai na chwe wythnos oed.

(2Pan fydd paragraff (1) yn gymwys—

(a)ni fydd adran 22(4) (b) o Ddeddf 1989 yn gymwys;

(b)bydd adran 22(4)(c) o Ddeddf 1989 yn gymwys fel pe bai'r canlynol yn cael ei fewnosod yn lle'r is-baragraff hwnnw “(c) any prospective adopter with whom the local authority has placed the child for adoption.”;

(c)bydd adran 22(5)(b) o Ddeddf 1989 yn gymwys fel pe bai'r geiriau “(4)(c) and (d)” yn cael eu mewnosod yn lle “(4)(b) to (d)”; ac

(ch)ni fydd paragraffau 15 a 21 o Atodlen 2 i Ddeddf 1989 yn gymwys.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan awdurdodir cymdeithas fabwysiadu gofrestredig i leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu neu pan fydd plentyn a leolwyd ar gyfer ei fabwysiadu gan gymdeithas fabwysiadu gofrestredig yn llai na 6 wythnos oed.

(4Pan fydd paragraff (3) yn gymwys —

(a)bydd adran 61(2)(a) o Ddeddf 1989 yn effeithiol o ran y plentyn p'un a letyir ef gan neu ar ran y gymdeithas ai peidio;

(b)ni fydd adran 61(2)(b) o Ddeddf 1989 yn gymwys;

(c)bydd adran 61(2)(c) o Ddeddf 1989 yn gymwys fel pe mewnosodwyd yn lle'r is-baragraff hwnnw “(c) any prospective adopter with whom the registered adoption society has placed the child for adoption.”.

Cyswllt

47.—(1Os yw'r asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu o dan adran 27(2) o'r Ddeddf i wrthod caniatáu'r cyswllt a fyddai fel arall yn ofynnol yn rhinwedd gorchymyn o dan adran 26 o'r Ddeddf, rhaid i'r asiantaeth, cyn gynted ag y gwneir y penderfyniad, hysbysu'r personau a bennir ym mharagraff (4) yn ysgrifenedig o'r rhannau hynny o'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (5) yn ôl fel y barna'r asiantaeth bod angen i'r personau hynny gael gwybod.

(2Gellir peidio â dilyn telerau gorchymyn o dan adran 26 o'r Ddeddf drwy gytundeb rhwng yr asiantaeth fabwysiadu ac unrhyw berson y mae'r gorchymyn yn darparu cyswllt iddo â'r plentyn yn yr amgylchiadau canlynol ac yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol —

(a)os yw'r plentyn yn ddigon hen a'i fod yn deall digon, yn ddarostyngedig i gytundeb y plentyn;

(b)os lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu, yn ddarostyngedig i ymgynghori blaenorol â'r darpar fabwysiadydd y lleolir y plentyn gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu; ac

(c)hysbysiad ysgrifenedig gan yr asiantaeth i'r personau a bennir ym mharagraff (4) o'r rhannau hynny o'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (5) yn ôl fel y barna'r asiantaeth bod angen i'r personau hynny gael gwybod, o fewn saith niwrnod o'r cytundeb i beidio â dilyn telerau'r gorchymyn.

(3Os bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn amrywio neu'n atal unrhyw drefniadau a wnaed (heblaw o dan orchymyn o dan adran 26 o'r Ddeddf) er mwyn caniatáu cyswllt i unrhyw berson â'r plentyn, rhaid i'r asiantaeth hysbysu'r personau a bennir ym mharagraff (4) yn ysgrifenedig o'r rhannau hynny o'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (5) yn ôl fel y barna'r asiantaeth bod angen i'r personau hynny gael gwybod.

(4Mae'r personau canlynol yn rhai a bennir at ddibenion paragraffau (1) a (2) —

(a)y plentyn os yw'r asiantaeth fabwysiadu o'r farn ei fod yn ddigon hen a'i fod yn deall digon;

(b)rhiant y plentyn;

(c)rhiant neu warcheidwad y plentyn;

(ch)unrhyw berson y mae'r gorchymyn o dan adran 26 o'r Ddeddf yn darparu cyswllt iddo;

(d)unrhyw berson y caniataodd yr asiantaeth gyswllt iddo â'r plentyn;

(dd)os lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu, y darpar fabwysiadydd;

(e)unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth o'r farn bod ei ddymuniadau a'i deimladau yn berthnasol.

(5Mae'r wybodaeth ganlynol yn un a bennir at ddibenion paragraffau 1, 2 a 3 —

(a)penderfyniad yr asiantaeth fabwysiadu;

(b)dyddiad y penderfyniad;

(c)y rhesymau dros y penderfyniad;

(ch)pa hyd y pery'r penderfyniad (os yw'n gymwys).

Dirymu

48.  Drwy hyn dirymir Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) 2001(16), Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) (Diwygio) 2003(17) a Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygio) (Cymru) 2003(18).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(19)

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Mai 2005

ATODLEN 1

Rheoliad 15(1)

RHAN 1GWYBODAETH AM Y PLENTYN

1.  Enw, rhyw, dyddiad a man geni a chyfeiriad gan gynnwys ardal yr awdurdod lleol.

2.  Llun a disgrifiad corfforol.

3.  Cenedl(20).

4.  Tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol.

5.  Cred grefyddol, os oes un, (gan gynnwys manylion bedydd, gwasanaeth derbyn neu seremonïau cyfatebol).

6.  A yw'r plentyn yn derbyn gofal neu a ddarperir llety iddo o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989.

7.  Manylion unrhyw orchymyn llys a wnaed ynglŷn â'r plentyn o dan Ddeddf 1989 gan gynnwys enw'r llys, y gorchymyn a wnaed a'r dyddiad y gwnaed y gorchymyn.

8.  A oes gan y plentyn unrhyw hawl i eiddo neu unrhyw fuddiant ynddynt neu unrhyw hawliad am iawndal o dan Ddeddf Damweiniau Angheuol 1976 neu fel arall y gall eu cadw neu eu colli os mabwysiadir ef.

9.  Cronoleg o ofal y plentyn ers ei enedigaeth.

10.  Asesiad o bersonoliaeth y plentyn, ei ddatblygiad cymdeithasol a'i ddatblygiad emosiynol a datblygiad ei ymddygiad.

11.  A oes gan y plentyn unrhyw anawsterau gyda gweithgareddau megis bwydo, ymolchi ac ymwisgo.

12.  Hanes addysgol y plentyn gan gynnwys—

(a)enwau, cyfeiriadau a'r mathau o feithrinfeydd neu ysgolion a fynychwyd gyda dyddiadau;

(b)crynodeb o'i gynnydd a'i gyraeddiadau;

(c)a yw'n ddarostyngedig i ddatganiad o dan Ddeddf Addysg 1996;

(ch)unrhyw anghenion arbennig sydd ganddo o ran dysgu; a

(d)os yw'n derbyn gofal, manylion ei gynllun addysg personol a baratowyd gan yr awdurdod lleol.

13.  Gwybodaeth am—

(a)perthynas y plentyn gyda —

(i)ei riant neu ei warcheidwad ac, os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, ei dad;

(ii)unrhyw frodyr neu chwiorydd neu berthnasau eraill; a

(iii)unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn barnu ei fod yn berthnasol;

(b)y tebygolrwydd y gall y berthynas honno barhau a gwerth hynny i'r plentyn; a

(c)gallu a pharodrwydd unrhyw un o berthnasau'r plentyn, neu unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol, i roi amgylchedd diogel i'r plentyn y gall ddatblygu ynddo, a bodloni ei anghenion fel arall.

14.  Y trefniadau ar hyn o bryd a'r math o gyswllt rhwng rhiant y plentyn neu ei warcheidwad neu berson arall â chyfrifoldeb rhiant amdano ac, os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, ei dad, ac unrhyw berthynas, cyfaill neu berson arall.

15.  Disgrifiad o ddiddordebau'r plentyn, ei hoff bethau a'i gas bethau.

16.  Unrhyw wybodaeth berthnasol arall a allai fod o gymorth i'r panel mabwysiadu neu'r asiantaeth fabwysiadu.

Rheoliad 15(2)

RHAN 2MATERION I'W CYNNWYS YN ADRODDIAD IECHYD Y PLENTYN

1.  Enw, dyddiad geni, rhyw, pwysau a thaldra.

2.  Adroddiad newyddenedigol ar y plentyn, gan gynnwys—

(a)manylion am ei enedigaeth, ac unrhyw gymhlethdodau;

(b)canlyniadau archwiliad corfforol a phrofion sgrinio;

(c)manylion unrhyw driniaeth a roddwyd;

(ch)manylion unrhyw broblemau mewn rheoli a bwydo;

(d)unrhyw wybodaeth berthnasol arall a allai fod o gymorth i'r panel;

(dd)enw a chyfeiriad unrhyw feddyg a allai roi gwybodaeth bellach am unrhyw un o'r materion uchod.

3.  Hanes iechyd y plentyn yn llawn, gan gynnwys—

(a)manylion o unrhyw salwch difrifol, anabledd, damwain, derbyn i ysbyty neu fynychu adran cleifion allanol, ac ym mhob achos unrhyw driniaeth a roddwyd;

(b)manylion a dyddiadau imwneiddio;

(c)asesiad corfforol ac asesiad o ddatblygiad yn ôl oedran, gan gynnwys asesiad o'r llygaid a'r clyw a datblygiad niwrolegol, llafaredd ac iaith ac unrhyw dystiolaeth o anhwylder emosiynol;

(ch)hanes ei iechyd gan yr ysgol (os yw ar gael);

(d)sut y mae iechyd corfforol a iechyd meddwl y plentyn a'i hanes meddygol wedi effeithio ar ddatblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol neu ddatblygiad ei ymddygiad;

(dd)unrhyw wybodaeth berthnasol arall a all gynorthwyo'r panel mabwysiadu.

4.  Llofnod, enw, cyfeiriad, Rhif ffôn a chymwysterau'r ymarferydd meddygol cofrestredig a baratôdd yr adroddiad, dyddiad yr adroddiad a'r archwiliadau a wnaed ynghyd ag enw a chyfeiriad unrhyw feddyg arall a all roi gwybodaeth bellach am unrhyw rai o'r materion uchod.

Rheoliad 16(1)

RHAN 3GWYBODAETH AM DEULU'R PLENTYN AC ERAILL

Gwybodaeth am bob rhiant i'r plentyn (gan gynnwys y rhieni naturiol a mabwysiadol) gan gynnwys tad nad oes ganddo gyfrifoldeb rhiant am y plentyn

1.  Enw, rhyw, dyddiad a man geni a chyfeiriad gan gynnwys ardal yr awdurdod lleol.

2.  Llun, os oes un ar gael, a disgrifiad corfforol.

3.  Cenedl(21).

4.  Tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol.

5.  Cred grefyddol, os oes un.

6.  Disgrifiad o'u personoliaeth a'u diddordebau.

Gwybodaeth am frodyr a chwiorydd y plentyn

7.  Enw, rhyw a dyddiad a man geni.

8.  Llun, os oes un ar gael, a disgrifiad corfforol.

9.  Cenedl(22).

10.  Cyfeiriad, os yw'n briodol.

11.  Os unrhyw frawd neu chwaer o dan 18 oed—

(a)ym mha le a gyda phwy y mae ef neu hi yn byw;

(b)a yw'n derbyn gofal neu a ddarperir llety iddo neu iddi o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989;

(c)manylion unrhyw orchymyn llys a wnaed ynglyn ag ef neu hi o dan Ddeddf 1989 gan gynnwys enw'r llys, y gorchymyn a wnaed a'r dyddiad y gwnaed y gorchymyn; ac

(ch)a ydyw ef neu hi hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer eu mabwysiadu.

Gwybodaeth am berthnasau eraill y plentyn ac unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol

12.  Enw, rhyw a dyddiad a man geni.

13.  Cenedl(23).

14.  Cyfeiriad, os yw'n briodol.

Hanes y teulu a pherthnasau

15.  A oedd mam a thad y plentyn yn briod â'i gilydd adeg geni'r plentyn (neu a ydynt wedi priodi ar ôl hynny) ac os felly, dyddiad a man y briodas ac a yw'r rhieni wedi ysgaru neu wedi gwahanu.

16.  Os nad oedd rhieni'r plentyn yn briod a'i gilydd ar adeg geni'r plentyn, a oes gan dad y plentyn gyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac os felly sut y cafwyd ef.

17.  Os na wyddys pwy yw tad y plentyn na ble y mae, yr wybodaeth amdano sy'n hysbys a phwy a'i rhoes, a'r camau a gymrwyd i ddarganfod tadolaeth.

18.  Os bu rhieni'r plentyn yn briod neu wedi ffurfio partneriaeth sifil, dyddiad y briodas neu yn ôl y digwydd, dyddiad a man cofrestru'r bartneriaeth sifil.

19.  I'r graddau y mae'n bosibl, coeden deulu a manylion teidiau a neiniau'r plentyn, ei fodrybedd a'i ewythredd a'u hoedran (neu eu hoedran pan fuont farw).

20.  Os yw'n rhesymol ymarferol, cronoleg dau riant y plentyn ers eu genedigaeth.

21.  Sylwadau rhieni'r plentyn am eu profiadau hwy am y rhiant a gawsant yn eu plentyndod a sut y dylanwadodd hyn arnynt.

22.  Y berthynas a fu a'r berthynas bresennol rhwng rhieni'r plentyn.

23.  Manylion am y teulu ehangach a'u rôl a'u pwysigrwydd —

(a)i rieni'r plentyn; a

(b)i unrhyw frodyr neu chwiorydd y plentyn.

Gwybodaeth arall am ddau riant y plentyn ac os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, y tad

24.  Gwybodaeth am eu cartref a'r gymdogaeth y maent yn byw ynddi.

25.  Manylion hanes eu haddysg.

26.  Manylion hanes eu cyflogaeth.

27.  Gwybodaeth am gynneddf rianta mam a thad y plentyn, yn enwedig eu gallu a'u parodrwydd i rianta'r plentyn.

28.  Unrhyw wybodaeth berthnasol arall a allai fod o gymorth i'r panel mabwysiadu neu'r asiantaeth fabwysiadu.

Rheoliad 16(1)

RHAN 4MANYLION YNGHYLCH GWARCHEIDWAD

1.—(aEnw, rhyw a dyddiad a man geni.

(b)Cenedl(24).

(c)Cyfeiriad a Rhif ffôn.

2.  Y berthynas a fu a'r berthynas bresennol â'r plentyn.

3.  Crefydd.

4.  Unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r asiantaeth yn ystyried a all gynorthwyo'r panel mabwysiadu.

Rheoliad 16(2)

RHAN 5MANYLION YNGHYLCH IECHYD RHIENI A BRODYR A CHWIORYDD NATURIOL Y PLENTYN

1.  Enw, dyddiad geni, rhyw, pwysau a thaldra'r ddau riant naturiol.

2.  Hanes iechyd y teulu, sy'n ymwneud â dau riant naturiol y plentyn, brodyr a chwiorydd y plentyn (os oes rhai) a'r plant arall (os oes rhai) gan bob rhiant gyda manylion unrhyw salwch corfforol difrifol neu salwch meddwl difrifol a chlefyd neu anhwylder etifeddol.

3.  Hanes iechyd dau riant naturiol y plentyn, gan gynnwys manylion unrhyw salwch corfforol difrifol neu salwch meddwl difrifol, camddefnyddio cyffuriau neu alcohol, anabledd, damwain neu dderbyn i ysbyty, ac ym mhob achos unrhyw driniaeth a gafwyd y mae'r asiantaeth o'r farn ei bod yn berthnasol.

4.  Crynodeb o hanes obstetrig y fam, gan gynnwys unrhyw broblemau yn y cyfnod cyn geni, esgor ac ar ôl geni, gyda chanlyniadau unrhyw brofion a wnaed yn ystod neu'n syth ar ôl beichiogrwydd.

5.  Manylion unrhyw salwch presennol, gan gynnwys y driniaeth a'r prognosis.

6.  Unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r asiantaeth yn ystyried a all gynorthwyo'r panel.

7.  Llofnod, enw, cyfeiriad, Rhif ffôn a chymwysterau unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig a roddodd unrhyw wybodaeth sydd yn y Rhan hon ynghyd ag enw a chyfeiriad unrhyw feddyg arall a allai roi gwybodaeth bellach am unrhyw rai o'r materion uchod.

Rheoliad 20(1)

ATODLEN 2GWYBODAETH A DOGFENNAU I'W DARPARU I SWYDDOG ACHOSION TEULUOL AR GYFER CYMRU NEU SWYDDOG O CAFCASS

1.  Copi o dystysgrif geni'r plentyn.

2.  Enw a chyfeiriad rhiant neu warcheidwad y plentyn.

3.  Cronoleg o'r camau a'r penderfyniadau a gymerwyd gan yr asiantaeth o ran y plentyn.

4.  Cadarnhad gan yr asiantaeth ei bod wedi cwnsela, ac wedi esbonio i'r rhiant neu'r gwarcheidwad oblygiadau cyfreithiol y cydsyniad i leoli o dan adran 19 o'r Ddeddf a hefyd, yn ôl y digwydd, o ran gwneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf, a'i bod wedi rhoi gwybodaeth ysgrifenedig i'r rhiant neu'r gwarcheidwad ynghylch y mater hwn ynghyd â chopi o'r wybodaeth a roddwyd i'r rhiant neu'r gwarcheidwad.

5.  Unrhyw wybodaeth am y rhiant neu'r gwarcheidwad neu wybodaeth arall y mae'r asiantaeth fabwysiadu o'r farn y gall y swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog CAFCASS fod angen ei gwybod.

Rheoliad 23(3)(b)

ATODLEN 3

RHAN 1TRAMGWYDDAU A BENNIR AT DDIBENION RHEOLIAD 23(3)(b)

Tramgwyddau yng Nghymru a Lloegr

1.  Tramgwydd treisio oedolyn o dan adran 1 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 —

(a)tramgwydd trais o dan adran 1 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003(25);

(b)tramgwydd ymosodiad drwy dreiddiad o dan adran 2 o'r Ddeddf honno;

(c)tramgwydd peri i berson gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol heb gydsyniad o dan adran 4 o'r Ddeddf honno os oedd y gweithgaredd yn dod o fewn is-adran (3);

(ch)tramgwydd gweithgaredd rhywiol gyda pherson ag anhwylder meddwl sy'n llesteirio dewis o dan adran 30 o'r Ddeddf honno os oedd y cyffwrdd yn dod o fewn is-adran (3);

(d)tramgwydd peri neu ysgogi person ag anhwylder meddwl sy'n llesteirio dewis, i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol o dan adran 31 o'r Ddeddf honno, os oedd y gweithgaredd a barwyd neu a ysgogwyd yn dod o fewn is-adran (3);

(dd)tramgwydd cymell, bygwth neu ddichell i ddenu gweithgaredd rhywiol gyda pherson ag anhwylder meddwl o dan adran 34 o'r Ddeddf honno, os oedd y cyffwrdd yn dod o fewn is-adran (2); ac

(e)tramgwydd o beri i berson ag anhwylder meddwl gymryd rhan neu gytuno i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol drwy gymell, bygwth neu ddichell os oedd y gweithgaredd yn dod o fewn is-adran (2).

Tramgwyddau yn yr Alban

2.  Tramgwydd trais.

3.  Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf y Weithdrefn Droseddol (yr Alban) 1995(26) ac eithrio mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed adeg cyflawni'r tramgwydd, tramgwydd sy'n groes i adran 5 o Ddeddf Cyfraith Trosedd (Cydgrynhoi) (yr Alban) 1995 (cyfathrach rywiol â merch o dan 16 oed)(27), tramgwydd o anwedduster digywilydd rhwng dynion neu dramgwydd sodomiaeth.

4.  Tramgwydd plagiwm (lladrata plentyn o dan oed blaenaeddfedrwydd).

5.  Tramgwydd o dan adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Sifil (yr Alban) 1982 (lluniau anweddus o blant)(28).

6.  Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (cam-drin ymddiriedaeth)(29).

Tramgwyddau yng Ngogledd Iwerddon

7.  Tramgwydd trais.

8.  Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(30), ac eithrio mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed adeg cyflawni'r tramgwydd, tramgwydd sy'n groes i adrannau 5 neu 11 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Trosedd 1885 (cyfathrach gnawdol anghyfreithlon â merch o dan 17 oed ac anwedduster garw rhwng gwrywod)(31), neu dramgwydd yn groes i adran 61 o Ddeddf Tramgwyddau Corfforol 1861 (sodomiaeth).

9.  Tramgwydd o dan Erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978 (lluniau anweddus)(32).

10.  Tramgwydd o dan Erthygl 9 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth etc.) (Gogledd Iwerddon) 1980 (ysgogi merch o dan 16 i gael cyfathrach rywiol losgachol)(33).

11.  Tramgwydd yn groes i Erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth, etc.) (Gogledd Iwerddon) 1988 (meddu ar lun anweddus o blant)(34).

12.   Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (cam-drin ymddiriedaeth).

Rheoliad 23(4)

RHAN 2TRAMGWYDDAU STATUDOL A DDIDDYMWYD

1.—(1Tramgwydd o dan unrhyw un o adrannau canlynol Deddf Tramgwyddau Rhywiol 1956—

(a)adran 1 (trais);

(b)adran 5 (cyfathrach rywiol â merch o dan 13 oed);

(c)onid yw paragraff 4 yn gymwys, adran 6 (cyfathrach rywiol â merch o dan 16 oed);

(ch)adran 19 neu 20 (herwgydio merch o dan 18 neu 16 oed);

(d)adran 25 neu 26 o'r Ddeddf honno (caniatáu i ferch o dan 13 oed, neu rhwng 13 a 16 oed, i ddefnyddio mangre i gael cyfathrach rywiol);

(dd)adran 28 o'r Ddeddf honno (peri neu annog puteinio merch o dan 16 oed neu gyfathrach rywiol â hi neu ymosodiad anweddus arni).

(2Tramgwydd o dan adran 1 o Ddeddf Anwedduster â Phlant 1960 (ymddygiad anweddus tuag at blentyn ifanc).

(3Tramgwydd o dan adran 54 o Ddeddf Cyfraith Troseddau 1977 (ysgogi merch o dan 16 oed i gyflawni llosgach).

(4Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (cam-drin ymddiriedaeth).

2.  Daw person o fewn y paragraff hwn os cafodd ei gollfarnu o unrhyw un o'r tramgwyddau canlynol yn erbyn plentyn a gyflawnwyd pan oedd yn 18 neu drosodd neu os cafodd rybuddiad gan gwnstabl o ran unrhyw dramgwydd o'r fath, y cyfaddefodd y person i'r tramgwydd pan roddwyd y rhybuddiad —

(a)tramgwydd o dan adran 2 neu 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956 (caffael menyw drwy fygwth neu haeru anwir);

(b)tramgwydd o dan adran 4 o'r Ddeddf honno (rhoi cyffuriau i gael neu hwyluso cyfathrach rywiol);

(c)tramgwydd o dan adran 14 neu 15 o'r Ddeddf honno (ymosodiad anweddus);

(ch)tramgwydd o dan adran 16 o'r Ddeddf honno (ymosodiad gyda'r bwriad o gyflawni sodomiaeth);

(d)tramgwydd o dan adran 17 o'r Ddeddf honno (herwgydio menyw drwy rym neu oherwydd ei heiddo);

(dd)tramgwydd o dan adran 24 o'r Ddeddf honno (dal menyw mewn puteindy neu mewn mangre arall).

3.  Daw person o fewn y paragraff hwn os cafodd ei gollfarnu o unrhyw un o'r tramgwyddau canlynol yn erbyn plentyn a gyflawnwyd pan oedd yn 18 neu drosodd neu os cafodd rybuddiad gan gwnstabl o ran unrhyw dramgwydd o'r fath, y cyfaddefodd y person i'r tramgwydd pan roddwyd y rhybuddiad.

(a)tramgwydd o dan adran 7 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956 (cyfathrach rywiol â pherson diffygiol) drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn;

(b)tramgwydd o dan adran 9 o'r Ddeddf honno (caffael person diffygiol) drwy gaffael plentyn i gael cyfathrach rywiol;

(c)tramgwydd o dan adran 10 o'r Ddeddf honno (llosgach gan ddyn) drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn;

(ch)tramgwydd o dan adran 11 o'r Ddeddf honno (llosgach gan fenyw) drwy ganiatáu i blentyn gael cyfathrach rywiol â hi;

(d)onid yw paragraff 4 yn gymwys, tramgwydd o dan adran 12 o'r Ddeddf honno drwy gyflawni sodomiaeth â phlentyn o dan 16 oed;

(dd)onid yw paragraff 4 yn gymwys, tramgwydd o dan adran 13 o'r Ddeddf honno drwy gyflawni gweithred o anwedduster garw â phlentyn;

(e)tramgwydd o dan adran 21 o'r Ddeddf honno (herwgydio person diffygiol oddi wrth riant neu warcheidwad) drwy ddwyn y plentyn o feddiant ei riant neu warcheidwad;

(f)tramgwydd o dan adran 22 o'r Ddeddf honno (peri puteinio menywod) o ran plentyn;

(ff)tramgwydd o dan adran 23 o'r Ddeddf honno (caffael merch o dan 21 oed) drwy gaffael plentyn i gael cyfathrach rywiol â thrydydd person;

(g)tramgwydd o dan adran 27 o'r Ddeddf honno (caniatáu i berson diffygiol ddefnyddio mangre ar gyfer cyfathrach rywiol) drwy gymell neu ganiatáu i blentyn droi at fangre neu fod mewn mangre at ddibenion cael cyfathrach rywiol;

(ng)tramgwydd o dan adran 29 o'r Ddeddf honno (peri neu annog puteinio person diffygiol) drwy beri neu annog puteinio plentyn;

(h)tramgwydd o dan adran 30 o'r Ddeddf honno (dyn yn byw ar enillion puteindra) mewn achos lle bo'r butain yn blentyn;

(i)tramgwydd o dan adran 31 o'r Ddeddf honno (menyw yn gweithredu rheolaeth dros butain) mewn achos lle bo'r butain yn blentyn;

(j)tramgwydd o dan adran 128 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1959 (cyfathrach rywiol â chleifion) drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn;

(l)tramgwydd o dan adran 4 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1967 (caffael eraill i gyflawni gweithredoedd cyfunrhywiol) drwy—

(i)caffael plentyn i gyflawni gweithred o sodomiaeth gydag unrhyw berson; neu

(ii)caffael unrhyw berson i gyflawni gweithred o sodomiaeth â phlentyn;

(ll)tramgwydd o dan adran 5 o'r Ddeddf honno (byw ar enillion puteinio gwrywaidd) drwy fyw yn gyfan gwbl neu'n rhannol ar enillion puteinio plentyn;

(m)tramgwydd o dan adran 9(1)(a) o Ddeddf Dwyn 1968 (bwrgleriaeth), drwy fynd i mewn i adeilad neu ran o adeilad gyda'r bwriad o dreisio plentyn.

4.  Nid yw paragraffau 1(c) a 3(d) a (dd) yn cynnwys tramgwyddau mewn achos os oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed pan gyflawnwyd y tramgwydd.

ATODLEN 4

Rheoliad 26(2)

RHAN 1GWYBODAETH AM Y DARPAR FABWYSIADYDD

Gwybodaeth am y darpar fabwysiadydd

1.  Enw, rhyw, dyddiad a man geni a chyfeiriad gan gynnwys ardal yr awdurdod lleol.

2.  Llun a disgrifiad corfforol.

3.  A yw domisil neu gartref arferol y darpar fabwysiadydd mewn rhan o Ynysoedd Prydain ac os yw cartref arferol y darpar fabwysiadydd yno, ers pa bryd.

4.  Tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol.

5.  Cred grefyddol, os oes un.

6.  Y berthynas â'r plentyn (os oes un).

7.  Asesiad o bersonoliaeth a diddordebau'r darpar fabwysiadydd.

8.  Os yw'r darpar fabwysiadydd yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac os yw'n gwneud y cais ar ei ben ei hun, asesiad o addasrwydd y darpar fabwysiadydd ar gyfer mabwysiadu a'r rhesymau dros hynny.

9.  Manylion o unrhyw achosion blaenorol mewn llys teulu y bu'r darpar fabwysiadydd yn cymryd rhan ynddynt.

10.  Enwau a chyfeiriadau tri chanolwr a fydd yn rhoi geirda personol am y darpar fabwysiadydd, na chaiff mwy nag un ohonynt fod yn berthynas iddo.

11.  Enw a chyfeiriad ymarferydd meddygol cofrestredig y darpar fabwysiadydd, os oes un.

12.  O ran y darpar fabwysiadydd —

(a)os yw'n briod, dyddiad a man y briodas;

(b)os yw wedi ffurfio partneriaeth sifil, dyddiad a man cofrestru'r bartneriaeth honno; neu

(c)os oes partner gan y darpar fabwysiadydd, manylion y berthynas honno.

13.  Manylion unrhyw briodas, partneriaeth sifil neu berthynas flaenorol.

14.  Coeden deulu gyda manylion y darpar fabwysiadydd, ei blant ac unrhyw frodyr a chwiorydd, gyda'u hoedran (neu eu hoedran pan fuont farw).

15.  Cronoleg o'r darpar fabwysiadydd ers ei eni.

16.  Sylwadau darpar fabwysiadydd am ei brofiad am y rhianta a gafodd yn ei blentyndod a sut y dylanwadodd hyn arno.

17.  Manylion unrhyw brofiad sydd gan y darpar fabwysiadydd o ofalu am blant (gan gynnwys fel rhiant, llys-riant, rhiant maeth, gwarchodwr plant neu ddarpar fabwysiadydd) ac asesiad o'i allu yn y cyswllt hwnnw.

18.  Unrhyw wybodaeth arall sy'n dangos sut y mae'r darpar fabwysiadydd ac unrhyw un arall sy'n byw ar ei aelwyd yn debygol o ymwneud â'r plentyn a leolir ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd.

Y teulu ehangach

19.  Disgrifiad o deulu ehangach y darpar fabwysiadydd a'i rôl a'i bwysigrwydd i'r darpar fabwysiadydd a'i rôl a'i bwysigrwydd tebygol i'r plentyn a leolir ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd.

Gwybodaeth am gartref y darpar fabwysiadydd etc.

20.  Asesiad o gartref a chymdogaeth y darpar fabwysiadydd.

21.  Manylion aelodau eraill o aelwyd y darpar fabwysiadydd (gan gynnwys unrhyw blant i'r darpar fabwysiadydd p'un a ydynt yn preswylio ar yr aelwyd ai peidio).

22.  Cymuned leol y darpar fabwysiadydd, gan gynnwys i ba raddau yr integreiddiodd y teulu, grwpiau o gymheiriaid, cyfeillgarwch a rhwydweithiau cymdeithasol y teulu.

Addysg a chyflogaeth

23.  Manylion hanes addysg a chyraeddiadau'r darpar fabwysiadydd a sylwadau'r darpar fabwysiadydd ar sut y cafodd hyn ddylanwad.

24.  Manylion hanes cyflogaeth y darpar fabwysiadydd a sylwadau'r darpar fabwysiadydd ar sut y cafodd hyn ddylanwad.

25.  Cyflogaeth bresennol y darpar fabwysiadydd a'i farn am gyflawni cydbwysedd rhwng cyflogaeth a gofal plant.

Incwm

26.  Manylion incwm a gwariant y darpar fabwysiadydd.

Gwybodaeth arall

27.  Gallu'r darpar fabwysiadydd —

(a)i rannu hanes geni'r plentyn a materion emosiynol cysylltiedig;

(b)deall a chefnogi'r plentyn drwy deimladau posibl o golled a thrawma.

28.  O ran y darpar fabwysiadydd —

(a)ei resymau dros ddymuno mabwysiadu plentyn;

(b)ei farn a'i deimladau am fabwysiadu a'i arwyddocâd;

(c)ei farn am ei gynneddf i rianta;

(ch)ei farn am ei gyfrifoldeb rhiant a'r hyn y mae'n ei olygu;

(d)ei farn am amgylchedd cartref addas i blentyn;

(dd)ei farn am bwysigrwydd a gwerth addysg;

(e)ei farn a'i deimladau ynghylch pwysigrwydd magwraeth grefyddol a diwylliannol plentyn;

(f)ei farn a'i deimladau am gyswllt o ran plentyn.

29.  Barn aelodau eraill o aelwyd y darpar fabwysiadydd a'r teulu ehangach o ran mabwysiadu.

30.  Unrhyw wybodaeth berthnasol arall a allai fod o gymorth i'r panel mabwysiadu neu'r asiantaeth fabwysiadu.

Rheoliad 26(3)(a)

RHAN 2GWYBODAETH AM IECHYD Y DARPAR FABWYSIADYDD

1.  Enw, dyddiad geni, rhyw, pwysau a thaldra.

2.  Hanes iechyd y teulu, sy'n ymwneud â'r rhieni, brodyr a chwiorydd (os oes rhai) a phlant (os oes rhai) y darpar fabwysiadydd, gyda manylion unrhyw salwch corfforol difrifol neu salwch meddwl difrifol a chlefyd neu anhwylder etifeddol.

3.  Anffrwythlondeb neu resymau dros beidio â chael plant (os yw'n gymwys).

4.  Hanes iechyd yn y gorffennol, gan gynnwys manylion unrhyw salwch corfforol difrifol neu salwch meddwl difrifol, anabledd, damwain, derbyn i ysbyty neu fynd i adran cleifion allanol, ac ym mhob achos y driniaeth a gafwyd.

5.  Hanes obstetrig (os yw'n gymwys).

6.  Manylion unrhyw salwch presennol, gan gynnwys y driniaeth a'r prognosis.

7.  Archwiliad meddygol llawn.

8.  Manylion o unrhyw yfed alcohol a all beri pryder neu a yw'r darpar fabwysiadydd yn ysmygu neu'n defnyddio cyffuriau sy'n creu caethiwed.

9.  Unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r asiantaeth yn ystyried a all gynorthwyo'r panel.

10.  Llofnod, enw, cyfeiriad, a chymwysterau'r ymarferydd meddygol cofrestredig a baratôdd yr adroddiad, dyddiad yr adroddiad a'r archwiliadau a wnaed ynghyd ag enw a chyfeiriad unrhyw feddyg arall a all roi gwybodaeth bellach am unrhyw rai o'r materion uchod.

Rheoliad 32(1)

ATODLEN 5GWYBODAETH AM Y PLENTYN I'W RHOI I DDARPAR FABWYSIADYDD

1.  Manylion am y plentyn.

2.  Llun a disgrifiad corfforol.

3.  Manylion am amgylchiadau teuluol y plentyn ac amgylchedd y cartref, gan gynnwys manylion am deulu'r plentyn (rhieni, brodyr a chwiorydd ac eraill sy'n arwyddocaol).

4.   Cronoleg o ofal y plentyn.

5.  Ymddygiad y plentyn, sut y mae'r plentyn yn rhyngweithio â phlant eraill ac yn dod ymlaen gydag oedolion.

6.  A yw'r plentyn yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol ac, os felly, y rheswm pam y mae'r plentyn i'w leoli ar gyfer mabwysiadu.

7.  Manylion hanes lleoli'r plentyn gan gynnwys y rhesymau pam os na lwyddodd unrhyw leoliad.

8.  Manylion cyflwr iechyd y plentyn, hanes ei iechyd ac unrhyw angen am ofal iechyd a all godi yn y dyfodol.

9.  Manylion hanes addysgol y plentyn, a chrynodeb o gynnydd y plentyn hyd yn hyn ac os cafodd ei asesu neu os yw'n debygol o gael ei asesu ar gyfer anghenion addysgol arbennig o dan Ddeddf Addysg 1996.

10.  Dymuniadau a theimladau'r plentyn hyd y gellir eu canfod mewn perthynas â mabwysiadu, a chyswllt â rhiant y plentyn, ei warcheidwad, perthynas iddo neu berson arall arwyddocaol.

11.  Dymuniadau a theimladau rhiant y plentyn, ei warcheidwad, perthynas iddo neu berson arall arwyddocaol o ran mabwysiadu a chyswllt.

12.  Sylwadau'r person y mae'r plentyn yn byw gydag ef ynghylch mabwysiadu.

13.  Asesiad o anghenion y plentyn ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu a chynigion yr asiantaeth i ddiwallu'r anghenion hynny.

14.  Cynigion yr asiantaeth i ganiatáu cyswllt rhwng unrhyw berson â'r plentyn.

15.  Yr amserlen arfaethedig ar gyfer lleoli.

16.  Unrhyw wybodaeth arall y mae'r asiantaeth yn ystyried sy'n berthnasol.

Rheoliad 36(2)

ATODLEN 6CYNLLUN LLEOLIAD

1.  Statws y plentyn a ph'un a leolwyd ef o dan orchymyn lleoliad neu gyda chydsyniad ei rieni gwaed.

2.  Y trefniadau ar gyfer paratoi'r plentyn a'r darpar fabwysiadydd ar gyfer y lleoliad.

3.  Y dyddiad y bwriedir lleoli'r plentyn i'w fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd.

4.  Y trefniadau ar gyfer adolygu'r lleoliad.

5.  A fwriedir cyfyngu ar gyfrifoldeb rhiant y darpar fabwysiadydd ac os felly i ba raddau y bydd y cyfyngu.

6.  Y gwasanaethau cymorth mabwysiadu y mae'r awdurdod lleol wedi penderfynu eu darparu ar gyfer y plentyn a'r teulu mabwysiadol, sut y darperir hwy a chan bwy (os yw'n gymwys).

7.  Y trefniadau a wnaeth yr asiantaeth fabwysiadu er mwyn caniatáu cyswllt â'r plentyn i unrhyw berson, ffurf y cyswllt a'r trefniadau ar gyfer cefnogi cyswllt ac enw a manylion cyswllt y person sy'n gyfrifol am hwyluso'r trefniadau cyswllt (os yw'n gymwys).

8.  Y dyddiad pan roddir llyfr stori bywyd a llythyr am fywyd yn nes ymlaen i'r darpar fabwysiadydd neu i'r plentyn.

9.  Manylion unrhyw drefniadau y mae angen eu gwneud.

10.  Manylion cyswllt gweithiwr cymdeithasol y plentyn, gweithiwr cymdeithasol y darpar fabwysiadydd a chysylltiadau y tu allan i oriau.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch asiantaethau mabwysiadu (awdurdodau lleol a chymdeithasau mabwysiadu cofrestredig) sy'n arfer eu swyddogaethau o ran mabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (“y Ddeddf”).

Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y trefniadau ar gyfer gwaith mabwysiadu y mae'n rhaid i asiantaethau eu sefydlu. Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau ffurfio paneli mabwysiadu ac mae rheoliadau 4 a 5 yn gwneud darpariaeth o ran deiliadaeth swydd aelodau panel a gweithdrefnau panel mabwysiadu. Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau benodi cynghorydd mabwysiadu i'r panel mabwysiadu.

Mae Rhan 3 yn gymwys pan fydd asiantaeth yn ystyried mabwysiadu ar gyfer y plentyn. Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth agor cofnod achos o ran y plentyn a rhoi yn y cofnod hwnnw unrhyw wybodaeth a gafwyd o dan y rheoliadau am y plentyn ac am deulu'r plentyn. Mae rheoliadau 13 a 14 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth ddarparu cwnsela a gwybodaeth i'r plentyn a rhiant neu warcheidwad y plentyn. Mae rheoliad 14(2) a (3) yn ymdrin â sefyllfa tad nad oes ganddo gyfrifoldeb rhiant am y plentyn. Mae rheoliadau 15 a 16 yn gosod dyletswyddau ar asiantaeth i gael gwybodaeth am y plentyn, teulu'r plentyn ac eraill a bennir yn Atodlen 1. Mae rheoliad 17 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth baratoi adroddiad ysgrifenedig i'r panel mabwysiadu am y plentyn a theulu'r plentyn, i gynnwys dadansoddiad sy'n dangos pam mai lleoliad ar gyfer mabwysiadu yw'r hoff ddewis o ran sefydlogrwydd. Mae rheoliad 18 yn darparu bod yn rhaid i'r panel mabwysiadu wneud argymhelliad i'r asiantaeth p'un a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu. Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried yr argymhelliad hwnnw wrth ddod i benderfyniad ynghylch a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu (rheoliad 19). Mae rheoliad 20 yn darparu y gall yr asiantaeth ofyn am swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru i gael ei benodi i dystio i gydsyniad ar gyfer lleoliad o dan adran 19 o'r Ddeddf ac, yn ôl y digwydd, i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf. Pennir yr wybodaeth sydd i'w darparu i'r swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru yn Atodlen 2.

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer asesu darpar fabwysiadwyr. Mae rheoliad 21 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth ddarparu cwnsela a gwybodaeth ar gyfer darpar fabwysiadydd. Mae rheoliad 23 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth gyflawni gwiriadau heddlu ac mae'n darparu na chaiff asiantaeth ystyried person yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol os yw'r person neu unrhyw aelod o'i aelwyd 18 oed neu drosodd wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd benodedig (fel y'i diffinnir yn rheoliad 23(3)) neu os cafodd rybudd yn ei chylch. Mae rheoliad 26 yn gosod y gweithdrefnau ar gyfer gwneud asesiad o'r darpar fabwysiadydd. Nodir yr wybodaeth sydd i'w chael o ran darpar fabwysiadydd yn Atodlen 4. Rhaid paratoi adroddiad a rhaid cyflwyno'r papurau i'r panel mabwysiadu a fydd yn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth p'un a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol. Rhaid i'r asiantaeth ystyried yr argymhelliad hwnnw wrth ddod i benderfyniad ynghylch a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol (rheoliadau 27 a 28). Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth o ran dyletswyddau'r asiantaeth fabwysiadu o ran lleoli plentyn gyda darpar fabwysiadydd. Rhaid i'r asiantaeth roi i'r darpar fabwysiadydd adroddiad am y plentyn a rhaid i'r adroddiad gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 5 ac unrhyw wybodaeth arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei bod yn berthnasol (rheoliad 32). Cyfeirir y papurau at y panel mabwysiadu a rhaid iddo ystyried y lleoliad arfaethedig a gwneud argymhelliad i'r asiantaeth ynghylch a fyddai'r darpar fabwysiadydd penodol yn addas fel rhiant mabwysiadol ar gyfer y plentyn penodol hwnnw a rhaid i'r asiantaeth gymryd yr argymhelliad hwnnw i ystyriaeth wrth ddod i benderfyniad (rheoliadau 33 a 34).

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth o ran lleoliadau ac adolygiadau. Mae rheoliad 36 yn darparu bod yn rhaid i'r asiantaeth roi cynllun lleoliad i'r darpar fabwysiadydd (a rhaid iddo ymdrin â'r materion a bennir yn Atodlen 6) a chyn i'r plentyn gael ei leoli ar gyfer mabwysiadu rhaid anfon gwybodaeth benodol at y personau a bennir yn rheoliad 36(4) a threfnu i'r darpar fabwysiadydd gyfarfod â'r plentyn ac yn dilyn y cyfarfod hwnnw rhaid i'r asiantaeth gwnsela'r darpar fabwysiadydd a (phan fydd yn ymarferol) y plentyn (rheoliad 36(6)). Mae rheoliad 37 yn gosod dyletswydd ar yr asiantaeth i gyflawni adolygiadau ar achosion plant. Mae rheoliad 39 yn gosod dyletswydd ar asiantaeth i adolygu ei phenderfyniad ar unwaith ar leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu os bydd rhiant yn tynnu ei gydsyniad yn ôl o dan adran 19 neu adrannau 19 a 20 o'r Ddeddf.

Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth o ran cofnodion.

Mae Rhan 8 yn gwneud darpariaethau amrywiol gan gynnwys addasiadau i ddarpariaethau yn y Ddeddf Plant yn achos plant yr awdurdodir asiantaethau mabwysiadu eu lleoli ar gyfer eu mabwysiadu ac o ran y camau sydd i'w cymryd pan fydd asiantaeth yn penderfynu gwrthod caniatáu cyswllt o dan adran 27(2) o'r Ddeddf.

Mae Rhan 9 yn gwneud darpariaethau amrywiol.

(3)

Gweler adran 5 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14).

(4)

Gweler adran 11 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 p.43.

(8)

O.S.1983/1964. Mewnosodwyd rheoliad 5A(1A) gan Reoliadau Mabwysiadu (Asiantaethau) 2003 (O.S. 2003/3223).

(9)

Diwygiwyd adran 4 gan adran 111 o'r Ddeddf.

(10)

Gweler adran 35(4) o Ddeddf Plant 2004 p.31.

(11)

1997 p.50. Diwygiwyd adran 115 gan adran 328 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, adran 19 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001, adrannau 90, 103, 104 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 152 o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni 21 a 22 iddi, adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999, adran 135 o'r Ddeddf, adran 2 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 ac Atodlen 2 iddi ac adran 115 o Ddeddf Trwyddedu 2003.

(12)

1979 p.2.

(13)

1876 p.36.

(14)

2000 p.43. Diwygiwyd Atodlen 4 i Ddeddf 2000 gan Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 c. 42.

(15)

Rhagnodir gweithrediad a gweithdrefn y panel adolygu annibynnol mewn rheoliadau pellach a wneir o dan adran 9 o'r Ddeddf.

(19)

1998 p.38.

(20)

Yn y cyd-destun hwn ni wahaniaethir rhwng gwahanol rannau o'r D.U.

(21)

Yn y cyd-destun hwn ni wahaniaethir rhwng gwahanol rannau o'r D.U.

(22)

Yn y cyd-destun hwn ni wahaniaethir rhwng gwahanol rannau o'r D.U.

(23)

Gweler (1) uchod.

(24)

Yn y cyd-destun hwn ni wahaniaethir rhwng gwahanol rannau o'r D.U.

(25)

2003 p.42.

(26)

1995 p.46.

(27)

1995 p.39.

(28)

1982 p.45, mewnosodwyd adran 52A gan adran 161 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 p.33.

(29)

2000 p.44.

(31)

1985 p.69.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill