xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1269 (Cy.89)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2005

Wedi'u gwneud

4 Mai 2005

Yn dod i rym

5 Mai 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2005. Deuant i rym ar 5 Mai 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001

2.  Diwygir Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001(3) yn unol â rheoliadau 3 i 9 o'r Rheoliadau hyn.

3.  Yn rheoliad 2 (Diffiniadau), ym mharagraff (1) —

(a)dileer y diffiniad o “cais am gymorth arwynebedd” (“area aid application”);

(b)yn y diffiniad o “arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano” (“claimed forage area”) yn lle'r geiriau “cais am gymorth ardal” rhodder y geiriau “cais sengl”;

(c)mewnosoder y diffiniadau canlynol yn eu lle priodol yn nhrefn yr wyddor —

(ch)rhodder y diffiniad canlynol yn lle'r diffiniadau o “Rheoliad y Comisiwn 1750/1999” (“Commission Regulation 1750/1999”) —

“ystyr “Rheoliad y Comisiwn 817/2004” (“Commission Regulation 817/2004”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 817/2004(6) sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 ar gymorth i ddatblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF);;

(d)mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor —

“ystyr “Rheoliad y Cyngor 1254/1999” (“Council Regulation 1254/1999”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1254/1999(7)1254/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn cig eidion a chig llo;;

(dd)dileer y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor 3508/92” (“Council Regulation 3508/92”);

(e)mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor —

“ystyr “Rheoliad y Cyngor 1782/2003” (“Council Regulation 1782/2003”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003(8) sy'n pennu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac sy'n pennu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr;;

(f)mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor —

“ystyr “Lwfansau Iawndal Da Byw Tir Uchel” (“Hill Livestock Compensatory Allowances”) neu (“HLCA”) yw lwfansau a delir o dan y Rheoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal);;

(ff)rhodder y diffiniad canlynol yn lle'r diffiniad o “IACS” —

(g)mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor —

4.  Yn rheoliad 3 (Ceiswyr cymwys), ym mharagraff (1) —

(1yn is-baragraff (a), yn lle'r geiriau “cais dilys am gymorth arwynebedd” rhodder y geiriau “cais sengl dilys”;

(2yn is-baragraff (b) —

(a)o flaen y geiriau “y ceisydd” mewnosoder y geiriau “yn ddarostyngedig i is-baragraff (d) isod,”;

(b)ar ôl y geiriau “wedi cyflwyno cais” mewnosoder y gair “dilys”;

(c)yn lle'r geiriau “mewn perthynas â'r flwyddyn” mewnosoder y geiriau “mewn perthynas â chynllun blwyddyn 2004”;

(ch)dileer y geiriau “y cyflwynwyd cais yn ei chylch am daliad Tir Mynydd”.

(3Yn is-baragraff (c) ar ôl y geiriau “ffermio cynaliadwy” mewnosoder y geiriau “ac wedi cydymffurfio â darpariaethau'r Cod Ymarfer Ffermio Da”.

(4Ar ôl is-baragraff (ch) mewnosoder yr is-baragraff canlynol —

(d)gofyniad is-baragraff (b) uchod ynghylch cyflwyno cais dilys am gymorth ar gyfer da byw heb fod yn gymwys —

(i)os yw'r ceisydd wedi gwneud cais ac wedi derbyn Lwfansau Iawndal Da Byw Tir Uchel am y flwyddyn 2000 ac os yw wedi gwneud cais ac wedi derbyn taliad Tir Mynydd ar gyfer pob blwyddyn ar ôl hynny; neu

(ii)os nad yw'r ceisydd cyn hynny wedi gwneud cais am daliad Tir Mynydd..

5.  Yn rheoliad 4 (Y dwysedd stocio isaf), ym mharagraff (1) —

(1ar ôl y geiriau “rhaid bod” mewnosoder y geiriau “wedi bod”;

(2ar ôl y geiriau “am bob hectar” mewnosoder y geiriau “ar sail nifer y defaid a/neu fuchod sugno a oedd yn denu premiwm o dan y cynllun premiwm blynyddol defaid a/neu'r cynllun Premiwm Buchod Sugno ar gyfer cynllun blwyddyn 2004”.

6.  Yn rheoliad 8 (Categorïau sy'n gymwys ar gyfer y taliad chwyddo amgylcheddol), dileer paragraff (b).

7.  Yn rheoliad 10 (Ceisiadau) —

(1dileer paragraff (2);

(2ym mharagraff (3), yn lle'r geiriau “ Erthygl 13 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2419/2001 dyddiedig 11 Rhagfyr 2001 sy'n cyflwyno rheolau manwl er mwyn cymhwyso'r system integredig gweinyddu a rheoli ar gyfer rhai cynlluniau o blith Cynlluniau cymorth y Gymuned a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor 3508/1992” rhodder y geiriau “Erthygl 21 o Reoliad y Comisiwn 796/2004”.

8.  Ar ôl rheoliad 13 (Cadw'n ôl neu adennill taliadau) mewnosoder y rheoliad canlynol —

Cymhwyso cosbau

13A.  Yn unol ag Erthygl 73 o Reoliad y Comisiwn 817/2004 bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn sefydlu, a chyhoeddi yn y dull y gwêl yn dda, system o gosbau cymesur a fydd yn gymwys mewn achosion os bydd y ceiswyr yn methu cydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliadau hyn..

9.  Yn rheoliad 16 (Pwerau personau awdurdodedig) ym mharagraff (3) —

(1yn is-baragraff (c), dileer y gair “ac”;

(2yn is-baragraff (ch), yn lle'r marc atalnodi “.” rhodder y marc atalnodi a'r gair “; a”; a

(3ar ôl is-baragraff (ch), mewnosoder yr is-baragraff canlynol —

(d)cyflawni unrhyw arolygiad neu archwiliad sy'n angenrheidiol at ddibenion penderfynu a gydymffurfiwyd â'r Cod Ymarfer Ffermio Da..

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Mai 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 5 Mai 2005, yn diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 (“y prif Reoliadau”) er mwyn:

(a)gwneud diwygiadau canlyniadol yn sgil newidiadau i'r polisi amaethyddol cyffredin o ran y Cynllun Taliad Sengl.

(b)darparu y gellir gwneud taliadau Tir Mynydd i geiswyr a gafodd Lwfansau Iawndal Da Byw Tir Uchel ar gyfer Lwfansau cynllun blwyddyn 2000 hyd yn oed os nad ydynt wedi hawlio cymorth da byw o ran defaid neu fuchod sugno neu'r ddau yn ystod y flwyddyn y cyflwynir y cais Tir Mynydd (Rheoliad 4(4)).

(c)tynnu rheoliad 8(b) er mwyn osgoi'r posibiliad o gyllido dwbl (Rheoliad 6).

(ch)sicrhau bod cymhwyster ar gyfer y cynllun yn cydymffurfio â darpariaethau'r Cod Ymarfer Ffermio Da a nodir yng Nghynllun Datblygu Gwledig Cymru 2000 — 2006, a gwneud darpariaeth ar gyfer sefydlu system o gosbau cymesur a fydd yn gymwys mewn achosion pan na chydymffurfir â'r Cod. (Rheoliad 4(3) a Rheoliad 8).

(d)darparu ar gyfer mân newidiadau a newidiadau yn y diffiniadau o ganlyniad i'r diwygiadau a nodir uchod.

(1)

Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) (O.S. 1999/2788) (“y Gorchymyn”).

(4)

Paratowyd ef gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef gan y Comisiwn Ewropeaidd yn gyntaf ar 11 Hydref 2000 drwy Benderfyniad y Comisiwn C(2000) 2932 gydag addasiadau dilynol a gymeradwywyd gan Benderfyniadau'r Comisiwn C(2002) 1743 a C(2003) 1432.

(5)

OJ Rhif L141, 30.4.2004, t.18, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 239/2005 (OJ Rhif L042, 12.2.2005, t.3).

(6)

OJ Rhif L153, 30.4.2004, t.30, fel y mae wedi'i gywiro gan Gywiriad (OJ Rhif L231, 30.6.2004, t.24).

(7)

OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.21, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1899/2004 (OJ Rhif L328, 30.10.2004, t.67).

(8)

OJ Rhif L270, 21.10.2003, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 118/2005 (OJ Rhif L024, 27.1.2005, t.15).