xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 907 (Cy.90)

DATBLYGU ECONOMAIDD, CYMRU

Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Tir Diffaith) 2004

Wedi'i wneud

24 Mawrth 2004

Yn dod i rym

1 Ebrill 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pŵer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 16(6) o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975(1) a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru bellach(2):

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Tir Diffaith) 2004 a daw i rym ar 1 Ebrill 2004.

Cynnydd y Ganran Ragnodedig

2.  At ddibenion is-adran (6) o adran 16 o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975, ystyr “the prescribed percentage” (y ganran a ragnodwyd) yw 100 y cant.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Mawrth 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 16(1) o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (“y Ddeddf”) yn darparu y caiff Awdurdod Datblygu Cymru (“yr Awdurdod”) lle bo'n ymddangos iddo y dylid cymryd camau at ddibenion adfer neu wella unrhyw dir y mae adran 16(1) yn gymwys iddo, neu sy'n galluogi unrhyw dir o'r fath i gael ei ddefnyddio, arfer y pwerau a bennir yn adran 16(3) o'r Ddeddf mewn perthynas â'r tir hwnnw, gyda chaniatâd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae adran 16(2) o'r Ddeddf yn disgrifio'r tir y mae adran 16(1) yn gymwys iddo ac yn cynnwys tir sy'n ddiffaith, sydd wedi'i esgeuluso neu sydd wedi'i anharddu.

O dan adran 16(3)(a) o'r Ddeddf, mae gan yr Awdurdod bŵ er i dalu grantiau i unrhyw berson o'r cyfryw symiau ac sy'n daladwy ar y cyfryw adegau ac sy'n ddarostyngedig i'r cyfryw amodau ag y gall yr Awdurdod eu pennu o bryd i'w gilydd mewn perthynas â gwariant perthnasol a dynnir gan y person hwnnw. Diffinnir y term 'relevant expenditure' yn adran 16(4) o'r Ddeddf. Mae'n cynnwys gwariant a dynnir, gyda chymeradwyaeth yr Awdurdod, i gyflawni neu mewn cysylltiad â chyflawni gwaith ar dir diffaith at ddibenion adfer neu wella'r tir hwnnw neu ei alluogi i gael ei ddefnyddio.

Mae adran 16(6) o'r Ddeddf yn darparu bod rhaid i swm y grant y gellir ei dalu o dan adran 16(3)(a) i berson, heblaw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol y lleolir y tir y mae adran 16(1) yn gymwys iddo yn ei ardal, beidio â bod yn uwch na therfyn arbennig. Y terfyn hwnnw yw naill ai'r ganran ragnodedig o'r gwariant perthnasol (adran 16(6)(a)) neu, yn achos grant cyfnodol mewn perthynas â chostau a dynnir o bryd i'w gilydd (neu sy'n cael eu trin fel costau a dynnir mewn perthynas â benthyca arian er mwyn talu'r gwariant perthnasol), y ganran ragnodedig o'r costau a dynnir (neu sy'n cael eu trin fel petant wedi'u tynnu) (adran 16(6)(b)).

Mae adran 16(6) o'r Ddeddf yn diffinio'r term “the prescribed percentage” (sef y ganran ragnodedig) fel 80 y cant, neu'r cyfryw ganran arall a ragnodir trwy orchymyn.

Mae'r Gorchymyn hwn yn ragnodi'r ganran fel 100 y cant.

(1)

1975 p.70; amnewidiwyd adran 16 gan adran 2(1) o Ddeddf Tir Diffaith 1982 (p.42) a'i diwygio gan adran 66(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19) a pharagraff 48 o Atodlen 16 iddi ac adran 120 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25) ac Atodlen 24 iddi ac adran 152 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) a Rhan III o Atodlen 18 iddi.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).