xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 7(1) a (2)
1.—(1) Rhaid i'r landlord roi hysbysiad ysgrifenedig o fwriad i gyflawni gwaith cymwys —
(a)i bob tenant; a
(b)i'r gymdeithas, os cynrychiolir rhai o'r tenantiaid neu'r tenantiaid i gyd gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig.
(2) Rhaid i'r hysbysiad—
(a)disgrifio'n gyffredinol y gwaith y cynigir ei gyflawni neu bennu ym mha le a pha bryd y gellir archwilio disgrifiad o'r gwaith arfaethedig;
(b)datgan rhesymau'r landlord dros ystyried bod angen cyflawni'r gwaith arfaethedig;
(c)cynnwys datganiad o gyfanswm y gwariant amcangyfrifedig y mae'n debygol y bydd y landlord yn ei dynnu wrth wneud y gwaith arfaethedig ac yn gysylltiedig ag ef;
(ch)gwahodd sylwadau ysgrifenedig, mewn perthynas â'r gwaith arfaethedig neu â gwariant amcangyfrifedig y landlord;
(d)pennu —
(i)y cyfeiriad lle y dylid anfon y sylwadau hynny;
(ii)ei bod yn rhaid iddynt gyrraedd o fewn y cyfnod perthnasol; a
(iii)y dyddiad y daw'r cyfnod perthnasol i ben.
2.—(1) Os yw hysbysiad o dan baragraff 1 yn pennu lle ac amser ar gyfer archwilio—
(a)rhaid i'r lle a'r amser a bennir felly fod yn rhesymol; a
(b)rhaid i ddisgrifiad o'r gwaith arfaethedig fod ar gael i'w archwilio, yn rhad ac am ddim, yn y lle hwnnw ac yn ystod yr oriau hynny.
(2) Os nad oes cyfleusterau ar gael i wneud copïau ar yr adegau y gellir archwilio'r disgrifiad, yna os gofynna'r tenant am gopi, rhaid i'r landlord ei ddarparu ar ei gyfer yn rhad ac am ddim.
3. Os bydd unrhyw denant neu gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig yn gwneud sylwadau mewn cysylltiad â'r gwaith arfaethedig neu â gwariant amcangyfrifedig y landlord, a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord ystyried y sylwadau hynny.
4. Os gwneir sylwadau y mae'n ofynnol i'r landlord (yn unol â pharagraff 3) eu hystyried, rhaid i'r landlord, o fewn 21 diwrnod i'w derbyn, ddatgan ymateb y landlord i'r sylwadau, a hynny mewn hysbysiad ysgrifenedig i'r person a wnaeth y sylwadau.