27. O ran y person —
(a)mae gwaharddiad wedi'i osod arno ar unrhyw bryd o dan—
(i)adran 69 o'r Ddeddf, adran 10 o Ddeddf Plant Maeth 1980(1) neu adran 4 o Ddeddf Plant 1958(2)) (pwer i wahardd maethu'n breifat);
(ii)erthygl 110 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (pwer i wahardd maethu'n breifat);
(iii)adran 10 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (pwer i wahardd cadw plant maeth)(3); neu
(iv)adran 59 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (pŵer i wahardd maethu'n breifat neu osod cyfyngiadau ar hynny); neu)
(b)mae wedi cael hysbysiad ysgrifenedig gan Fwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan adran 1(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (gwrthod cydsynio bod gofal a chynhaliaeth ar gyfer y plentyn yn cael eu rhoi gan berson).