xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliadau 4 a 5

YR ATODLEN

RHAN ITRAMGWYDDAU PENODEDIG

Tramgwyddau yn erbyn plant

1.—(aunrhyw dramgwydd yn erbyn plentyn o fewn ystyr “offence against a child” yn adran 26(1) o Ddeddf 2000; neu

(b)unrhyw dramgwydd nad yw'n dramgwydd y cyfeiriwyd ato yn (a) ac sy'n cynnwys niwed corfforol i blentyn neu farwolaeth plentyn; ond

ni fydd person wedi'i ddatgymhwyso o dan y paragraff hwn am unrhyw dramgwydd os yw'r person wedi apelio'n llwyddiannus yn erbyn y gorchymyn datgymhwyso (yn unol ag adran 31 o Ddeddf 2000) neu os yw'r Tribiwnlys wedi penderfynu (yn unol ag adran 32 o'r Ddeddf honno) na fydd y person hwnnw yn ddarostyngedig mwyach i'r gorchymyn datgymhwyso (oni bai bod yr Uchel Lys wedi adfer y gorchymyn datgymhwyso yn unol ag adran 34 o'r Ddeddf honno yn sgil penderfyniad o'r fath).

Tramgwyddau Eraill

2.  Unrhyw dramgwydd —

(a)a gyflawnwyd yn erbyn person 18 oed neu drosodd, ac a grybwyllir ym mharagraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf 2000 y mae dedfryd gymhwysol wedi'i gosod gan brif lys; neu

(b)y mae person wedi'i gyhuddo o gyflawni, ac a gyflawnwyd yn erbyn person 18 oed neu drosodd, a hwnnw'n dramgwydd a grybwyllir ym mharagraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf 2000 ac y mae gorchymyn pethnasol wedi'i osod mewn perthynas ag ef gan brif lys; ond

ni fydd person wedi'i ddatgymhwyso o dan y paragraff hwn am unrhyw dramgwydd os yw'r person wedi apelio'n llwyddiannus yn erbyn y gorchymyn datgymhwyso (yn unol ag adran 31 o Ddeddf 2000) neu os yw'r Tribiwnlys wedi penderfynu (yn unol ag adran 32 o'r Ddeddf honno) na fydd y person yn ddarostyngedig mwyach i'r gorchymyn datgymhwyso, (oni bai bod yr Uchel Lys wedi adfer y gorchymyn datgymhwyso yn unol ag adran 34 o'r Ddeddf honno yn sgil penderfyniad o'r fath), ac ymhellach bydd person yn peidio â bod yn berson sydd wedi'i ddatgymhwyso o dan y paragraff hwn os yw'r cyfnod adsefydlu sy'n gymwys i'r collfarniad o dan Ddeddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 wedi dod i ben.

3.  Tramgwydd o dan unrhyw un o'r canlynol—

(a)Deddf Tramgwyddau Rhywiol 2003(1);

(b)adran 49 neu 50(9) o'r Ddeddf (tramgwyddau ynglyn â herwgydio plentyn mewn gofal);

(c)adran 70 o'r Ddeddf, adran 16 o Ddeddf Plant Maeth 1980(2), neu adran 14 o Ddeddf Plant 1958(3) (tramgwyddau ynglyn â maethu preifat);

(ch)adrannau 78C, 79D, 79E a 79F o'r Ddeddf (tramgwyddau ynglyn â gwarchod plant a gofal dydd); neu

(d)paragraff 1(5) o Atodlen 5 i'r Ddeddf, adran 63(10) o'r Ddeddf neu baragraff 2(3) o Atodlen 6 iddi, (tramgwyddau ynglyn â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant)(4)).

4.  Tramgwydd mewn perthynas â chartref plant o dan neu yn rhinwedd unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Deddf Safonau Gofal 2000—

(a)adran 11(1) (methu â chofrestru);

(b)adran 24 (methu â chydymffurfio ag amodau);

(c)adran 25 (torri rheoliadau);

(ch)adran 26 (disgrifiadau ffug o sefydliadau ac asiantaethau); neu

(d)adran 27 (datganiadau ffug mewn ceisiadau).

Tramgwyddau yn yr Alban

5.  Tramgwydd treisio.

6.  Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(5).

7.  Plagiwm, sef tramgwydd cyfraith gyffredin, o ddwyn plentyn islaw oedran aeddfedrwydd.

8.  Tramgwydd o dan adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Ddinesig (Yr Alban) 1982 (tramgwyddau mewn perthynas â ffotograffau anweddus o blant)(6)).

9.  Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000(7) (camddefnydd o ymddiriedaeth).

10.  Tramgwydd o dan unrhyw un o'r canlynol—

(a)adran 81, 83 neu 89 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(8) neu adran 17(8) neu 71 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(9) (tramgwyddau llochesu);

(b)adran 6 o Ddeddf Herwgydio Plentyn 1984 (cymryd neu anfon plentyn allan o'r Deyrnas Unedig(10);

(c)adrannau 78, 79D, 79E and 79F o'r Ddeddf (tramgwyddau ynglyn â gwarchod plant a gofal dydd); neu

(ch)adran 15 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984(11)) (tramgwyddau ynglyn â maethu preifat).

11.  Tramgwydd o dan neu yn rhinwedd adran 60(3), 61(3) neu 62(6) o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 (tramgwyddau ynglyn â sefydliadau preswyl a sefydliadau eraill).

12.  Tramgwydd ynglyn â gwasanaeth cartref gofal, gwarchod plant neu ofal dydd dros blant, o dan unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Deddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001(12) neu yn rhinwedd unrhyw un o'r darpariaethau hynny —

(a)adran 21 (tramgwyddau ynglyn â chofrestru);

(b)adran 22 (datganiadau ffug mewn ceisiadau); neu

(c)adran 29(10) (tramgwyddau mewn rheoliadau).

Tramgwyddau yng Ngogledd Iwerddon

13.  Tramgwydd a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Amddiffyn Plant ac Oedolion sy'n Agored i Niwed (Gogledd Iwerddon) 2003(13)).

14.  Tramgwydd o dan unrhyw un o'r canlynol—

(a)erthygl 68 neu 69(9) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (tramgwyddau ynglyn â herwgydio plentyn mewn gofal)(14);

(b)erthygl 132 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 14 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (tramgwyddau ynglyn â gwarchod plant a gofal dydd)(15);

(c)erthygl 117 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 9(1) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (tramgwyddau ynglyn â maethu preifat); neu

(ch)erthygl 79(3), 81(4), 95(3) neu 97(4) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 127(5) neu 129(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (tramgwyddau ynglyn â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant).

Tramgwyddau yn Ynysoedd y Sianel

15.  Tramgwydd yn groes i'r canlynol —

(a)Rhan 7 o Ddeddf Plant (Jersey) 1969(16); neu

(b)Deddf Gofal Dydd dros Blant (Jersey) 2002(17).

16.  Tramgwydd yn groes i'r canlynol—

(a)y 'Loi pour la Punition d'inceste' (Deddf ar gyfer Cosbi Llosgach) 1909(18);

(b)y 'Loi Relative à la Protection des Femmes et des Filles Mineures' (Deddf ar gyfer Amddiffyn Menywod a Merched o dan Oedran Cydsynio) 1914(19));

(c)y 'Loi relative à la Sodomie' (Deddf ynglyn â Sodomiaeth) 1929(20);

(ch)erthygl 7, 9, 10, 11 neu 12, adran 1 o erthygl 41 neu adran 1, 2, 3 neu 4 o erthygl 51 o 'Loi ayant rapport à la protection des Enfants et des Jeunes Personnes' (Deddf ynglyn ag amddiffyn Plant a Phobl Ifanc) 1917(21));

(d)Deddf Plant a Phobl Ifanc (Guernsey) 1967(22); neu

(dd)Deddf Amddiffyn Plant (Beilïaeth Guernsey) 1985(23).

Tramgwyddau yn Ynys Manaw

17.  Tramgwydd a bennir yn Atodlen 8 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald)(24).

Tramgwyddau eraill

18.  Tramgwydd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(25) mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876 (gwaharddiadau a chyfyngiadau)(26) os oedd y nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blant o dan 16 oed.

19.  Tramgwydd yn rhinwedd —

(a)adran 7 o Ddeddf Tramgwyddwyr Rhywiol 1997 (ymestyn awdurdodaeth: Cymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon)(27); neu

(b)adran 16B o Ddeddf Cyfraith Troseddau (Cydgrynhoi) (Yr Alban) 1995 (cyflawni tramgwyddau rhywiol penodol y tu allan i'r Deyrnas Unedig)(28)).

20.  Tramgwydd yn groes i adran 32(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969 (cadw personau absennol).

RHAN IIPERSONAU PERTHNASOL

21.  Mae'r person yn rhiant i blentyn y mae gorchymyn wedi'i wneud ar unrhyw bryd ynglyn ag ef o dan —

(a)adran 31(1)(a) o'r Ddeddf (gorchymyn gofal);

(b)adran 31(1)(b) o'r Ddeddf (gorchymyn goruchwylio);

(c)adran 44(1) o'r Ddeddf (gorchymyn amddiffyn brys);

(ch)erthygl 50(1)(a) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (gorchymyn gofal); neu

(d)adran 31 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald).

22.  Mae un o'r gorchmynion canlynol wedi'i wneud ar unrhyw bryd ynglyn â phlentyn er mwyn symud y plentyn o ofal y person neu er mwyn atal y plentyn rhag byw gyda'r person —

(a)gorchymyn o dan adran 31(1)(a) o'r Ddeddf;

(b)unrhyw orchymyn a fuasai wedi'i ystyried yn orchymyn gofal yn rhinwedd paragraff 15 o Atodlen 14 i'r Ddeddf (darpariaethau trosiannol ar gyfer plant mewn gofal gorfodol) petai wedi bod mewn grym yn union cyn y diwrnod y daeth Rhan IV o'r Ddeddf i rym(29);

(c)gorchymyn goruchwylio a osododd ofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 6 i Ddeddf Pwerau Llysoedd Trosedd (Dedfrydu) 2000(30) neu adran 12AA o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969(31) (gofyniad i fyw mewn llety awdurdod lleol);

(ch)gorchymyn o dan erthygl 50(1)(a) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995;

(d)gorchymyn person ffit, gorchymyn hawliau rhiant neu orchymyn ysgol hyfforddi o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(32));

(dd)gorchymyn amddiffyn plant o dan adran 57 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995;

(e)gorchymyn gwahardd o dan adran 76 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995; neu

(f)gorchymyn goruchwylio sy'n gosod gofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (gofyniad i fyw mewn llety sy'n cael ei ddarparu gan yr Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol).

23.  Mae gofyniad goruchwylio wedi'i osod ar unrhyw bryd ynglyn â phlentyn er mwyn symud y plentyn hwnnw o ofal y person, o dan —

(a)adran 44 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(33); neu

(b)adran 70 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

24.  Mae hawliau a phwerau'r person perthnasol mewn perthynas â phlentyn wedi'u breinio ar unrhyw bryd mewn awdurdod lleol yn yr Alban —

(a)o dan adran 16 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(34)); neu

(b)yn unol â gorchymyn cyfrifoldebau rhiant o dan adran 86 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

25.  O ran y person—

(a)mae ei gofrestriad ar gyfer cartref plant wedi'i wrthod o dan adran 13 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;

(b)mae ei gofrestriad ar gyfer cartref plant wedi'i ganslo o dan adran 14 neu 20(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000; neu

(c)mae wedi bod yn ymwneud â rheoli cartref plant, neu yr oedd ganddo unrhyw fuddiant ariannol ynddo, ac y mae cofrestriad unrhyw berson wedi'i ganslo ar gyfer y cartref hwnnw o dan adran 14 neu 20(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000.

26.  Mae cofrestriad wedi'i wrthod i'r person ar unrhyw bryd mewn perthynas â chartref gwirfoddol neu gartref plant, neu mae'r person hwnnw wedi rhedeg cartref gwirfoddol neu gartref plant neu yr oedd fel arall yn ymwneud â'i reoli, neu yr oedd ganddo unrhyw fuddiant ariannol ynddo, ac mae cofrestriad y cartref hwnnw wedi'i ganslo o dan y canlynol, yn ôl y digwydd—

(a)paragraff 1 o Atodlen 5 i'r Ddeddf(35);

(b)paragraff 1 neu 4 o Atodlen 6 i'r Ddeddf;

(c)adran 127 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(36); neu

(ch)erthygl 80, 82, 96 neu 98 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.

27.  O ran y person —

(a)mae gwaharddiad wedi'i osod arno ar unrhyw bryd o dan—

(i)adran 69 o'r Ddeddf, adran 10 o Ddeddf Plant Maeth 1980(37) neu adran 4 o Ddeddf Plant 1958(38)) (pwer i wahardd maethu'n breifat);

(ii)erthygl 110 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (pwer i wahardd maethu'n breifat);

(iii)adran 10 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (pwer i wahardd cadw plant maeth)(39); neu

(iv)adran 59 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (pŵer i wahardd maethu'n breifat neu osod cyfyngiadau ar hynny); neu)

(b)mae wedi cael hysbysiad ysgrifenedig gan Fwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan adran 1(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (gwrthod cydsynio bod gofal a chynhaliaeth ar gyfer y plentyn yn cael eu rhoi gan berson).

28.  Mae cofrestriad wedi'i wrthod i'r person ar unrhyw bryd ar gyfer darparu meithrinfeydd neu ofal dydd neu ar gyfer gwaith gwarchod plant neu mae wedi'i ddatgymhwyso rhag cofrestru neu mae unrhyw gofrestriad o'r fath a oedd gan y person hwnnw wedi'i ganslo o dan, yn ôl fel y digwydd —

(a)adran 1 neu 5 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 1948(40);

(b)Rhan X o'r Ddeddf(42);

(c)Rhan XA o'r Ddeddf;

(ch)(Rhan XI o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995;

(d)adran 11(5) neu 15 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968;

(dd)Deddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001(41); neu

(e)adran 65 neu adran 66 neu adran 69 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald), neu Atodlen 7 iddi.

29.  Mae cofrestriad wedi'i wrthod i'r person ar unrhyw bryd neu mae ei gofrestriad wedi'i ganslo o dan adran 62 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 (cofrestru sefydliadau preswyl a sefydliadau eraill).

30.  Mae cofrestriad yn ddarparydd asiantaeth gofal plant wedi'i wrthod i'r person ar unrhyw bryd o dan adran 7 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 neu mae ei gofrestriad wedi'i ganslo o dan adran 12 o'r Ddeddf honno.

31.  Mae'r person wedi'i gynnwys ar unrhyw bryd mewn rhestr o bersonau sy'n anaddas i weithio gyda phlant o dan adran 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant ac Oedolion Hawdd eu Niweidio (Gogledd Iwerddon) 2003 neu y mae wedi'i ddatgymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan Ran 2 o'r Gorchymyn hwnnw.

RHAN IIIRHESTRI PERTHNASOL

Rhestr y Ddeddf Amddiffyn Plant

32.  Person sydd wedi'i gynnwys yn y rhestr o bersonau a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (rhestr o'r rhai y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn barnu eu bod yn anaddas i weithio gyda phlant)(43).

Rhestr y Ddeddf Diwygio Addysg

33.  Person sydd wedi'i gynnwys ar y seiliau a grybwyllir yn is-adran (6ZA)(c) o adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(44), yn y rhestr a gedwir at ddibenion rheoliadau(45) a wnaed o dan is-adran (6) o'r adran honno (rhestr o'r rhai sydd wedi'u gwahardd neu wedi'u cyfyngu rhag addysgu).

Rhestr Deddf Addysg 1996

34.  Mae person sydd wedi'i gynnwys, ar seiliau anaddasrwydd i weithio gyda phlant, mewn unrhyw restr a gedwir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o bersonau sy'n ddarostyngedig i ddatgymhwysiad a osodir o dan adran 470 neu 471 o Ddeddf Addysg 1996(46)) (datgymhwyso personau rhag bod yn berchenogion ar ysgolion annibynnol neu rhag bod yn athrawon neu gyflogeion mewn unrhyw ysgol).

(2)

1980 p.6. Cafodd y ddarpariaeth hon ei diddymu gan Ddeddf Plant 1989.

(3)

1958 p.65. Cafodd y ddarpariaeth hon ei diddymu gan Ddeddf Plant Maeth 1980.

(4)

Mae'r darpariaethau hyn wedi'u diddymu gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 o 1 Ebrill 2002 ymlaen (O.S. 2001/3852).

(6)

1982 p.45. Mewnosodwyd adran 52A gan adran 161 o Ddeddf Cyfiawder Troseddol 1988 (p.33)

(9)

1968 p.49. Diddymwyd adrannau 17(8) a 71 o Ddeddf 1968 gan Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

(10)

1984 p.37.

(15)

1968 p.

(16)

Deddf Jersey 16/1969.

(17)

Deddf Jersey 51/2002.

(18)

Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyf IV, t.288.

(19)

Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyf V, t.74.

(20)

Gorchymynion yn y Cyfrin Gyngor Cyf. VIII, t.273.

(21)

Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyf V, t. 342, fel y'u diwygiwyd gan y Loi Supplementaire à la Loi ayant rapport à la Protection des Enfants et des Jeunes Personnes 1937, Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyf XI, t.116, a Deddf Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc (Diwygio) 1955, Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyf XVI, t.277.

(22)

Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor Rhif 1 o 1967.

(23)

Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor Cyf. XXIX fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn yn y Cyngor 1 1991, sef Gorchymyn Gweinyddu Cyfiawnder (Beilïaeth Guernsey) (Deddf) 1985.

(24)

2001 p.20 (Ynys Manaw).

(25)

1979 p.2.

(26)

1876 p.36.

(27)

1997 p.51.

(29)

Daeth Rhan IV o'r Ddeddf i rym ar 14 Hydref 1991.

(30)

2000 p.6.

(31)

Diddymwyd adran 12AA gan Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddau (Dedfrydu) 2000.

(32)

1968 p.34 (G.I.). Diddymwyd y darpariaethau sy'n ymwneud â'r gorchmynion hyn gan Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 a Gorchymyn Cyfiawnder Troseddol (Plant) (Gogledd Iwerddon) 1998.

(33)

Diddymwyd adran 44 gan Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

(34)

Diddymwyd adran 16 gan Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

(35)

Mae'r ddarpariaeth hon, a'r rhai a grybwyllir yn yr is-baragraff canlynol, wedi'u diddymu gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 a hynny'n weithredol o 1 Ebrill 2002 (O.S. 2001/3852).

(36)

Cafodd yr adran hon, a phob adran arall o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 y cyfeirir ati isod yn yr Atodlen hon, eu diddymu gan Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.

(37)

1980 p.86. Cafodd y Ddeddf Plant Maeth ei diddymu gan Ddeddf Plant 1989.

(38)

1958 p.65. Cafodd adran 4 ei diddymu gan Ddeddf Plant Maeth 1980.

(39)

1984 p.56.

(40)

1948 p.53. Cafodd y Ddeddf hon ei diddymu gan Ddeddf Plant 1989.

(41)

Diddymwyd Rhan X o Ddeddf Plant 1989 gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 a rhoddwyd Rhan XA yn ei lle.

(43)

1999 p.14.

(44)

1988 p.40; mewnosodwyd is-adran (6ZA) gan adran 5 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 a diwygiwyd is-adran (6) gan yr adran honno a chan adran 290(3) o Ddeddf Addysg 1993 (p.35);

(45)

Rheoliadau Addysg (Cyfyngu Cyflogaeth) 2000 (O.S. 2000/2419) yw'r rheoliadau cyfredol.

(46)

1996 p.56.