Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2004

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 254 (Cy.29)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

4 Chwefror 2004

Yn dod i rym

9 Chwefror 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(2) a (4), a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

(1)

1996 p.53. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Gweler yr eitem yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.