- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod casglu gwastraff” (“waste collection authority”) yw Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol sy'n gweithredu'n unol â swyddogaethau a roddwyd iddo fel awdurdod casglu gwastraff;
ystyr “awdurdod gwaredu gwastraff” (“waste disposal authority”) yw Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol sy'n gweithredu'n unol â swyddogaethau a roddwyd iddo fel awdurdod gwaredu gwastraff;
ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw —
yr awdurdod monitro, a
y Cynulliad;
ystyr “Catalog Gwastraff Ewropeaidd” (“European Waste Catalogue”) yw'r rhestr o wastraff a sefydlwyd yn unol â Phenderfyniad y Cyngor 2000/532/EC(1);
mae i “cyfathrebiad electronig” yr un ystyr ag “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(2);
ystyr “cyfleuster gwastraff” (“waste facility”) yw cyfleuster ar gyfer gwaredu neu adfer gwastraff ac eithrio safle tirlenwi; at ddibenion y diffiniad hwn, mae i “gwaredu” ac “adfer” yr un ystyr â “disposal” a “recovery” yn Erthygl 1(e) ac (f) o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff(3);
ystyr “cyfnod cysoni” (“reconciliation period”) yw'r cyfnod o dri mis ar ôl diwedd pob blwyddyn gynllun;
ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003;
ystyr “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”) yw gwastraff trefol sy'n dod i feddiant neu o dan reolaeth—
awdurdod casglu gwastraff, neu
awdurdod gwaredu gwastraff
p'un a yw'r gwastraff ym meddiant neu o dan reolaeth yr awdurdod hwnnw o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(4)) neu yn rhinwedd y Ddeddf honno neu beidio.
(2) Yn y Rheoliadau hyn —
(a)mae cyfeiriadau at faint gwastraff yn gyfeiriadau at faint gwastraff yn ôl tunelledd; a
(b)mae cyfeiriadau at wastraff yn cael ei anfon gan awdurdod gwaredu gwastraff i safle tirlenwi neu gyfleuster gwastraff yn gyfeiriadau at wastraff yn cael ei anfon i safle tirlenwi neu gyfleuster o'r fath yn unol â threfniadau sy'n cael eu gwneud gan yr awdurdod.
OJ Rhif L 226, 6.9.2000, t.3, fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniadau'r Comisiwn 2001/118/EC (OJ Rhif L 47, 16.2.2001, t.1) a 2001/119/EC (OJ Rhif L 47, 16.2.2001, t.32) a Phenderfyniad y Cyngor 2001/573/EC (OJ Rhif L 203, 28.7.2001, t.18).
OJ Rhif L 194, 25.7.1975, p.39; fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/156/EEC (O.J. Rhif L 78, 26.3.1991, t.32) a Phenderfyniad y Comisiwn 96/350/EC (O.J. Rhif L 135, 6.6.1996, t.32).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: