Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Rhagor o Adnoddau

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 1490 (Cy.155)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

8 Mehefin 2004

Yn dod i rym

25 Mehefin 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy'n gweithredu drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 10, 11, 12, 13, 15, 16, 26 a 36 o Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003(1), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  O ran y Rheoliadau hyn:

(a)eu henw yw Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004;

(b)deuant i rym ar 25 Mehefin 2004;

(c)maent yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod casglu gwastraff” (“waste collection authority”) yw Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol sy'n gweithredu'n unol â swyddogaethau a roddwyd iddo fel awdurdod casglu gwastraff;

ystyr “awdurdod gwaredu gwastraff” (“waste disposal authority”) yw Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol sy'n gweithredu'n unol â swyddogaethau a roddwyd iddo fel awdurdod gwaredu gwastraff;

ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw —

(a)

yr awdurdod monitro, a

(b)

y Cynulliad;

ystyr “Catalog Gwastraff Ewropeaidd” (“European Waste Catalogue”) yw'r rhestr o wastraff a sefydlwyd yn unol â Phenderfyniad y Cyngor 2000/532/EC(2);

mae i “cyfathrebiad electronig” yr un ystyr ag “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(3);

ystyr “cyfleuster gwastraff” (“waste facility”) yw cyfleuster ar gyfer gwaredu neu adfer gwastraff ac eithrio safle tirlenwi; at ddibenion y diffiniad hwn, mae i “gwaredu” ac “adfer” yr un ystyr â “disposal” a “recovery” yn Erthygl 1(e) ac (f) o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff(4);

ystyr “cyfnod cysoni” (“reconciliation period”) yw'r cyfnod o dri mis ar ôl diwedd pob blwyddyn gynllun;

ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003;

ystyr “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”) yw gwastraff trefol sy'n dod i feddiant neu o dan reolaeth—

(i)

awdurdod casglu gwastraff, neu

(ii)

awdurdod gwaredu gwastraff

p'un a yw'r gwastraff ym meddiant neu o dan reolaeth yr awdurdod hwnnw o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(5)) neu yn rhinwedd y Ddeddf honno neu beidio.

(2Yn y Rheoliadau hyn —

(a)mae cyfeiriadau at faint gwastraff yn gyfeiriadau at faint gwastraff yn ôl tunelledd; a

(b)mae cyfeiriadau at wastraff yn cael ei anfon gan awdurdod gwaredu gwastraff i safle tirlenwi neu gyfleuster gwastraff yn gyfeiriadau at wastraff yn cael ei anfon i safle tirlenwi neu gyfleuster o'r fath yn unol â threfniadau sy'n cael eu gwneud gan yr awdurdod.

Hysbysiadau, rhybuddion a chyflwyno ffurflenni

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yw'n ofynnol, o dan y Rheoliadau hyn, i berson —

(a)cyflwyno ffurflen, hysbysiad neu ddychweliad i berson arall, neu

(b)hysbysu person arall o unrhyw fater,

rhaid i'r ffurflen, yr hysbysiad neu'r dychweliad fod yn ysgrifenedig.

(2Os—

(a)y mae gan y person arall hwnnw gyfeiriad at ddibenion cyfathrebu electronig, caniateir defnyddio'r dull cyfathrebu hwnnw i gyflwyno'r ffurflen, yr hysbysiad neu'r dychweliad, neu

(b)y mae rheoliad 4(3)(b) yn gymwys, caniateir llenwi'r ffurflen a'i chyflwyno i'r awdurdod ar y wefan.

Cofrestrau a ffurflenni electronig

4.—(1Caiff unrhyw gofrestr a sefydlir neu a gedwir o dan y Rheoliadau hyn fod ar ffurf electronig.

(2Pan fydd unrhyw gofrestr sy'n cael ei gadw gan awdurdod perthnasol ar ffurf electronig, caiff yr awdurdod hwnnw drefnu bod y gofrestr ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd ar wefan sy'n cael ei chynnal gan yr awdurdod hwnnw i'r perwyl hwnnw.

(3Caniateir i unrhyw ffurflen a ddarperir gan yr awdurdod monitro at ddibenion y Rheoliadau hyn gael ei darparu—

(a)ar ffurf electronig, a

(b)i'w llenwi a'i chyflwyno i'r awdurdod ar wefan a gynhelir gan yr awdurdod i'r perwyl hwnnw..

RHAN 2Monitro

Yr awdurdod monitro

5.  Yr awdurdod monitro dros Gymru yw Asiantaeth yr Amgylchedd.

Rhwymedigaeth ar awdurdodau gwaredu gwastraff i gadw cofnodion ac anfon dychweliadau

6.—(1Rhaid i awdurdod gwaredu gwastraff gadw cofnodion sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol ar gyfer pob blwyddyn gynllun—

(a)faint o wastraff trefol a gasglwyd;

(b)faint o wastraff trefol a anfonwyd i safleoedd tirlenwi gan yr awdurdod; ac

(c)faint o wastraff trefol a anfonwyd i gyfleusterau gwastraff eraill gan yr awdurdod.

(2O ran y gwastraff trefol a grybwyllwyd yn is-baragraffau (1)(b) ac (c), rhaid i'r cofnod gynnwys manylion—

(a)y cyfanswm a anfonwyd i bob safle tirlenwi neu gyfleuster gwastraff, a

(b)y disgrifiad o'r gwastraff a'r cod priodol ar gyfer y gwastraff, yn y Catalog Gwastraff Ewropeaidd;

(3Rhaid dal gafael ar y cofnodion o dan baragraff (1) am gyfnod o dair blynedd gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad y daw'r cyfnod cysoni ar gyfer y flwyddyn gynllun i ben.

(4Rhaid i awdurdod gwaredu gwastraff roi i'r awdurdod monitro ateb sy'n cynnwys yr wybodaeth ym mharagraff (1) ar gyfer pob cyfnod o 3 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi a 31 Rhagfyr o fewn mis i ddiwedd y cyfnod hwnnw.

(5Caiff yr awdurdod monitro, neu berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod monitro, ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad i awdurdod gwaredu gwastraff—

(a)dangos ar gyfer archwiliad neu ar gyfer eu symud i'w harchwilio yn rhywle arall, unrhyw un o'r cofnodion y mae'n ofynnol iddo ei gadw o dan baragraff (1);

(b)darparu gwybodaeth i'r awdurdod monitro am faterion sy'n gysylltiedig ag anfon gwastraff trefol pydradwy i safleoedd tirlenwi, neu dystiolaeth am y materion hynny;

a'i gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny ar unrhyw ffurf, yn unrhyw fan rhesymol ac o fewn unrhyw amser rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.

(6Caiff yr awdurdod monitro, neu berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod monitro, wneud copïau o unrhyw gofnodion a ddangoswyd neu a ddarparwyd o dan baragraff (5).

Rhwymedigaeth ar weithredwyr safleoedd tirlenwi i gadw cofnodion ac anfon dychweliadau

7.—(1Rhaid i weithredydd safle tirlenwi gadw cofnodion sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol ar gyfer pob blwyddyn gynllun—

(a)maint pob llwyth gwastraff trefol a dderbyniwyd ar y safle tirlenwi;

(b)y disgrifiad o'r gwastraff, a'r cod priodol ar gyfer y gwastraff, yn y Catalog Gwastraff Ewropeaidd;

(c)y Sir neu'r Fwrdeistref Sirol y tarddodd y gwastraff trefol ohoni; ac

(ch)unrhyw driniaeth a roddwyd i'r gwastraff cyn ei iddo gael ei gladdu ar safle tirlenwi.

(2Rhaid dal gafael ar y cofnodion o dan baragraff (1) am gyfnod o dair blynedd gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y daeth y cyfnod cysoni ar gyfer y flwyddyn gynllun i ben.

(3Rhaid i weithredydd safle tirlenwi roi i'r awdurdod monitro ateb sy'n cynnwys yr wybodaeth ym mharagraff (1) ar gyfer pob cyfnod o 3 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi a 31 Rhagfyr o fewn un mis o ddiwedd y cyfnod hwnnw.

(4Caiff yr awdurdod monitro, neu berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod monitro, ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, i weithredydd safle tirlenwi ddangos ar gyfer archwiliad, neu ar gyfer eu symud i'w harchwilio yn rhywle arall, unrhyw gofnodion y mae'n ofynnol i'r gweithredydd eu cadw o dan baragraff (1) ar unrhyw ffurf, yn unrhyw fan rhesymol ac o fewn yr amser rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.

(5Caiff yr awdurdod monitro, neu berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod monitro, wneud copïau o unrhyw gofnodion a ddangoswyd o dan baragraff (4).

(6Caiff person a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod monitro fynd ar unrhyw adeg resymol ac, os oes angen, drwy rym rhesymol i mewn i fangre nad yw'n fangre sy'n cael ei defnyddio fel annedd ac sydd wedi'i meddiannu gan berson sy'n ymwneud â gweithredu safle tirlenwi er mwyn—

(a)chwilio am gofnodion ynglŷn â'r ffordd y mae safle tirlenwi yn cael ei weithredu;

(b)archwilio cofnodion ynglŷn â'r ffordd y mae safle tirlenwi yn cael ei weithredu neu eu symud i'w harchwilio yn rhywle arall;

(c)copïo cofnodion ynglŷn â'r ffordd y mae safle tirlenwi yn cael ei weithredu.

(7Caiff person sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre o dan baragraff (6), fynd â'r canlynol gydag ef—

(a)unrhyw berson arall a awdurdodwyd yn briodol gan yr awdurdod monitro;

(b)os oes gan y person a awdurdodwyd achos rhesymol dros rag-weld unrhyw rwystr difrifol a fyddai'n ei atal rhag cyflawni ei ddyletswydd, cwnstabl;

(c)unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau y mae eu hangen at unrhyw ddiben y mae'r pŵer mynediad yn cael ei arfer i'w gyflawni.

(8Mae pŵer yr awdurdod monitro, neu berson a awdurdodwyd gan yr awdurdod monitro, o dan baragraffau (4) i (6) yn cynnwys pŵer i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi iddynt unrhyw gyfleusterau a chymorth rhesymol o fewn rheolaeth y person sy'n angenrheidiol i alluogi'r awdurdod monitro a'r person a awdurdodwyd i arfer eu pwerau.

(9Yn y rheoliad hwn ystyr “gweithredydd safle tirlenwi” yw'r person sydd â rheolaeth dros y safle tirlenwi.

(10Yn y rheoliad hwn, mae i “triniaeth” yr un ystyr â “treatment” yn Erthygl 2(h) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar gladdu gwastraff mewn safle tirlenwi(6).

Penderfynu faint o wastraff trefol pydradwy sydd mewn swm o wastraff

8.  At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir mai 61 y cant o'r gwastraff trefol a gasglwyd yw maint y gwastraff pydradwy mewn swm o wastraff trefol a gasglwyd.

Cysoni lwfansau tirlenwi

9.  Heb fod yn hwy na deufis ar ôl diwedd y cyfnod cysoni, rhaid i'r awdurdod monitro benderfynu mewn perthynas â phob awdurdod gwaredu gwastraff faint o wastraff trefol pydradwy a anfonwyd i safleoedd tirlenwi.

RHAN 3Cofrestrau

Cofrestr lwfansau tirlenwi

10.  Rhaid i'r awdurdod monitro sefydlu a chadw cofrestr lwfansau tirlenwi sydd, mewn perthynas â phob awdurdod gwaredu gwastraff ar gyfer pob blwyddyn gynllun, yn cynnwys—

(a)y lwfans a ddyrannwyd o dan adran 4 o'r Ddeddf;

(b)unrhyw newid yn y lwfans y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (a) o dan adran 5 o'r Ddeddf;

(c)faint o wastraff trefol pydradwy a anfonwyd i safleoedd gwaredu gwastraff gan yr awdurdod gwaredu gwastraff hwnnw; ac

(ch)balans y canlynol:

(i)y lwfans a gofrestrwyd o dan baragraff (a), fel y'i addaswyd gan unrhyw addasiad a gofrestrwyd o dan baragraff (b), (“y lwfans cyfan”); a

(ii)maint y gwastraff trefol pydradwy a anfonwyd i safleoedd tirlenwi gan yr awdurdod gwaredu gwastraff hwnnw fel y'i cofrestrwyd o dan baragraff (c) uchod.

Cofrestr gosbau

11.  Rhaid i'r Cynulliad sefydlu a chadw cofrestr a elwir “y gofrestr gosbau” y mae'n rhaid iddi gynnwys, mewn perthynas â phob awdurdod gwaredu gwastraff, yr wybodaeth ganlynol—

(a)unrhyw adeg lle'r oedd yr awdurdod hwnnw yn agored i gosb o dan Ran 1, Pennod 1 o'r Ddeddf;

(b)swm y gosb;

(c)y dyddiad y mae'r gosb i fod i gael ei thalu;

(ch)swm unrhyw log y parwyd ei godi o dan reoliad 15;

(d)manylion unrhyw benderfyniad—

(i) i estyn yr amser ar gyfer talu'r cyfan neu ran o'r gosb neu unrhyw log arni o dan adran 26(1)(c)(i) o'r Ddeddf;

(ii)i ryddhau'r awdurdod gwaredu gwastraff, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, rhag bod yn agored i'r gosb gyfan neu ran ohoni neu unrhyw log arni o dan adran 26(1)(c)(ii) o'r Ddeddf; ac

(dd)y dyddiad y cafodd unrhyw daliad o ran cosb neu log ar gosb ei wneud i'r Cynulliad.

Argaeledd cofrestrau

12.  O ran unrhyw gofrestr sy'n cael ei chadw o dan y Rhan hon, rhaid i awdurdod perthnasol—

(a)trefnu bod y gofrestr a gedwir ganddo o dan y Rhan hwn ar gael i'w harchwilio gan aelodau'r cyhoedd yn ei brif swyddfa yn rhad ac am ddim ar bob adeg resymol; a

(b)rhoi cyfleusterau i aelodau'r cyhoedd gael copïau o gofnodion yn y gofrestr honno drwy dalu ffi resymol.

RHAN 4Cosbau

Cosbau: mynd dros ben y lwfansau

13.  Swm y gosb y mae awdurdod gwaredu gwastraff yn agored i'w dalu o dan adran 9(2) o'r Ddeddf yw £200 fesul tunnell o wastraff trefol pydradwy a anfonwyd i safle tirlenwi dros ben lwfans cyfan yr awdurdod hwnnw ar gyfer y flwyddyn gynllun honno.

Cosbau: methu â chydymffurfio â gofynion i hysbysu

14.—(1Ac eithrio pan fydd paragraffau (2) a (4) yn gymwys, £1,000 yw swm y gosb y mae awdurdod gwaredu gwastraff yn agored i'w dalu o dan adran 12(3) o'r Ddeddf.

(2Pan fydd awdurdod gwaredu gwastraff —

(i)yn tanddatgan faint o wastraff trefol a gasglwyd neu faint o wastraff trefol a anfonwyd i safleoedd tirlenwi; neu

(ii)yn gorddatgan faint o wastraff trefol a ddargyfeiriwyd i gyfleusterau gwastraff eraill,

£200 fesul tunnell o'r gwall yw'r gosb y mae awdurdod gwaredu gwastraff yn agored i'w thalu o dan adran 12(3) o'r Ddeddf.

(3At ddibenion paragraff (2), “y gwall” yw faint y mae swm gwirioneddol y gwastraff trefol pydradwy a anfonwyd i safle tirlenwi gan yr awdurdod gwaredu gwastraff yn y flwyddyn gynllun yn fwy na swm y gwastraff trefol pydradwy a fyddai wedi'i anfon i safle tirlenwi am y flwyddyn honno petai'r ffigurau a ddatganwyd gan yr awdurdod wedi bod yn gywir.

(4Pan fydd awdurdod gwaredu gwastraff yn methu â chyflwyno unrhyw ddychweliad ynglŷn â blwyddyn gynllun yn unol â rheoliad 6(4), mae'r awdurdod hwnnw yn agored i gosb sy'n gyfartal â £400 am bob tunnell o'r lwfans cyfan a ddyrannwyd i'r awdurdod hwnnw ar gyfer y flwyddyn honno a'r ffigur hwnnw.

Cosbau: cyffredinol

15.—(1Pan fydd awdurdod gwaredu gwastraff yn agored i gosb, caiff y Cynulliad asesu'r swm sy'n ddyledus o ran cosb a hysbysu'r awdurdod gwaredu gwastraff o'r swm hwnnw.

(2Mae'r gosb yn ddyledus un mis ar ôl y dyddiad y cafodd yr awdurdod gwaredu gwastraff ei hysbysu gan y Cynulliad o swm y gosb o dan baragraff (1).

(3Pan fydd awdurdod gwaredu gwastraff yn agored i gosb o dan y Ddeddf ac nad yw'n talu'r gosb erbyn y dyddiad y mae'n ddyledus o dan baragraff (2), mae'r awdurdod gwaredu gwastraff yn agored i dalu llog ar y gosb am y cyfnod sydd—

(a)yn dechrau ar y dyddiad y mae'n ddyledus o dan baragraff (2); a

(b)yn dod i ben y diwrnod cyn y diwrnod y mae'r gosb a aseswyd o dan baragraff (1) yn cael ei thalu.

(4Mae llog o dan y rheoliad hwn yn daladwy yn ôl cyfradd o un pwynt canran uwchlaw LIBOR fesul dydd.

(5At ddibenion paragraff (4), ystyr “LIBOR” yw'r gyfradd sterling sy'n cael ei gynnig rhwng banciau Llundain am dri mis ac sydd mewn grym rhwng y dyddiad y mae'r gosb yn dod yn ddyledus a'r dyddiad y mae'r gosb yn cael ei thalu i'r Cynulliad.

(6Pan fydd cosb wedi'i hasesu a'i hysbysu i awdurdod gwaredu gwastraff o dan baragraff (1), gellir adennill swm y gosb ac unrhyw log y parwyd ei godi o dan baragraff (3) fel dyled sifil.

(7At ddibenion y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at gosbau yn cynnwys cyfeiriadau at log pan fydd llog yn daladwy.

RHAN 5Canllawiau

Canllawiau i awdurdodau gwaredu gwastraff

16.  Rhaid i awdurdod gwaredu gwastraff, wrth arfer swyddogaethau ynglŷn â gwastraff sy'n wastraff trefol pydradwy neu sy'n ei gynnwys, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd gan y Cynulliad at ddibenion y rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Mehefin 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Diben Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003(8) (“y Ddeddf”) yw sicrhau yn y DU ostyngiadau sylweddol ym maint y gwastraff trefol pydradwy sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi, yn unol â gofynion Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ddyddiedig 26 Ebrill 1999 ar dirlenwi gwastraff(9) (“y Gyfarwyddeb Dirlenwi”). Mae'r Ddeddf yn gosod y fframwaith ar gyfer creu cynllun lwfansau tirlenwi.

Mae adran 1 o'r Ddeddf yn rhoi'r Ysgrifennydd Gwladol o dan rwymedigaeth i bennu drwy reoliadau uchafswm y gwastraff trefol pydradwy y caniateir ei anfon i safleoedd tirlenwi o'r Deyrnas Unedig, Lloegr, Yr Alban, a Chymru Gogledd Iwerddon. Rhaid i'r uchafswm y caniateir ei awdurdodi ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan fod yn gyson â'r rhwymedigaethau o dan Erthygl 5 o'r Gyfarwyddeb Dirlenwi.

Mae adran 4 o'r Ddeddf yn rhoi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) o dan rwymedigaeth i ddyrannu lwfansau i awdurdodau gwaredu gwastraff yng Nghymru. Rhaid i gyfanswm y dyraniad lwfansau beidio â bod yn fwy na'r uchafswm a bennir mewn perthynas â Chymru o dan adran 1 o'r Ddeddf.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu at Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003, drwy ddarparu'n fanwl ar gyfer monitro a gorfodi'r lwfansau tirlenwi a ddyrennir i awdurdodau gwaredu gwastraff o dan y Ddeddf.

Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau am enwi, cychwyn a chymhwyso (rheoliad 1); dehongli (rheoliad 2); hysbysiadau, rhybuddion a chyflwyno ffurflenni (rheoliad 3); a chofrestrau a ffurflenni electronig (rheoliad 4).

Mae Rhan 2 yn ymwneud â monitro.

Mae Rheoliad 5 yn penodi Asiantaeth yr Amgylchedd (“yr Asiantaeth”) yn awdurdod monitro dros Gymru.

Mae Rheoliad 6 yn gosod rhwymedigaethau ar awdurdodau gwaredu gwastraff i gadw cofnodion manwl am gasglu gwastraff a faint o wastraff a anfonwyd i safleoedd tirlenwi; i anfon dychweliadau i'r Asiantaeth; a threfnu bod gwybodaeth arall ar gael i'r Asiantaeth pan fydd hysbysiad ysgrifenedig yn cael ei roi i'r awdurdodau.

Mae Rheoliad 7 yn gosod rhwymedigaethau ar weithredwyr safleoedd tirlenwi i gadw cofnodion manwl ynglŷn â gwastraff a dderbyniwyd ar safleoedd tirlenwi; i anfon dychweliadau i'r Asiantaeth; a threfnu bod gwybodaeth arall ar gael i'r Asiantaeth.

Mae Rheoliad 8 yn darparu, at ddibenion y Rheoliadau, y bernir bod maint gwastraff pydradwy mewn swm o wastraff trefol a gasglwyd yn 61 y cant.

Mae Rheoliad 9 yn gorfodi'r Asiantaeth i benderfynu faint o wastraff trefol pydradwy a anfonwyd i safleoedd tirlenwi gan bob awdurdod gwaredu gwastraff.

Mae Rhan 3 yn ymwneud â chofrestrau.

Mae Rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Asiantaeth sefydlu a chadw cofrestr lwfansau tirlenwi.

Mae Rheoliad 11 yn rhoi'r Cynulliad o dan rwymedigaeth i sefydlu a chadw cofrestr gosbau.

Mae Rheoliad 12 yn rhoi'r Asiantaeth a'r Cynulliad o dan rwymedigaeth i sicrhau bod y cofrestrau y maent yn gyfrifol amdanynt yn cael eu rhoi ar gael i'r cyhoedd.

Mae Rhan 4 yn ymwneud â chosbau.

Mae Rheoliad 13 yn darparu bod cosbau yn cael eu gosod ar awdurdodau gwaredu gwastraff am fynd dros ben y lwfansau a ddyrannwyd.

Mae Rheoliad 14 yn darparu bod cosbau yn cael eu gosod ar awdurdodau gwaredu gwastraff am fethu â chydymffurfio â'r gofynion ynghylch cyflwyno dychweliadau o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rheoliad 15 yn darparu'n gyffredinol ar gyfer cosbau.

Mae Rhan 5 yn ymwneud â chanllawiau.

Mae Rheoliad 16 yn gwneud darpariaeth ar gyfer canllawiau i awdurdodau gwaredu gwastraff.

(1)

2003 p. 33. Gweler adrannau 12(4) a 13(7) i gael y diffiniadau o “prescribed”.

(2)

OJ Rhif L 226, 6.9.2000, t.3, fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniadau'r Comisiwn 2001/118/EC (OJ Rhif L 47, 16.2.2001, t.1) a 2001/119/EC (OJ Rhif L 47, 16.2.2001, t.32) a Phenderfyniad y Cyngor 2001/573/EC (OJ Rhif L 203, 28.7.2001, t.18).

(4)

OJ Rhif L 194, 25.7.1975, p.39; fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/156/EEC (O.J. Rhif L 78, 26.3.1991, t.32) a Phenderfyniad y Comisiwn 96/350/EC (O.J. Rhif L 135, 6.6.1996, t.32).

(6)

OJ L 182, 16.7.1999, t.1.

(9)

OJ L 182, 16.7.1999, t.1.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill