xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Gorfodi

Pwerau mynediad a phwerau archwilio

8.—(1Caiff swyddog gorfodi—

(a)mynd i mewn i unrhyw fan archwilio ar y ffin neu ar unrhyw dir neu fangre arall (ac eithrio tir sy'n cael ei ddefnyddio fel anhedd-dy yn unig) a'u harchwilio ac archwilio unrhyw beth sydd ynddynt neu arnynt;

(b)agor unrhyw fwndel, pecyn, blwch pacio, neu eitem o fagiau personol, neu ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson, sy'n meddu ar unrhyw un ohonynt neu sy'n mynd gydag ef, ei agor;

(c)archwilio cynnwys unrhyw fwndel, pecyn, blwch pacio, neu eitem o fagiau personol a agorwyd yn unol ag is-baragraff (b);

(ch)archwilio unrhyw gynnyrch, gan gynnwys ei ddeunydd pacio, ei seliau, ei farciau, ei labeli a'i gyflwyniad, ac unrhyw beiriant neu gyfarpar sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw gynnyrch neu mewn cysylltiad ag ef; a

(d)cymryd samplau o unrhyw gynnyrch.

(2Pan fydd swyddog gorfodi yn cymryd sampl o gynnyrch ac eithrio yn ystod gwiriad ffisegol sy'n cael ei gyflawni yn unol â rheoliad 19(1), caiff y swyddog gorfodi gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch, yn ei gwneud yn ofynnol i'r llwyth neu ran ohono gael ei storio tan y bydd y swyddog gorfodi yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig pellach yn caniatáu ei symud, o dan oruchwyliaeth y swyddog gorfodi, yn unrhyw fan ac o dan unrhyw amodau y bydd y swyddog gorfodi yn cyfarwyddo y dylid ei symud yn yr hysbysiad, a rhaid i gostau storio o'r fath gael eu talu gan y person sy'n gyfrifol am y llwyth.

(3Caiff swyddog gorfodi sy'n mynd ar unrhyw dir neu fangre yn unol ag is-baragraff 1(a) gymryd gydag ef—

(a)personau eraill sy'n gweithredu o dan gyfarwyddiadau'r swyddog gorfodi;

(b)un neu ragor o gynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd; ac

(c)un neu ragor o gynrychiolwyr awdurdodau trydedd wlad, sydd wedi'u penodi ac sy'n gweithredu yn unol â'r darpariaethau yn un o'r penderfyniadau cyfwerthedd a restrir yn Atodlen 3.