xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1Cyflwyniad

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “amodau mewnforio” (“import conditions”) mewn perthynas â chynnyrch, yw'r amodau a osodwyd ar gyfer mewnforio'r cynnyrch hwnnw mewn unrhyw gyfarwyddeb, penderfyniad neu reoliad a restrir yn Atodlen 2, gan gynnwys —

(a)

amodau ynglŷn â gwlad darddiad neu sefydliad tarddiad y cynnyrch,

(b)

gofynion penodol a osodwyd ar gyfer mewnforio'r cynnyrch hwnnw i Aelod-wladwriaeth benodol neu ardal benodol o Aelod-wladwriaeth, ac

(c)

amodau a osodwyd ar gyfer mewnforio'r cynnyrch hwnnw at ddibenion penodol;

ystyr “archwilydd pysgod swyddogol” (“official fish inspector”) yw swyddog iechyd yr amgylchedd a benodwyd yn archwilydd pysgod swyddogol gan awdurdod lleol yn unol â rheoliad 6(2)(b);

ystyr “yr Asiantaeth (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

ystyr “awdurdod lleol”(“local authority”)—

(a)

pan fydd awdurod iechyd porthladd, yw'r awdurodd iechyd porthladd hwnnw;

(b)

pan nad oes unrhyw awdurdod iechyd porthladd, yw cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol;

mae “cludydd sydd â gofal am y tro” (“carrier who has charge for the time being”) dros gynnyrch, llwyth neu ran o lwyth yn cynnwys gyrrwr unrhyw gerbyd, peilot unrhyw awyren a meistr unrhyw long (ond nid gyrrwr unrhyw drên) sy'n cludo'r cynnyrch hwnnw, y llwyth hwnnw neu'r rhan honno o'r llwyth;

ystyr “y Cod Tollau” (“the Customs Code”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2913/92 sy'n sefydlu'r Cod Tollau Cymunedol(1);

ystyr “y Comisiynwyr” (“the Commissioners”) yw Comisiynwyr Tollau Tramor a Chartref;

ystyr “Cyfarwyddeb 92/118/EEC (“Directive 92/118/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC (sy'n gosod gofynion iechyd anifeiliaid a iechyd y cyhoedd sy'n llywodraethu masnach yn y Gymuned a mewnforion iddi o gynhyrchion nad ydynt yn ddarostyngedig i'r gofynion hyn a nodwyd mewn rheolau Cymunedol penodol y cyfeirir atynt yn Atodiad A(I) i Gyfarwyddeb 89/662/EEC ac, o ran pathogenau, i Gyfarwyddeb 90/425/EEC)(2);

ystyr “Cyfarwyddeb 97/78/EC” (“Directive 97/78/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu'r dull o drefnu gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n dod i mewn i'r Gymuned o drydydd gwledydd(3);

ystyr “cyflwyno” (“introduce”) yw dod â chynnyrch i mewn; ac mae person yn cyflwyno cynnyrch i diriogaeth neu ardal, os—

(a)

y mae'r person hwnnw yn dod ag ef i mewn i'r diriogaeth neu'r ardal honno fel ei berchennog;

(b)

y mae'r person hwnnw yn dod ag ef i mewn i'r diriogaeth neu'r ardal honno fel cludydd; neu

(c)

y mae cludydd yn dod ag ef i mewn i'r diriogaeth neu'r ardal honno yn unol â chyfarwyddiadau'r person hwnnw;

ond nid yw cynnyrch ar gyfrwng cludo sy'n gweithredu'n rhyngwladol a hwnnw'n gynnyrch sydd wedi'i fwriadu i griw neu deithwyr y cyfrwng cludo hwnnw ei fwyta neu ei yfed yn cael ei gyflwyno i diriogaeth neu ardal os nad yw'n cael ei ddadlwytho, neu os yw'n cael ei drosglwyddo'n uniongyrchol o un cyfrwng cludo sy'n gweithredu'n rhyngwladol i un arall yn yr un porthladd neu faes awyr ac o dan oruchwyliaeth, o fewn ystyr Erthygl 4(13) o'r Cod Tollau, gan y Comisiynwyr;

mae i “cylchrediad rhydd” yr un ystyr â “free circulation” yn Erthyglau 23(2) a 24 o'r Cytuniad a sefydlodd y Gymuned Ewropeaidd;

ystyr “cynhyrchion pysgodfeydd” (“fishery products”) yw pob anifail dŵ r môr a dŵ r croyw, p'un a yw'n fyw neu beidio, gan gynnwys —

(a)

anifeiliaid dyframaeth a chynhyrchion dyframaeth fel y diffinnir “aquaculture animals” ac “aquaculture products” yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/67/EEC ynglŷn ag amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu gwaith rhoi anifeiliaid a chynhyrchion dyframaeth ar y farchnad(4),

(b)

molysgiaid deufalf fel y diffinnir “bivalve molluscs” yn Erthygl 2(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/492/EEC sy'n gosod yr amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad folysgiaid deufalf byw(5),

(c)

echinodermau, tiwnigogion a gastropodau morol, ac

(ch)

cynhyrchion pysgodfeydd a chynhyrchion dyframaeth fel y diffinnir “fishery products” ac “aquaculture products” yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/493/EEC sy'n gosod yr amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi cynhyrchion pysgodfeydd ar y farchnad(6);

ond nid yw'n cynnwys mamaliaid dyfrol, ymlusgiaid a llyffantod, a rhannau ohonynt;

ystyr “cynnyrch” (“product”) yw—

(a)

unrhyw gynnrych sy'n tarddu o anifeiliaid ac a restrir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2002/349/EC (sy'n pennu'r rhestr o gynhyrchion sydd i'w harchwilio wrth fannau archwilio ar y ffin o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC)(7));

(b)

gwair; ac

(c)

gwellt,

ond nid yw'n cynnwys cynhyrchion bwyd cyfansawdd fel y'u pennir yn Erthygl 3 o Benderfyniad y Comisiwn 2002/349/EC;

ystyr “cynnyrch a drawslwythwyd” (“transhipped product”) yw cynnyrch Erthygl 9 sydd wedi'i drawslwytho neu wedi'i ddadlwytho yn y ffordd a ddisgrifir (mewn perthynas â llwythi) yn Erthygl 9(1) o Gyfarwyddeb 97/78/EC yn y man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyflwyno;

ystyr “cynnyrch a ddychwelwyd” (“returned product”) yw cynnyrch a allforiwyd yn wreiddiol o diriogaeth dollau'r Gymuned ac sydd wedi'i ddychwelyd yno am ei fod wedi'i wrthod gan drydedd wlad;

ystyr “cynnyrch Erthygl 9” (“Article 9 product”) yw cynnyrch o drydedd wlad sy'n cael ei gyflwyno gyntaf i'r tiriogaethau perthnasol wrth un man archwilio ar y ffin ond sydd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fewnforio drwy un arall, fel y'i disgrifir (mewn perthynas â llwythi) yn Erthygl 9(1) o Gyfarwyddeb 97/78/EC, p'un a yw'r cynnyrch wedi'i drawslwytho neu wedi'i ddadlwytho wrth y man archwilio cyntaf ar y ffin;

ystyr “cynnyrch nad yw'n cydymffurfio” (“non-conforming product”) yw cynnyrch nad yw'n cydymffurfio â'r amodau mewnforio;

ystyr “cynnyrch tramwy” (“transit product”) yw cynnyrch sy'n tarddu o drydedd wlad ac, yn ôl yr wybodaeth a anfonwyd ymlaen llaw ac y cyfeirir ati yn Erthygl 3(3) o Gyfarwyddeb 97/78/EC, a fydd yn destun tramwy;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “dogfen berthnasol” (“relevant document”) yw unrhyw ddogfen ofynnol ac unrhyw dystysgrif neu ddogfen filfeddygol neu fasnachol arall neu dystysgrif neu ddogfen arall sy'n ymwneud â chynnyrch, gan gynnwys maniffest unrhyw long fordwyol neu awyren;

ystyr “dogfen ofynnol” (“required document”) yw unrhyw dystysgrif filfeddygol wreiddiol, dogfen filfeddygol wreiddiol neu ddogfen wreiddiol arall sy'n ofynnol mewn perthynas â chynnyrch yn rhinwedd unrhyw gyfarwyddeb, penderfyniad neu reoliad a restrir yn Atodlen 2;

ystyr “gwair” (“hay”) yw unrhyw borfa, meillion, lwsérn neu ffawlys a sychwyd naill ai'n naturiol neu'n artiffisial, ac mae'n cynnwys unrhyw gynnyrch a gafwyd drwy sychu unrhyw borfa, meillion, lwsérn neu ffawlys felly;

ystyr “gweithredydd” (“operator”)—

(a)

mewn perthynas â man archwilio ar y ffin, yw'r person sy'n darparu mangre a chyfleusterau eraill ar gyfer cyflawni gwiriadau milfeddygol wrth y man archwilio hwnnw ar y ffin; a

(b)

mewn perthynas â sefydliad tarddiad Cymunedol, warws storio drosiannol neu sefydliad cyrchfan, yw'r person sy'n ei feddiannu at ddibenion ei fusnes;

ystyr “gwellt” (“straw”) yw unrhyw rawnfwyd gwyrdd sydd wedi'i sychu naill ai'n naturiol neu'n artiffisial ac mae'n cynnwys unrhyw gynnyrch (ac eithrio grawn) a geir drwy sychu unrhyw rawnfwyd gwyrdd;

ystyr “gwiriad adnabod” (“identity check”) yw gwiriad drwy archwiliad gweledol i sicrhau bod y tystysgrifau milfeddygol neu'r dogfennau milfeddygol neu ddogfennau eraill sy'n mynd gyda llwyth yn cyfateb i'r cynhyrchion sy'n ffurfio'r llwyth, a hwnnw'n wiriad sy'n cael ei gyflawni yn unol ag Erthygl 4(4)(a) o Gyfarwyddeb 97/78/EC ac Atodiad A i Benderfyniad 93/13/EEC;

ystyr “gwiriad dogfennol” (“documentary check”) yw'r archwiliad o'r tystysgrifau milfeddygol neu'r dogfennau milfeddygol neu ddogfennau eraill sy'n mynd gyda llwyth, ac sy'n cael ei gyflawni yn unol ag Erthygl 4(3) o Gyfarwyddeb 97/78/EC ac Atodiad A i Benderfyniad 93/13/EEC;

ystyr “gwiriad ffisegol” (“physical check”) yw gwiriad ar y cynnyrch ei hun (a all gynnwys gwiriadau o'r deunydd pacio a'r tymheredd a hefyd samplu a phrofi mewn labordy) sy'n cael ei gyflawni yn unol ag Erthygl 4(4)(b) o Gyfarwyddeb 97/78/EC ac Atodiad III iddi ac Atodiad C i Benderfyniad 93/13/EEC;

ystyr “gwiriad milfeddygol” (“veterinary check”) yw unrhyw wiriad y darperir ar ei gyfer yng Nghyfarwyddeb 97/78/EC gan gynnwys gwiriad dogfennol, gwiriad adnabod a gwiriad ffisegol;

ystyr “llwyth” (“consignment”) yw swm o gynhyrchion o'r un math a gwmpesir gan yr un dystysgrif filfeddygol neu ddogfen filfeddygol neu ddogfen arall y darparwyd ar ei chyfer drwy ddeddfwriaeth filfeddygol, a'r rheini'n gynhyrchion sy'n cael eu cludo â'r un cyfrwng cludo ac sy'n dod o'r un drydedd wlad neu ran o drydedd wlad;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw adeiladwaith, gosodiad, cynhwysydd neu gyfrwng cludo;

ystyr “man archwilio ar y ffin” (“border inspection post”) yw —

(a)

man archwilio ar y ffin sydd wedi'i gynnwys yn y rhestr a gynhwysir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2001/881/EC(8); neu

(b)

man archwilio ar y ffin yng Ngweriniaeth Gwlad yr Iâ neu Deyrnas Norwy sydd wedi'i gynnwys yn y rhestr a gynhwysir yn yr Atodiad i Benderfyniad Rhif 86/02/COL Awdurdod Gwyliadwriaeth Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA)(9);

ystyr “man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno” (“border inspection post of introduction”) yw man archwilio ar y ffin lle mae'r cynnyrch Erthygl 9 yn cael ei gyflwyno gyntaf i'r tiriogaethau perthnasol;

ystyr “man archwilio ar y ffin ar gyfer cyrchfan” (“border inspection post of destination”) yw man archwilio ar y ffin y mae cynnyrch Erthygl 9 wedi'i fwriadu i'w fewnforio drwyddo;

ystyr “mewnforio”, pan fydd yn cyfateb i'r gair “import” fel enw yn y fersiwn Saesneg o'r Rheoliadau hyn, yw rhyddhau i'w gylchredeg yn rhydd o fewn ystyr Erthygl 79 o'r Cod Tollau;

ystyr “milfeddyg swyddogol” (“official veterinary surgeon”) yw milfeddyg sydd wedi cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi arbennig y cyfeirir ati yn Erthygl 27 o Gyfarwyddeb 97/78/EC ac sy'n cael ei benodi gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 6(1)(a) neu gan awdurdod lleol yn unol â rheoliad 6(2)(a);

ystyr “Penderfyniad 93/13/EEC” (“Decision 93/13/EEC”) yw Penderfyniad 93/13/EEC y Comisiwn (sy'n gosod y gweithdrefnau ar gyfer gwiriadau milfeddygol wrth fannau archwilio Cymunedol ar y ffin ar gynhyrchion o drydydd gwledydd)(10);

ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas â chynnyrch, llwyth neu ran o lwyth, yw'r person y mae'r eiddo yn y cynnyrch, y llwyth neu'r rhan wedi'i freinio ynddo am y tro;

ystyr “person sy'n gyfrifol dros” (“person responsible for”) gynnyrch, llwyth, neu ran o lwyth —

(a)

tan fydd y cynnyrch, y llwyth neu'r rhan yn cyrraedd y man archwilio ar y ffin yng Nghymru am y tro cyntaf neu, yn achos cynnyrch Erthygl 9, neu lwyth neu ran o lwyth cynhyrchion Erthygl 9, tan i'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhan gyrraedd man archwilio ar y ffin ar gyfer cyrchfan yng Nghymru yw—

(i)

y person y cyfeirir ato yn Erthygl 38(1) o'r Cod Tollau sy'n dod â'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhan i mewn i diriogaeth dollau'r Gymuned;

(ii)

person y cyfeirir ato yn Erthygl 38(2) o'r Cod Tollau sy'n ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros gludo'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhan ar ôl iddo gael ei ddwyn neu ar ôl iddi gael ei dwyn i mewn i diriogaeth dollau'r Gymuned; a

(iii)

person y cyfeirir ato yn Erthygl 44(2)(b) o'r Cod Tollau, a hwnnw'n berson y gweithredodd y personau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraffau (a)(i) a (ii) yn ei enw;

(b)

o'r amser y mae'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhan yn cyrraedd man archwilio ar y ffin yng Nghymru am y tro cyntaf, neu, yn achos cynnyrch Erthygl 9, neu lwyth neu ran o lwyth cynhyrchion Erthygl 9, o'r amser y mae'n cyrraedd man archwilio ar gyfer cyrchfan yng Nghymru, nes iddo neu iddi adael y man archwilio cyntaf hwnnw ar y ffin, neu'r man archwilio hwnnw ar y ffin ar gyfer cyrchfan yw—

(i)

y person y cyfeirir ato yn Erthygl 44(2)(b) o'r Cod Tollau ac y gweithredodd y personau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraffau (a)(i) a (ii) yn ei enw; neu

(ii)

os yw'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhan yn cael ei storio dros dro, fel y cyfeirir at “temporary storage” yn Erthygl 50 o'r Cod Tollau, y person y cyfeirir ato yn Erthygl 51(2) o'r Cod Tollau sy'n ei ddal neu ei dal mewn man storio dros dro; neu

(iii)

os yw'r person y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (b)(i) neu (ii) wedi penodi cynyrchiolydd yn ei ymwneud â'r awdurdodau tollau, o fewn ystyr “customs authorities” yn Erthygl 5 o'r Cod Tollau, a bod cyfrifoldeb yn cael ei roi i'r cynyrchiolydd hwnnw neu fod y cynrychiolydd yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros sicrhau bod y cynnyrch, y llwyth neu'r rhan yn destun gwiriadau milfeddygol, y cynrychiolydd hwnnw; ac

(c)

ar ôl i'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhan adael y man archwilio cyntaf hwnnw ar y ffin, neu, yn achos cynnyrch Erthygl 9, neu lwyth neu ran o lwyth cynhyrchion Erthygl 9, ar ôl iddo neu iddi adael y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyrchfan yw—

(i)

y person a wnaeth ddatganiad tollau, o fewn ystyr “customs declaration” yn Erthygl 64 o'r Cod Tollau, sy'n ymdrin â'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhan; neu

(ii)

os nad oes unrhyw ddatganiad tollau o'r fath wedi'i wneud eto, y person sy'n alluog i'w wneud;

ystyr “person y mae'n ymddangos ei fod â gofal” (“person appearing to have charge”) dros gynnyrch, llwyth neu ran o lwyth yw unrhyw berson, gan gynnwys cludydd, y mae'n ymddangos bod y cynnyrch hwnnw, y llwyth hwnnw neu'r rhan honno o lwyth yn ei feddiant, o dan ei warchodaeth neu ei reolaeth;

ystyr “pwynt mynediad” (“point of entry”) yw unrhyw fan lle mae nwyddau yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth y dollfa o dan Erthyglau 37 a 38 o'r Cod Tollau, ac eithrio man archwilio ar y ffin;

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002” (“Regulation (EC) No. 1774/2002”) yw Rheoliad (EC) No. 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor (sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid nad ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl)(11);

ystyr “sefydliad cyrchfan” (“destination establishment”), mewn perthynas â chynnyrch, yw'r sefydliad a nodwyd yn y cofnod ynglŷn â Chyrchwlad (“Country of destination”) ar yr hysbysiad o gyflwyno neu roi'r cynnyrch a roddwyd yn unol â rheoliad 17;

ystyr “sefydliad tarddiad Cymunedol” (“Community establishment of origin”) yw'r fangre sydd wedi'i lleoli mewn Aelod-wladwriaeth lle daeth cynnyrch a ddychwelwyd i'r ffurf y cafodd ei allforio'n wreiddiol arni o'r tiriogaethau perthnasol;

ystyr “storfa longau” (“ships' store”) yw mangre gaeedig y cyfeirir ati yn Erthygl 13(1)(c), neu warws a gymeradwywyd yn arbennig ac y cyfeirir ati yn Erthygl 13(2)(a) o Gyfarwyddeb 97/78/EC;

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw person a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, awdurdod lleol neu'r Asiantaeth, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn, p'un a yw'r person hwnnw yn swyddog i'r Cynulliad Cenedlaethol neu i awdurdod lleol neu i'r Asiantaeth neu beidio;

ystyr “swyddog corfforaethol” (“corporate officer”) yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i gorff corfforaethol, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath;

ystyr “swyddog gorfodi” (“enforcement officer”) yw—

(a)

swyddog awdurdodedig,

(b)

archwilydd pysgod swyddogol, neu

(c)

milfeddyg swyddogol;

ystyr “swyddog tollau” (“customs officer”) yw swyddog fel y diffinnir “officer” yn adran 1(1) o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(12) (person a gomisiynwyd gan y Comisiynwyr);

ystyr “y swyddogaethau rheoliadol” (“the regulatory functions”) yw'r swyddogaethau sy'n cael eu neilltuo gan y Rheoliadau hyn i swyddogion awdurdodedig, milfeddygon swyddogol, archwilwyr pysgod swyddogol a chynorthwywyr sy'n cael eu penodi yn unol â rheoliad 6;

mae i “tiriogaeth dollau'r Gymuned” yr un ystyr â “the customs territory of the Community” yn Erthygl 3 o'r Cod Tollau;

ystyr “y tiriogaethau perthnasol” (“the relevant territories”) yw ardal sy'n ffurfio tiriogaethau'r Aelod-wladwriaethau, fel y'u rhestrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 97/78/EC, tiriogaeth Gweriniaeth Gwlad yr Iâ a thiriogaeth Teyrnas Norwy (ac eithrio Svalbard);

ystyr “tramwy” (“transit”) yw tramwy o un drydedd wlad i un arall, gan fynd drwy un neu ragor o Aelod-wladwriaethau, o dan y weithdrefn dramwy allanol y cyfeirir ati yn Erthyglau 91 i 97 o'r Cod Tollau;

ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad nad yw wedi'i chynnwys yn y tiriogaethau perthnasol;

ystyr “tystysgrif cliriad milfeddygol” (“certificate of veterinary clearance”) yw tystysgrif sy'n cael ei rhoi gan filfeddyg swyddogol neu archwilydd pysgod swyddogol ar y ffurf a welir fel Dalen 2 yn Atodlen 1;

mae i “warws rydd” yr un ystyr â “free warehouse” ac mae i “parth rhydd” yr un ystyr â “free zone” yn Nheitl IV, Pennod 3, Adran 1 o'r Cod Tollau;

ystyr “warws storio drosiannol” (“intermediate storage warehouse”) yw cyfleusterau storio oer a gymeradwywyd ar gyfer storio cynhyrchion yn drosiannol fel y cyfeirir atynt ym Mhennod 10 o Atodiad I i Gyfarwyddeb 92/118/EEC;

ystyr “warws dollfa” (“customs warehouse”) yw warws sy'n bodloni amodau Erthyglau 98 i 113 o'r Cod Tollau, a lle mae nwyddau yn cael eu storio yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn yr Erthyglau hynny ynglŷn â chadw mewn warysau tollfeydd.

(3Mae cynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno i Gymru o Weriniaeth Gwlad yr Iâ, ac eithrio cynhyrchion pysgodfeydd, i'w hystyried at ddibenion y Rheoliadau hyn fel rhai sy'n cael eu cyflwyno o drydedd wlad.

(4Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y cafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud.

(1)

OJ Rhif L302, 19.10.92, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 2700/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L311, 12.12.2000, t.17).

(2)

OJ Rhif L62, 15.3.93, t.49, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/721/EC (OJ Rhif Ll260, 11.10.2003, t.21).

(3)

OJ Rhif L24, 30.1.98, t.9.

(4)

OJ Rhif L46, 19.2.91, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.2003, t.1).

(5)

OJ Rhif L268, 24.9.91, t.15, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.2003, t.1).

(6)

OJ Rhif L121, 8.5.2002, t.6, o'i ddarllen ynghyd â Phenderfyniad y Comisiwn 2002/99/EC (OJ Rhif L353, 30.12.02, t.1).

(7)

OJ Rhif L268, 24.9.91, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.2003, t.1).

(8)

OJ Rhif L326, 11.12.01, t.44, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/506/EC (OJ Rhif L172, 10.7.03, t.16).

(9)

OJ Rhif L69, 13.3.2003, t.31.

(10)

OJ Rhif L9, 15.1.93, t.33, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/279/EC (OJ Rhif L101, 23.4.2003, t.14).

(11)

OJ Rhif L273, 10.10.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 808/2003 (OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.1), ac o'i ddarllen ynghyd â Rheoliadau'r Comisiwn (EC) Rhif 811/2003, 812/2003 ac 813/2003 (OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.14, t.19 a t.22), a Phenderfyniadau'r Comisiwn 2003/320/EC, 2003/321/EC, 2003/326/EC a 2003/327/EC (OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.24, t.30, t.42 a t.44).

(12)

1979 p.2.