xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6Cynhyrchion sydd wedi'u Bwriadu ar gyfer eu Mewnforio

Dal gafael ar ddogfennau wrth fannau archwilio ar y ffin

34.  Pan fydd gwiriad dogfennol wedi'i gyflawni wrth fan archwilio ar y ffin ar gynnyrch sydd wedi'i fwriadu (boed yn uniongyrchol neu yn y pen draw) ar gyfer ei fewnforio, rhaid i'r person a gyflwynodd y dogfennau gofynnol ynglŷn â'r cynnyrch hwnnw yn unol â rheoliad 18(1) ildio'r rheini i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio hwnnw ar y ffin.

Tystiolaeth am ardystio gwiriadau milfeddygol a thalu amdanynt

35.  Pan fydd tystysgrif cliriad milfeddygol wedi'i rhoi a bod honno'n ardystio bod llwyth yn ffit i'w fewnforio, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth roi tystiolaeth i'r Comisiynwyr sy'n eu boddhau—

(a)bod y dystysgrif wedi'i rhoi; a

(b)bod yr holl ffioedd sy'n daladwy yn unol â Rhan 10 am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth, gan gynnwys samplu, ac am unrhyw brawf neu ddadansoddiad a wnaed ar unrhyw samplau a gymerwyd, wedi'u talu, neu fod taliad amdanynt wedi'i sicrhau drwy flaendal neu warant sy'n boddhau'r person y mae'r ffioedd yn daladwy iddo yn unol â rheoliad 52(2).

Cynhyrchion nad ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer y Deyrnas Unedig

36.  Pan fydd—

(a)hysbysiad o gyflwyno cynnyrch wedi'i roi yn unol â rheoliad 17; a

(b)yr hysbysiad hwnnw yn pennu Aelod-wladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig yn gyrchwlad; ac

(c)tystysgrif cliriad milfeddygol wedi'i dyroddi ar gyfer y cynnyrch hwnnw, yn awdurdodi ei fewnforio—

(i)i mewn i'r Aelod-wladwriaeth honno neu ardal benodol ohoni yn unol â gofynion penodol, neu

(ii)at ddibenion penodol yn unol ag amodau,

a bod y gofynion neu'r amodau hynny wedi'u gosod ar gyfer cynhyrchion sy'n cael eu mewnforio i mewn i'r Aelod-wladwriaeth neu'r ardal benodol honno, neu ar gyfer cynhyrchion sy'n cael eu mewnforio at y dibenion penodol hynny, mewn unrhyw gyfarwyddeb, penderfyniad neu reoliad a restrir yn Atodlen 2,

ni chaiff neb, heb esgus rhesymol, atal na gohirio cludo'r cynnyrch hwnnw i'r Aelod-wladwriaeth honno.

Cynhyrchion sy'n cael eu cludo o dan oruchwyliaeth

37.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i gynhyrchion sydd wedi'u bwriadu ar gyfer eu mewnforio ac y mae'n ofynnol, o dan unrhyw gyfarwyddeb, penderfyniad neu reoliad a restrir yn Atodlen 2, iddynt gael eu cludo o dan oruchwyliaeth milfeddyg o'r man archwilio ar y ffin lle cawsant eu cyflwyno gyntaf i'r tiriogaethau perthnasol i'w sefydliad cyrchfan.

(2Ni chaiff neb symud cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o fan archwilio ar y ffin oni bai ei fod wedi'i gynnwys mewn cynhwysydd sy'n ddiogel rhag gollyngiadau neu gyfrwng cludo sydd wedi'i selio gan swyddog i'r Comisiynwyr neu gan y milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio hwnnw ar y ffin.

(3Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo ac unrhyw gludydd y mae o dan ei ofal am y tro sicrhau bod y cynnyrch yn cael ei gludo yn ddi-oed i'w sefydliad cyrchfan, a bod y dystysgrif cliriad milfeddygol a ddyroddwyd mewn perthynas â'r cynnyrch yn mynd gydag ef nes iddo gyrraedd ei sefydliad cyrchfan.

(4Pan fydd tystysgrif cliriad milfeddygol wedi awdurdodi mewnforio cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo at ddibenion penodol fel y'u disgrifiwyd yn rheoliad 36(c)(ii), rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch ac unrhyw gludydd sydd â gofal am y tro sicrhau ei fod yn aros o dan oruchwyliaeth y Comisiynwyr yn unol â'r weithdrefn T5 y darperir ar ei chyfer yn Erthyglau 471 i 495 o Reoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2454/93 sy'n gosod darpariaethau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2913/92 yn sefydlu'r Cod Tollau Cymunedol(1) nes iddo gyrraedd ei sefydliad cyrchfan.

(5Rhaid i weithredydd sefydliad cyrchfan neu warws storio drosiannol roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i'r milfeddyg, sy'n gyfrifol ar ran y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth am y sefydliad cyrchfan neu'r warws storio drosiannol, fod unrhyw gynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo wedi cyrraedd yno.

(6Rhaid i weithredydd sefydliad cyrchfan sicrhau bod cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cael y driniaeth yn y sefydliad cyrchfan a ragnodir ar ei gyfer gan y gyfarwyddeb berthnasol, y penderfyniad perthnasol neu'r rheoliad perthnasol a restrir yn Atodlen 2.

Trawslwytho cynhyrchion sydd wedi'u bwriadu ar gyfer eu mewnforio

38.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i gynhyrchion a drawslwythwyd pan fo'r man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno yng Nghymru.

(2Cyn gynted ag y bo cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cyrraedd y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch hysbysu'r milfeddyg swyddogol yno yn ysgrifenedig, neu ar ffurf gyfrifiadurol neu ffurf electronig arall, o union leoliad y cynnyrch, o'r amser yr amcangyfrifir y byddai'n cael ei drawslwytho neu ei ddadlwytho, ac o'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan.

(3Yn ôl yr hysbysiad a roddwyd yn unol â pharagraff (2), pan fydd cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo i'w drawslwytho—

(a)o un awyren i un arall, naill ai'n uniongyrchol neu ar ôl iddo gael ei ddadlwytho mewn man o dan reolaeth y dollfa wrth y man archwilio ar y ffin at gyfer cyflwyno am lai na deuddeg awr, neu

(b)o un long fordwyol i un arall, naill ai'n uniongyrchol neu ar ôl ei ddadlwytho mewn man fel yr un a enwyd uchod am lai na saith niwrnod,

rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo o dan reoliad 18 roi'r cynnyrch a'i ddogfennau gofynnol, neu sicrhau eu bod yn cael eu rhoi, i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno, os yw'r milfeddyg swyddogol o'r farn bod y cynnyrch yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol, neu gynorthwy-ydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni gwiriad dogfennol ar y dogfennau gofynnol.

(4Pan fwriedir dadlwytho cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o awyren am ddeuddeng awr neu fwy, rhaid i'r person sy'n gyrfifol am y cynnyrch sicrhau ei fod yn cael ei storio am gyfnod nad yw'n hwy na 48 awr o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol yn y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno mewn lle yno sydd o dan reolaeth y dollfa a'i fod wedyn yn cael ei ail-lwytho ar awyren i'w gludo ymlaen i'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan.

(5Pan fwriedir dadlwytho cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o long fordwyol am saith niwrnod neu fwy, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch sicrhau ei fod yn cael ei storio am gyfnod nad yw'n hwy nag ugain niwrnod o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol yn y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno mewn lle yn o sydd o dan reolaeth y dollfa a'i fod wedyn yn cael ei ail-lwytho ar long fordwyol i'w gludo ymlaen i'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan.

(6Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol o dan reoliad 18 iddo roi cynnyrch y mae paragraff (4) neu baragraff (5) yn gymwys iddo a'i ddogfennau gofynnol i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol yno, neu gynorthwy-ydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni gwiriad dogfennol ar y dogfennau gofynnol ac, os yw'r milfeddyg swyddogol o'r farn bod y cynnyrch yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, gwiriad adnabod ar y cynnyrch hwnnw yn erbyn y dogfennau gofynnol a gwiriad ffisegol o'r cynnyrch.

(7Pan fydd cynnyrch y mae paragraff (4) yn gymwys iddo yn cael ei storio am fwy na 48 awr ar ôl ei ddadlwytho, neu os yw cynnyrch y mae paragraff (5) yn gymwys iddo yn cael ei storio am fwy nag ugain niwrnod ar ôl ei ddadlwytho, rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo o dan reoliad 18 roi'r cynnyrch a'i ddogfennau gofynnol i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno, ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol yno, neu gynorthwy-ydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni ym mhob achos wiriad adnabod o'r cynnyrch yn erbyn y dogfennau gofynnol a gwiriad ffisegol o'r cynnyrch.

(1)

OJ Rhif L253, 11.10.93, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1335/2003 (OJ Rhif L187, 26.7.2003, t.16).