xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Wedi'u gwneud
31 Mawrth 2004
Yn dod i rym
1 Ebrill 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a pharagraffau 1 a 7 o Atodlen 4 iddi(1), ac adran 143 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 9 iddi (2) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) ac Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i awdurdodau bilio yng Nghymru yn unig.
2. Diwygir Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (“Rheoliadau 1992”)(3) a Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989 (“Rheoliadau 1989”)(4) yn unol â rheoliad 3.
3. Yn Atodlen 5 o Reoliadau 1992 ac yn Atodlen 3 o Reoliadau 1989:
(a)yng ngholofn (2) o'r Tabl i baragraff 1—
(i)mewn perthynas â phennawd A (ymweliad pan na wneir atafaeliad), yn lle “£20.00” rhodder “£22.50”, ac yn lle “£15.00” rhodder “£16.50”;
(ii)mewn perthynas â phennawd E (meddiant o nwyddau), yn lle “£12.50” rhodder “£14.00” ac yn lle “£10.00” rhodder “£11.00”; a
(iii)mewn perthynas â phennawd H (taliad blaenorol etc.), yn lle “£20.00” rhodder “£22.50”; a
(b)yn is-baragraff (1) o baragraff 2 (symiau mewn perthynas ag atafaeliad)—
(i)ym mharagraff (a), yn lle “£20” rhodder “£22.50”; a
(ii)ym mharagraff (b), yn lle “20 per cent” rhodder “22.5 per cent”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Mawrth 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (“Rheoliadau 1992”) a Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989 (“Rheoliadau 1989”) mewn perthynas â Chymru.
Mae Rheoliad 3 yn diwygio lefelau ffioedd penodol y gellir eu codi mewn perthynas ag atafaelu. Mae'r cynnydd hwn yn unol â chwyddiant ers 1998 pan gynyddwyd y ffioedd ddiwethaf.
1992 p.14. Datganolwyd y pwerau hyn, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn Atodlen 1.
1988 p.41. Datganolwyd y pwerau hyn, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1.
O.S. 1992/613, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/773, 1998/295.
O.S. 1989/1058, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1990/145, 1992/474 a 1993/616.