xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 19(3)

ATODLEN 4COFNODION ERAILL MEWN PERTHYNAS Å CHANOLFANNAU PRESWYL I DEULUOEDD

1.  Copi o'r datganiad o ddiben.

2.  Cofnod ar ffurf cofrestr sy'n dangos —

(a)enw, cyfeiriad, dyddiad geni a statws priodasol pob aelod o bob teulu;

(b)y dyddiad y dechreuodd breswylio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd;

(c)y dyddiad y peidiodd â chael ei letya yno, a'r rheswm pam;

(ch)enw'r person neu'r corff sy'n gyfrifol am drefnu i'r teulu aros yn y ganolfan breswyl i deuluoedd;

(d)enw a chyfeiriad ymarferydd cyffredinol a gweithiwr cymdeithasol, os oes un, pob aelod o'r teulu;

(dd)yn achos plentyn, unrhyw orchymyn llys y mae'n dod odano;

(g)yn achos plentyn sy'n destun gorchymyn gofal, enw, cyfeiriad a Rhif ffôn yr awdurdod lleol dynodedig a swyddog yr awdurdod sy'n gyfrifol am achos y plentyn.

3.  Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd damweiniau neu os aiff un o'r trigolion ar goll.

4.  Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os ceir tân.

5.  Cofnod o bob ymarfer tân, dril neu brawf ar offer tân (gan gynnwys larymau tân) a gynhelir yn y ganolfan breswyl i deuluoedd a chofnod o unrhyw gamau a gymerir i gywiro diffygion yn yr offer tân.

6.  Cofnod dyddiol o'r digwyddiadau yn y ganolfan breswyl i deuluoedd y bydd yn rhaid iddynt gynnwys manylion unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol a fydd yn effeithio ar drigolion —

(a)unrhyw ddamwain;

(b)unrhyw ddigwyddiad sy'n niweidiol i iechyd neu les trigolyn, gan gynnwys brigiad clefyd heintus;

(c)unrhyw anaf neu salwch a gaiff unrhyw drigolyn;

(ch)unrhyw dân;

(d)unrhyw ladrad neu fyrgleriaeth.

7.  Cofnod sy'n dangos mewn perthynas â phob person a gyflogir yn y ganolfan breswyl i deuluoedd —

(a)enw llawn;

(b)rhyw;

(c)dyddiad geni;

(d)cyfeiriad cartref;

(e)cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n cynnwys plant a'i brofiad o waith o'r fath;

(f)y swydd y mae'r person hwnnw yn ei dal, a faint o oriau y bydd yn gweithio bob wythnos, ar gyfartaledd.

8.  Copi o unrhyw adroddiad a wneir o dan reoliad 25.

9.  Cofnod o bob cwyn a wneir gan y trigolion neu gan bersonau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd am sut mae'r ganolfan breswyl i deuluoedd yn gweithredu, a'r camau a gymerwyd gan y person cofrestredig mewn perthynas ag unrhyw gŵ yn o'r fath.

10.  Cofnod o'r taliadau a godir, a'r ffioedd a delir, gan bob teulu neu mewn perthynas â hwy, gan gynnwys unrhyw symiau ychwanegol sy'n daladwy am wasanaethau nad yw'r taliadau hynny'n eu cynnwys, a'r symiau a delir gan bob un o'r trigolion neu mewn perthynas â hwy.

11.  Copi o roster dyletswyddau staff y personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd, a chofnod o'r rosteri a gafodd eu gweithio mewn gwirionedd.

12.  Cofnod o bob ymwelydd â'r ganolfan breswyl i deuluoedd.

13.  Cofnod o bob cyfrif a gedwir yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.