Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003

Cyfyngiadau ar werthu sy'n ymwneud â labelu etc ychwanegion bwyd

6.—(1Ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os nad yw'r enw y mae'n cael ei werthu odano yn “ychwanegyn bwyd”.

(2Heb ragfarnu Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(1), ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo oni bai ei fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r manylion canlynol —

(a)enw categori unrhyw fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol sy'n nodweddu'r cynnyrch neu fynegiant o natur y fitamin neu'r mwyn neu'r sylwedd arall;

(b)y gyfran o'r cynnyrch yr argymhellir ei bwyta'n ddyddiol;

(c)rhybudd i beidio â chymryd mwy na'r dogn dyddiol penodedig a argymhellir;

(ch)datganiad i'r perwyl na ddylid defnyddio ychwanegion bwyd yn lle deiet amrywiol;

(d)datganiad i'r perwyl y dylid storio'r cynnyrch y tu allan i gyrraedd plant bach; ac

(dd)faint o unrhyw fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol sy'n bresennol yn y cynnyrch.

(3Rhaid i'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(dd) —

(a)cael ei rhoi ar ffurf Rhif au;

(b)cael ei rhoi yn achos fitamin neu fwyn a rhestrir yng ngholofn 1 o Atodlen 1, gael ei roi drwy ddefnyddio'r uned berthnasol a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno;

(c)datgan y swm fesul cyfran o'r cynnyrch fel yr argymhellir ei fwyta'n ddyddiol ar label y cynnyrch;

(ch)bod yn faint cyfartalog ar sail dadansoddiad y gweithgynhyrchydd o'r cynnyrch; a

(d)cael ei mynegi hefyd, yn achos fitamin neu fwyn a restrir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC(2) ar labelu maethiad ar gyfer bwydydd, fel canran (y caniateir ei rhoi hefyd ar ffurf graff) o'r lwfans dyddiol perthnasol a argymhellir ac a bennir yn yr Atodiad hwnnw.

(4Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os yw dull ei labelu, ei gyflwyno neu ei hysbysu yn cynnwys sôn, naill ai'n ddiamwys neu'n ymhlyg, na all deiet cytbwys ac amrywiol ddarparu meintiau priodol o fitaminau neu fwynau yn gyffredinol.