xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
6.—(1) Ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os nad yw'r enw y mae'n cael ei werthu odano yn “ychwanegyn bwyd”.
(2) Heb ragfarnu Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(1), ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo oni bai ei fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r manylion canlynol —
(a)enw categori unrhyw fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol sy'n nodweddu'r cynnyrch neu fynegiant o natur y fitamin neu'r mwyn neu'r sylwedd arall;
(b)y gyfran o'r cynnyrch yr argymhellir ei bwyta'n ddyddiol;
(c)rhybudd i beidio â chymryd mwy na'r dogn dyddiol penodedig a argymhellir;
(ch)datganiad i'r perwyl na ddylid defnyddio ychwanegion bwyd yn lle deiet amrywiol;
(d)datganiad i'r perwyl y dylid storio'r cynnyrch y tu allan i gyrraedd plant bach; ac
(dd)faint o unrhyw fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol sy'n bresennol yn y cynnyrch.
(3) Rhaid i'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(dd) —
(a)cael ei rhoi ar ffurf Rhif au;
(b)cael ei rhoi yn achos fitamin neu fwyn a rhestrir yng ngholofn 1 o Atodlen 1, gael ei roi drwy ddefnyddio'r uned berthnasol a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno;
(c)datgan y swm fesul cyfran o'r cynnyrch fel yr argymhellir ei fwyta'n ddyddiol ar label y cynnyrch;
(ch)bod yn faint cyfartalog ar sail dadansoddiad y gweithgynhyrchydd o'r cynnyrch; a
(d)cael ei mynegi hefyd, yn achos fitamin neu fwyn a restrir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC(2) ar labelu maethiad ar gyfer bwydydd, fel canran (y caniateir ei rhoi hefyd ar ffurf graff) o'r lwfans dyddiol perthnasol a argymhellir ac a bennir yn yr Atodiad hwnnw.
(4) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os yw dull ei labelu, ei gyflwyno neu ei hysbysu yn cynnwys sôn, naill ai'n ddiamwys neu'n ymhlyg, na all deiet cytbwys ac amrywiol ddarparu meintiau priodol o fitaminau neu fwynau yn gyffredinol.
O.S. 1996/1499, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/141, 1398, 2424, 1999/747, 1136, 1483, 1540, 1603, 2000/1925 (Cy.134), 2001/1232 (Cy.66), 1440 (Cy.102), 2679 (Cy.220), 3909 (Cy.321), 2002/329 (Cy.42). .
OJ Rhif L276, 6.10.90, t.40.