Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002

Rhagolygol

Penodi datodwyr etcLL+C

42.—(1Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo—

(a)hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer pob cartref gofal y mae'r penodiad yn berthnasol iddo ar unwaith ei fod wedi'i benodi, gan nodi'r rhesymau dros hynny;

(b)penodi rheolwr i gymryd gofal llawn amser o ddydd i ddydd o'r cartref gofal mewn unrhyw achos lle nad oes rheolwr cofrestredig; ac

(c)o fewn 28 diwrnod o gael ei benodi, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'i fwriadau ynghylch gweithredu pob cartref gofal y mae ei benodiad yn berthnasol iddynt yn y dyfodol.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir—

(a)fel derbynnydd neu reolwr eiddo cwmni sy'n ddarparydd cofrestredig mewn perthynas â chartref gofal;

(b)fel datodwr neu ddatodwr dros dro ar gwmni sy'n ddarparydd cofrestredig cartref gofal; neu

(c)fel derbynnydd neu reolwr eiddo partneriaeth y mae ei busnes yn cynnwys rhedeg cartref gofal; neu

(ch)fel ymddiriedolwr mewn methdaliad i ddarparydd cofrestredig cartref gofal.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 42 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)