xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CYR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CEISIADAU AM GANIATÅD I OLLWNG NEU FARCHNATA ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG AC EITHRIO UWCHBLANHIGION A ADDASWYD YN ENETIG

Rhan IILL+CGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R ORGANEDDAUAU A ADDASWYD YN ENETIG

Nodweddion yr organeddau rhoi, yr organeddau rhieniol a'r organeddau derbynLL+C

3.  Enw gwyddonol a thacsonomi.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

4.  Amrywogaeth, cyltifar neu enw arall arferol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

5.  Marcwyr ffenotypig a genetig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

6.  Graddau'r berthynas rhwng yr organeddau rhoi a derbyn neu rhwng organeddau rhieniol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

7.  Disgrifiad o dechnegau adnabod a chanfod.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

8.  Sensitifrwydd, dibynadwyedd (mewn termau meintiol) a phenodoldeb y technegau canfod ac adnabod.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

9.  Disgrifiad dosbarthiad daearyddol a chynefin naturiol yr organeddau gan gynnwys gwybodaeth am ysglyfaethwyr naturiol, ysglyfaeth, parasitiaid a chystadleuwyr, symbiontiaid a lletywyr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

10.  Yr organeddau y gwyddys y mae trosglwyddo deunydd genetig yn digwydd drwyddynt o dan amodau naturiol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

11.  Gwiriad o sefydlogrwydd genetig yr organeddau a ffactorau sy'n effeithio ar sefydlogrwydd hwnnw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

12.  Y nodweddion patholegol, ecolegol a ffisiolegol canlynol—LL+C

(a)dosbarthu peryglon yn unol â rheolau presennol y Gymuned sy'n ymwneud â diogelu iechyd dynol a'r amgylchedd;

(b)hyd cenhedliad mewn ecosystemau naturiol, y cylch atgenhedlu rhywiol ac anrhywiol;

(c)gwybodaeth am oroesi, gan gynnwys amrywiad tymhorol, a'r gallu i ffurfio strwythurau goroesi, gan gynnwys hadau, sborau a sglerotia;

(ch)pathogenigrwydd, gan gynnwys heintusrwydd, gwenwyndra, mileindra, alergenigrwydd, cariwr (fector) pathogen, fectorau posibl, ystod lletywyr gan gynnwys organeddau nad ydynt yn darged a'r posibilrwydd y caiff firysau cudd eu hysgogi (profirysau) a'r gallu i gytrefu organeddau eraill;

(d)ymwrthedd gwrthgyrff, a defnydd posibl y gwrthgyrff hyn mewn pobl ac organeddau domestig ar gyfer atal clefydau a therapi;

(dd)rhan mewn prosesau amgylcheddol, gan gynnwys cynyrchu sylfaenol, trosiant maetholion, dadelfeniad deunydd organig a resbiradaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

13.  Dilyniant, amledd cynnull a sbesiffigedd fectorau cynhenid, a phresenoldeb genynnau yn y fectorau hynny, sef genynnau sy'n cyflwyno ymwrthedd i bwysau amgylcheddol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

14.  Hanes addasiadau genetig blaenorol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Nodweddion y fectorLL+C

15.  Natur a ffynhonnell y fector.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

16.  Dilyniant transbosonau, fectorau a segmentau genetig eraill nad ydynt yn codio a ddefnyddir i lunio'r organeddau a addaswyd yn enetig ac i wneud i'r fector a gyflwynwyd a'r mewnosodiad weithredu yn yr organeddau hynny.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

17.  Amledd cynnull, galluoedd trosglwyddo genetig a/neu ddulliau o benderfynu'r fector a fewnosodwyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

18.  Y graddau y mae'r fector wedi'i gyfyngu i'r DNA sy'n ofynnol i gyflawni'r swyddogaeth arfaethedig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Nodweddion yr organeddau a addaswyd yn enetigLL+C

19.  Y dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr addasu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

20.  Y dulliau a ddefnyddiwyd—LL+C

(a)i lunio mewnosodiadau a chyflwyno'r mewnosodiad neu'r mewnosodiadau i'r organedd sy'n eu derbyn;

(b)i ddileu dilyniant.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

21.  Disgrifiad unrhyw fewnosodiad a/neu wneuthuriad y fector.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

22.  Purdeb y mewnosodiad o unrhyw ddilyniant anhysbys a gwybodaeth am y graddau y mae'r dilyniant a fewnosodwyd wedi'i chyfyngu i'r DNA sy'n ofynnol i gyflawni'r swyddogaeth arfaethedig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

23.  Y dulliau a'r meini prawf a ddefnyddiwyd ar gyfer dethol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

24.  Dilyniant, hunaniaeth swyddogaethol a lleoliad y segmentau asid niwclëig dan sylw a newidiwyd, a fewnosodwyd neu a ddilewyd, ac yn benodol unrhyw ddilyniant niweidiol hysbys.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 2 para. 24 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Nodweddion organeddau a addaswyd yn enetigLL+C

25.  Disgrifiad o nodweddion genetig neu nodweddion ffenotypig ac yn benodol unrhyw nodweddion newydd a allai gael eu mynegi neu nad ydynt bellach yn cael eu mynegi.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 2 para. 25 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

26.  Strwythur a swm unrhyw fector neu asid niwclëig rhoi sy'n parhau yng ngwneuthuriad terfynol yr organeddau a addaswyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 2 para. 26 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

27.  Sefydlogrwydd yr organeddau o safbwynt nodweddion genetig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 2 para. 27 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

28.  Cyfradd a lefel mynegiant y deunydd genetig newydd yn yr organeddau, a dull a sensitifrwydd mesuriad y gyfradd a'r lefel honNo. LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 2 para. 28 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

29.  Actifedd y cynnyrch genynnol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 2 para. 29 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

30.  Y disgrifiad o dechnegau adnabod a chanfod, gan gynnwys technegau ar gyfer adnabod a chanfod y dilyniant a'r fector a fewnosodwyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 2 para. 30 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

31.  Sensitifrwydd, dibynadwyedd (yn nhermau meintiol), a sbesiffigedd y technegau canfod ac adnabod.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 2 para. 31 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

32.  Hanes gollyngiadau neu ddefnyddiau blaenorol yr organeddau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 2 para. 32 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

33.  Mewn perthynas â iechyd dynol, iechyd anifeiliaid a iechyd planhigion—LL+C

(a)effeithiau gwenwynig neu alergenig yr organeddau a/neu eu cynhyrchion metabolig,

(b)cymhariaeth rhwng yr organeddau â'r rhoddwr, y derbynnydd neu (os yw'n briodol) yr organeddau rhieniol mewn perthynas â phathogenigrwydd,

(c)gallu'r organeddau i gytrefu,

(ch)os yw'r organeddau yn bathogenig i bobl sy'n imiwnogymwys—

(i)yr afiechydon a achosir a mecanwaith y pathogenigrwydd gan gynnwys ymledoldeb a mileindra,

(ii)heintusrwydd,

(iii)dogn heintiol,

(iv)ystod lletywyr a'r posibilrwydd o newid,

(v)y posibilrwydd o oroesi y tu allan i'r lletywr dynol,

(vi)presenoldeb fectorau neu ddulliau lledaenu,

(vii)sefydlogrwydd biolegol,

(viii)patrymau ymwrthedd gwrthfiotig,

(ix)alergenedd, a

(x)argaeledd therapïau priodol; a

(d)peryglon eraill y cynnyrch.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 2 para. 33 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)