xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Dodi Marc Tarddiad

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i geidwad dafad neu afr a anwyd yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol neu ar ôl hynny, neu sy'n dal ar ei daliad geni ar y dyddiad hwnnw, ddodi Marc Tarddiad ar yr anifail hwnnw cyn gynted â phosibl.

(2Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag anifail a oedd, cyn y dyddiad perthnasol, wedi'i farcio yn unol â rheoliad 7 neu 14 o Reoliadau 2000 neu erthygl 7(1) o Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (1), fel y bo'n briodol.