xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Dogfennau symud

12.—(1Rhaid i berson beidio â symud dafad na gafr oni bai bod dogfen sydd wedi'i llofnodi gan berchennog yr anifail neu ei asiant yn cyd-fynd â'r ddafad neu'r afr honno a bod y ddogfen yn pennu—

(a)cyfeiriadau (gan gynnwys rhif daliad a chod post) y daliad y mae'r anifail yn cael ei symud ohono a'r daliad y mae'n cael ei symud iddo;

(b)dyddiad y symudiad a chyfanswm yr anifeiliad sy'n cael eu symud;

(c)y marc a ddisgrifir ym mharagraff (2);

(ch)y rhif lot mewn perthynas ag anifail sy'n cael ei symud o farchnad; a

(d)y rhif adnabod unigol mewn perthynas â'r anifail sy'n cael ei symud i ganolfan gynnull.

(2Rhaid i'r ddogfen nodi hefyd

(a)un o'r canlynol—

(i)y Marc S a ddodwyd ar yr anifail;

(ii)os nad oes unrhyw Farc S, y Marc Tarddiad, na'r marc a ddodwyd o dan reoliad 7(5) o Reoliadau 2000; neu

(iii)os nad oes unrhyw farc fel a grybwyllwyd yn is-baragraffau (i) neu (ii), y Marc F neu'r Marc R;

(iv)y rhif adnabod unigol ynghyd â'r marc a ddodwyd ar yr un pryd â'r rhif adnabod unigol;

(b)unrhyw farc dros dro yn achos anifail—

(i)sy'n cael ei symud yn uniongyrchol i ladd-dy;

(ii)sy'n cael ei symud yn uniongyrchol i farchnad er mwyn ei werthu i'w gigydda;

(iii)sy'n cael ei symud i ganolfan gasglu cyn cael ei symud i ladd-dy;

(iv)sy'n dychwelyd yn uniongyrchol i ddaliad o farchnad yr oedd wedi'i anfon iddi er mwyn ei werthu i'w gigydda; neu

(v)sy'n dychwelyd o dir pori dros dro i'r daliad yr oedd yn cael ei gadw arno yn union cyn cael ei symud i'r tir pori dros dro;

(c)os yw anifail yn cael ei symud i sioe neu ohoni, y rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod unigol; neu

(ch)os yw hwrdd neu afr yn cael ei symud at ddibenion bridio yn unol ag erthygl 3(2)(b)(xviii), 3(2)(b)(xix), 3(3)(ch), 3(3)(d), 3(3)(e) neu 3(3)(f) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002, y rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod.

(3Ni fydd paragraff (1) yn gymwys yn achos anifail sy'n cael ei symud—

(a)rhwng daliad ac unrhyw dir y mae hawl i bori ar y cyd â pherchenogion eraill yn arferadwy mewn perthynas ag ef;

(b)at ddibenion triniaeth filfeddygol, dipio neu gneifio;

(c)yn achos geifr, er mwyn eu tatŵ io; neu

(ch)o safle mewn grŵ p meddiannaeth unigol i safle arall yn yr un grŵ p;

(4Pan fydd yr anifail yn cyrraedd ei gyrchfan, rhaid i'r person sy'n symud yr anifail roi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) uchod i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan.

(5Rhaid i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan, o fewn tri diwrnod ar ôl i'r anifail gyrraedd yno, anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r daliad.

(6Rhaid i geidwad anifail sy'n cael ei symud y tu allan i Brydain Fawr anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at yr Awdurdod Lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r safle y mae'r anifail yn cael ei symud ohoNo.