- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
Wedi'i wneud
27 Chwefror2001
Yn dod i rym Dydd Gwyl Dewi
1af Mawrth 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pŵ er a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 189(2) o Ddeddf Tai 1996(1) sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru(2); ar ôl ymgynghori ag unrhyw gymdeithasau sy'n cynrychioli'r awdurdodau perthnasol ac unrhyw bersonau eraill sy'n briodol ym marn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 189(3) :
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001 a daw i rym ar Ddydd Gwyl Dewi, Mawrth 1af 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Mae ar y disgrifiadau o berson a bennir yn erthyglau 3 i 7 angen blaenoriaethol i gael llety o dan adran 189 o Ddeddf Tai 1996.
3.—(1) Person Sydd
(a)yn 18 oed neu'n hyn ond o dan 21 oed; a
(b)a oedd ar unrhyw adeg pan oedd yn dal yn blentyn, ond nad yw bellach, yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu'n cael ei faethu; neu
(c)sydd mewn perygl neilltuol o ecsbloetio rhywiol neu ariannol.
(2) Ym mharagraff (1)(b) uchod, ystyr “yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu'n cael ei faethu” yw:
(a)yn derbyn gofal gan awdurdod lleol;
(b)yn cael ei letya gan gorff gwirfoddol neu ar ei ran;
(c)yn cael ei letya mewn cartref preifat i blant;
(ch)yn cael ei letya am gyfnod di-dor o dri mis o leiaf—
(i)gan unrhyw awdurdod iechyd, awdurdod iechyd arbennig neu awdurdod addysg lleol, neu
(ii)mewn unrhyw gartref gofal preswyl, cartref nyrsio neu gartref nyrsio meddwl neu mewn unrhyw lety a ddarperir gan un o Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol; neu
(d)yn cael ei faethu'n breifat.
4. Person sy'n 16 neu'n 17 oed.
5. Person heb blant dibynnol sydd wedi bod yn destun trais yn y cartref neu sydd mewn perygl trais o'r fath, neu a fydd mewn perygl trais yn y cartref os bydd ef neu hi'n dychwelyd yno.
6.—(1) Person sydd yn y gorffennol wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd y Goron sydd wedi bod yn ddigartref ers ymadael â'r lluoedd hynny.
(2) Ym mharagraff (1) uchod, mae i'r ymadrodd “lluoedd arfog rheolaidd y Goron” yr ystyr a roddir i “regular armed forces of the Crown” yn adran 199(4) o Ddeddf Tai 1996.
7.—(1) Cyn-garcharor sydd wedi bod yn ddigartref ers ymadael â'r ddalfa ac sydd â chysylltiad lleol gydag ardal yr awdurdod tai lleol.
(2) Ystyr “carcharor” yw unrhyw berson sydd am y tro yn cael ei gadw yn y ddalfa yn gyfreithlon o ganlyniad i ofyniad a osodwyd gan lys iddo ef gael ei gadw neu iddi hi gael ei chadw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Chwefror 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan Ran VII o Ddeddf Tai 1996 (“Deddf 1996”), mae ar yr awdurdodau tai lleol ddyletswydd i ddarparu llety ar gyfer y rhai sy'n ddigartref, yn gymwys i gael cymorth, ac arnynt angen blaenoriaethol.
Mae adran 189 o Ddeddf 1996 yn nodi disgrifiadau o bersonau y mae arnynt angen blaenoriaethol ac mae hefyd yn rhoi pŵ er i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bennu rhagor o ddisgrifiadau.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu rhagor o ddisgrifiadau o bersonau y mae arnynt angen blaenoriaethol:
person sy'n ymadael â gofal neu berson sydd mewn perygl neilltuol o ecsbloetio rhywiol neu ariannol, ac sy'n 18 oed neu drosodd ond o dan 21 oed (erthygl 3)
person 16 neu 17 oed (erthygl 4)
person sy'n ffoi rhag trais yn y cartref neu rhag bygythiad trais yn y cartref (erthygl 5)
person sydd heb lety ar ôl ymadael â'r lluoedd arfog (erthygl 6)
cyn-garcharor sydd heb lety ar ôl cael ei ryddhau o'r ddalfa (erthygl 7).
Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys