xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 4Trosglwyddo tir

Rhan IIRheolau ynglŷn â throsglwyddiadau

3.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol gymunedol ddod yn ysgol sefydledig wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

(b)o'r dyddiad gweithredu ymlaen ni fydd yr ysgol (fel ysgol sefydledig) yn aelod o grŵ p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.

(2Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, a ddelid neu a ddefnyddid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r canlynol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddynt,—

(a)ymddiriedolwyr yr ysgol, i'w ddal ganddynt ar ymddiriedaeth at ddibenion yr ysgol; neu

(b)os nad oes gan yr ysgol unrhyw ymddiriedolwyr, y corff llywodraethu.

(3Mae is-baragraff (4) yn gymwys—

(a)pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol gymunedol ddod yn ysgol sefydledig wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

(b)o'r dyddiad gweithredu ymlaen bydd yr ysgol (fel ysgol sefydledig) yn aelod o grŵ p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.

(4Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, heblaw tir a ddelir ar ymddiriedaeth, a ddelid neu a ddefnyddid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r corff sefydledig, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo.

4.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol gymunedol ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

(b)o'r dyddiad gweithredu ymlaen ni fydd yr ysgol (fel ysgol wirfoddol a gynorthwyir) yn aelod o grŵp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.

(2Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir heblaw meysydd chwarae, a ddelid neu a ddefnyddid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i ymddiriedolwyr yr ysgol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddynt, i'w ddal ganddynt ar ymddiriedaeth at ddibenion yr ysgol.

(3Mae is-baragraff (4) yn gymwys—

(a)pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol gymunedol ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

(b)o'r dyddiad gweithredu ymlaen bydd yr ysgol (fel ysgol wirfoddol a gynorthwyir) yn aelod o grŵ p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.

(4Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, heblaw meysydd chwarae neu dir a ddelir ar ymddiriedaeth, a ddelid neu a ddefnyddid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r corff sefydledig, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo.

5.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol gymunedol ddod yn ysgol wirfoddol a reolir wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

(b)o'r dyddiad gweithredu ymlaen ni fydd yr ysgol (fel ysgol wirfoddol a reolir) yn aelod o grŵ p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.

(2Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, heblaw meysydd chwarae, a ddelid neu a ddefnyddid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i ymddiriedolwyr yr ysgol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddynt, i'w ddal ganddynt ar ymddiriedaeth at ddibenion yr ysgol.

(3Mae is-baragraff (4) yn gymwys—

(a)pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol gymunedol ddod yn ysgol wirfoddol a reolir wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

(b)o'r dyddiad gweithredu ymlaen bydd yr ysgol (fel ysgol wirfoddol a reolir) yn aelod o grŵ p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.

(4Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, heblaw meysydd chwarae neu dir a ddelir ar ymddiriedaeth, a ddelid neu a ddefnyddid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r corff sefydledig, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo.

6.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol sefydledig nad yw'n rhan o grŵ p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol gymunedol wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf.

(2Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)bydd unrhyw dir sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus ac a ddelid gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu'r corff llywodraethu yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgol sefydledig yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r awdurdod addysg lleol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo; a

(b)bydd unrhyw dir arall a ddelid gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu'r corff llywodraethu, yn union cyn y dyddiad hwnnw, at ddibenion yr ysgol sefydledig yn cael ei drosglwyddo i'r awdurdod addysg lleol ac yn breinio ynddo yn unol â chytundeb trosglwyddo.

(3Mae is-baragraff (4) yn gymwys pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol sefydledig sy'n rhan o grŵ p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol gymunedol wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf.

(4Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)bydd unrhyw dir sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus ac a ddelid gan y corff sefydledig yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgolion yn y grŵp ac a ddefnyddid at ddibenion yr ysgol sefydledig yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r awdurdod addysg lleol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo; a

(b)bydd unrhyw dir arall a ddelid gan y corff sefydledig, yn union cyn y dyddiad hwnnw, at ddibenion yr ysgolion yn y grŵp ac a ddefnyddid at ddibenion yr ysgol sefydledig yn cael ei drosglwyddo i'r awdurdod addysg lleol ac yn breinio ynddo yn unol â chytundeb trosglwyddo.

7.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol sefydledig nad yw'n aelod o grŵ p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu'n ysgol wirfoddol a reolir wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

(b)o'r dyddiad gweithredu ymlaen ni fydd yr ysgol (fel ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir) yn aelod o grŵ p felly.

(2Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, heblaw tir a ddelir ar ymddiriedaeth, a ddelid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan y corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol sefydledig yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i ymddiriedolwyr yr ysgol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddynt i'w ddal ganddynt ar ymddiriedaeth at ddibenion yr ysgol.

8.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol sefydledig nad yw'n aelod o grŵ p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu'n ysgol wirfoddol a reolir wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

(b)o'r dyddiad gweithredu ymlaen bydd yr ysgol (fel ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir) yn aelod o grŵ p felly.

(2Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, heblaw tir a ddelir ar ymddiriedaeth, a ddelid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan y corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol sefydledig yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r corff sefydledig, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo.

(3Mae is-baragraff (4) yn gymwys—

(a)pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol sefydledig sy'n aelod o grŵp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu'n ysgol wirfoddol a reolir wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

(b)o'r dyddiad gweithredu ymlaen ni fydd yr ysgol (fel ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir) yn aelod o grŵ p felly.

(4Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, a ddelid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grŵ p ac a ddefnyddid at ddibenion yr ysgol sefydledig yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i ymddiriedolwyr yr ysgol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddynt, i'w ddal ganddynt ar ymddiriedaeth at ddibenion yr ysgol.

9.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a gynorthwyir nad yw'n rhan o grŵp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol gymunedol wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf.

(2Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)bydd unrhyw dir sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus ac a ddelid gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu'r corff llywodraethu yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r awdurdod addysg lleol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo; a

(b)bydd unrhyw dir arall a ddelid gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu'r corff llywodraethu, yn union cyn y dyddiad hwnnw, at ddibenion yr ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn cael ei drosglwyddo i'r awdurdod addysg lleol ac yn breinio ynddo yn unol â chytundeb trosglwyddo.

(3Mae is-baragraff (4) yn gymwys pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a gynorthwyir sy'n aelod o grŵ p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol gymunedol wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf.

(4Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)bydd unrhyw dir sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus ac a ddelid gan y corff sefydledig yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac a ddefnyddid at ddibenion yr ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r awdurdod addysg lleol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo; a

(b)bydd unrhyw dir arall a ddelid gan y corff sefydledig, yn union cyn y dyddiad hwnnw, at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac a ddefnyddid at ddibenion yr ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn cael ei drosglwyddo i'r awdurdod addysg lleol ac yn breinio ynddo yn unol â chytundeb trosglwyddo.

10.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a gynorthwyir ddod yn ysgol sefydledig wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

(b)nid yw'r ysgol (fel ysgol wirfoddol a gynorthwyir) yn aelod o grŵ p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto; ac

(c)ni fydd yr ysgol (fel ysgol sefydledig) yn aelod o grŵ p felly.

(2Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, a ddelid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan yr awdurdod addysg lleol at ddibenion yr ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r corff llywodraethu, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo.

(3Mae is-baragraff (4) yn gymwys—

(a)pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a gynorthwyir nad yw'n aelod o grŵp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol sefydledig wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

(b)o'r dyddiad gweithredu ymlaen bydd yr ysgol (fel ysgol sefydledig) yn aelod o grŵ p felly.

(4Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, heblaw tir a ddelir ar ymddiriedaeth, a ddelid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan y corff llywodraethu neu'r awdurdod addysg lleol at ddibenion yr ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r corff sefydledig, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo.

(5Mae is-baragraff (6) yn gymwys—

(a)pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a gynorthwyir sy'n aelod o grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol sefydledig wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

(b)o'r dyddiad gweithredu ymlaen ni fydd yr ysgol (fel ysgol sefydledig) yn aelod o grŵ p felly.

(6Mewn achos o'r fath, bydd unrhyw dir a ddelid gan y corff sefydledig yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgolion yn y grŵ p ac a ddefnyddid at ddibenion yr ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu a ddelid neu a ddefnyddid gan yr awdurdod addysg lleol at ddibenion yr ysgol honno yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r canlynol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn yn breinio ynddynt,—

(a)ymddiriedolwyr yr ysgol, i'w ddal ganddynt ar ymddiriedaeth at ddibenion yr ysgol; neu

(b)os nad oes ymddiriedolwyr gan yr ysgol, y corff llywodraethu.

11.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir nad yw'n aelod o grŵp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod (yn ôl fel y digwydd) yn ysgol wirfoddol a reolir neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

(b)o'r dyddiad gweithredu ymlaen bydd yr ysgol yn aelod o grŵ p felly.

(2Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, heblaw tir a ddelir ar ymddiriedaeth, a ddelid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan y corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r corff sefydledig, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo.

(3Mae is-baragraff (4) yn gymwys—

(a)pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir sy'n aelod o grŵ p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod (yn ôl fel y digwydd) yn ysgol wirfoddol a reolir neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

(b)o'r dyddiad gweithredu ymlaen ni fydd yr ysgol yn aelod o grŵ p felly.

(4Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, a ddelid gan y corff sefydledig yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac a ddefnyddid at ddibenion yr ysgol yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i ymddiriedolwyr yr ysgol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddynt, i'w ddal ganddynt ar ymddiriedaeth at ddibenion yr ysgol.

12.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a reolir nad yw'n rhan o grŵ p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol gymunedol wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf.

(2Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)bydd unrhyw dir sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus ac a ddelid gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu'r corff llywodraethu yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgol wirfoddol a reolir yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r awdurdod addysg lleol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo; a

(b)bydd unrhyw dir arall a ddelid gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu'r corff llywodraethu, yn union cyn y dyddiad hwnnw, at ddibenion yr ysgol wirfoddol a reolir yn cael ei drosglwyddo i'r awdurdod addysg lleol ac yn breinio ynddo yn unol â chytundeb trosglwyddo.

(3Mae is-baragraff (3) yn gymwys pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a reolir sy'n rhan o grŵ p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol gymunedol wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf.

(4Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)bydd unrhyw dir sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus ac a ddelid gan y corff sefydledig yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgolion yn y grŵ p ac a ddefnyddid at ddibenion yr ysgol wirfoddol a reolir yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r awdurdod addysg lleol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo; a

(b)bydd unrhyw dir arall a ddelid gan y corff sefydledig, yn union cyn y dyddiad hwnnw, at ddibenion yr ysgolion yn y grŵ p ac a ddefnyddid at ddibenion yr ysgol wirfoddol a reolir yn cael ei drosglwyddo i'r awdurdod addysg lleol ac yn breinio ynddo yn unol â chytundeb trosglwyddo.

13.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a reolir ddod yn ysgol sefydledig wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf;

(b)nid yw'r ysgol (fel ysgol wirfoddol a reolir) yn aelod o grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto; ac

(c)ni fydd yr ysgol (fel ysgol sefydledig) yn aelod o grwp felly.

(2Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, a ddelid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan yr awdurdod addysg lleol at ddibenion yr ysgol wirfoddol a reolir yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r corff llywodraethu, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo.

(3Mae is-baragraff (4) yn gymwys—

(a)pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a reolir nad yw'n aelod o grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol sefydledig wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

(b)o'r dyddiad gweithredu ymlaen bydd yr ysgol (fel ysgol sefydledig) yn aelod o grwp felly.

(4Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, heblaw tir a ddelir ar ymddiriedaeth, a ddelid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan y corff llywodraethu neu'r awdurdod addysg lleol at ddibenion yr ysgol wirfoddol a reolir yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r corff sefydledig, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo.

(5Mae is-baragraff (6) yn gymwys—

(a)pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a reolir sy'n aelod o grŵ p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol sefydledig wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

(b)o'r dyddiad gweithredu ymlaen ni fydd yr ysgol (fel ysgol sefydledig) yn aelod o grŵ p felly.

(6Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir a ddelid gan y corff sefydledig yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgolion yn y grŵ p ac a ddefnyddid at ddibenion yr ysgol wirfoddol a reolir neu a ddelid neu a ddefnyddid gan yr awdurdod addysg lleol at ddibenion yr ysgol honno yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r canlynol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn yn breinio ynddynt,—

(a)ymddiriedolwyr yr ysgol, i'w ddal ganddynt ar ymddiriedaeth at ddibenion yr ysgol; neu

(b)os nad oes ymddiriedolwyr gan yr ysgol, y corff llywodraethu.

14.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol arbennig gymunedol ddod yn ysgol arbennig sefydledig wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf.

(2Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir a ddelid neu a ddefnyddid gan awdurdod lleol yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgol arbennig gymunedol yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r canlynol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn yn breinio ynddynt—

(a)ymddiriedolwyr yr ysgol, i'w ddal ganddynt ar ymddiriedaeth at ddibenion yr ysgol; neu

(b)os nad oes ymddiriedolwyr gan yr ysgol, y corff llywodraethu.

15.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol arbennig sefydledig ddod yn ysgol arbennig gymunedol wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf.

(2Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)bydd unrhyw dir sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus ac a ddelid gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu'r corff llywodraethu yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgol arbennig sefydledig yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r awdurdod addysg lleol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo; a

(b)bydd unrhyw dir arall a ddelid gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu'r corff llywodraethu, yn union cyn y dyddiad hwnnw, at ddibenion yr ysgol arbennig sefydledig yn cael ei drosglwyddo i'r awdurdod addysg lleol ac yn breinio ynddo yn unol â chytundeb trosglwyddo.

16.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir sy'n aelod o grŵ p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod (yn ôl fel y digwydd) yn ysgol sefydledig, yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu'n ysgol wirfoddol a reolir wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

(b)o'r dyddiad gweithredu ymlaen bydd yr ysgol yn aelod o grŵ p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.

(2Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, a ddelid gan y corff sefydledig a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a) uchod yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgolion yn y grŵ p ac a ddefnyddid at ddibenion yr ysgol yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r corff sefydledig a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b) uchod, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo.