4.—(1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol gymunedol ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a
(b)o'r dyddiad gweithredu ymlaen ni fydd yr ysgol (fel ysgol wirfoddol a gynorthwyir) yn aelod o grŵp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.
(2) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir heblaw meysydd chwarae, a ddelid neu a ddefnyddid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i ymddiriedolwyr yr ysgol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddynt, i'w ddal ganddynt ar ymddiriedaeth at ddibenion yr ysgol.
(3) Mae is-baragraff (4) yn gymwys—
(a)pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol gymunedol ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a
(b)o'r dyddiad gweithredu ymlaen bydd yr ysgol (fel ysgol wirfoddol a gynorthwyir) yn aelod o grŵ p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.
(4) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, heblaw meysydd chwarae neu dir a ddelir ar ymddiriedaeth, a ddelid neu a ddefnyddid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r corff sefydledig, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo.