Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn ail-ddeddfu gyda rhai mân newidiadau Reoliadau Addysg (Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr) (Cymru) 1999 sy'n cael eu diddymu.

Yn debyg i'r Rheoliadau 1999 hynny (a darpariaethau blaenorol yn Neddf Addysg 1996), mae'r Rheoliadau presennol yn nodi—

(a)yr wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn adroddiadau llywodraethwyr o dan adran 42 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”) (rheoliad 3 a'r Atodlen);

(b)gofynion ynghylch yr iaith neu'r ieithoedd y mae'n rhaid i'r adroddiadau hynny gael eu cynhyrchu ynddi neu ynddynt (rheoliad 4); ac

(c)gofynion ynghylch rhoi copïau o'r adroddiadau hynny i rieni a sicrhau bod yr adroddiadau hynny ar gael i'w harchwilio yn yr ysgol (rheoliadau 5 i 7).

Dyma'r prif newidiadau i'r Rheoliadau blaenorol—

(a)ni fydd angen bellach i gyrff llywodraethu roi copïau o'u hadroddiad llawn i rieni os cafodd crynodeb ei roi i'r rhieni a bod y rhieni wedi cael gwybod y gallant ofyn am gopi llawn o'r adroddiad os ydynt yn dymuno;

(b)ni fydd angen bellach i gyrff llywodraethu gynnwys gwybodaeth am ddiogelwch yr ysgol yn eu hadroddiad;

(c)rhaid bellach i gyrff llywodraethu gynnwys gwybodaeth ynghylch unrhyw adolygiadau ar bolisïau neu strategaethau a fabwysiadwyd gan y corff llywodraethu wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol a'r camau a gymerwyd yn dilyn yr adolygiadau hynny.