xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Wedi'i wneud
21 Mawrth 2000
Yn dod i rym
31 Mawrth 2000
1. –
(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethi a Phraeseptau (Addasiadau Terfynol) (Diwygio) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 31 Mawrth 2000
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
2. Yn erthygl 2 o Orchymyn Ardrethi a Phraeseptau (Addasiadau Terfynol) 1991 (“Gorchymyn 1991”)(3) , yn y diffiniad o “relevant year”, ar ôl “subsequent financial year” ychwaneger “until, and including, the financial year beginning in 1999”.
3. Ym mharagraff (2) o erthygl 3 o Orchymyn 1991, ar ôl “as mentioned in paragraph (1),” ychwaneger “and on or before 31st March 2001.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
21 Mawrth 2000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Gorchymyn Ardrethi a Phraeseptau (Addasiadau Terfynol) 1991 (“Gorchymyn 1991”) yn darparu ar gyfer addasiadau ariannol, rhwng cyrff penodol a oedd, ynglŷn â'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 1989, yn awdurdodau praeseptu (neu eu holynwyr) a'r cyrff a oedd, ynglŷn â'r flwyddyn honno'n awdurdodau ardrethu.
Mae'r addasiadau'n ymwneud â symiau sy'n adferadwy, neu a ddilëwyd fel rhai anadferadwy neu a ad-dalwyd, ar 1 Ebrill 1990 neu wedi hynny, a briodolir i ardrethi am gyfnod sy'n dod i ben cyn y dyddiad hwnnw, ac i gostau gweinyddol cysylltiedig.
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru'n unig, yn diwygio'r diffiniad o “relevant year” yn erthygl 2 o Orchymyn 1991 fel na fydd yr addasiadau'n gymwys ar ôl y flwyddyn ariannol 1999/2000 (erthygl 2).
Mae'r Gorchymyn hefyd yn diwygio erthygl 3 o Orchymyn 1991 fel bod rhaid gwneud hysbysiad o gyfrif a wnaed yn unol â'r erthygl honno ar 31 Mawrth 2001 neu cyn hynny (erthygl 3).
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).