xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 3119 (Cy. 198 )

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) Diwygio (Rhif 2) (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

23 Tachwedd 2000

Yn dod i rym

1 Rhagfyr 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) a pharagraff 2A o Atodlen 12 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) Diwygio (Rhif 2) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2000.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2).

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliad 1 o'r prif Reoliadau

2.  Ym mharagraff (2) o Reoliad 1 o'r prif Reoliadau (dehongli) yn y diffiniad o “NHS sight test fee”, yn lle'r swm “£41.54” rhowch “£42.79” ac yn lle'r swm “£15.01” rhowch “£15.46”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

John Marek

Dirpwy Lywydd y Cynulliad Ceneolaethol

23 Tachwedd 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“y prif Reoliadau”), sy'n darparu cynllun ar gyfer taliadau i'w gwneud gan Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol, drwy system dalebau, tuag at y costau a dynnwyd gan gategorïau penodol o berson mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol.

Mae Rheoliad 2 yn diwygio'r diffiniad o “NHS sight test fee” yn rheoliad 1(2) o'r prif Reoliadau i adlewyrchu gwerthoedd y ddwy lefel o ffioedd am brofion golwg y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n daladwy i ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr pan ddaw'r rheoliadau hyn i rym. Mae'r symiau hyn yn berthnasol i benderfynu cymhwyster i gael taleb at gostau prawf golwg, a phenderfynu ei gwerth adbrynu.

(1)

1977 p.49 (“Deddf 1977”); gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 26(2)(g) ac (i), i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999”), Atodlen 4, paragraff 37(5). Mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 4 gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48), Atodlen 1, paragraff 3 a'i diwygio gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.48). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 126(4) o Ddeddf 1977 a pharagraff 2A o Atodlen 12 iddi, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'u diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.

(2)

O.S. 1997/818. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/2488, 1998/499, 1999/609 a 2000/978 (Cy.48).