xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN

RHAN IPersonau y mae'n ofynnol i'r Cyngor gadw cofnodion mewn perthynas â hwy

1.  Personau y mae eu henwau wedi'u tynnu oddi ar y Gofrestr heblaw rhai y cafodd eu henwau eu tynnu ar eu cais hwy eu hunain neu sydd wedi marw.

2.  Personau sy'n anghymwys i'w cofrestru yn rhinwedd adran 3(3)(a) i (c) a (4) o Ddeddf 1998.

3.  Athrawon neu athrawesau cymwysedig nad ydynt yn athrawon neu athrawesau cofrestredig.

4.  Personau nad ydynt yn athrawon neu athrawesau cofrestredig, sydd wedi dechrau cwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon ac athrawesau, p'un a ydynt wedi cwblhau'r cwrs hwnnw neu beidio.

5.  Personau nad ydynt yn athrawon neu athrawesau cymwysedig ac sy'n cael eu cyflogi yn athrawon neu athrawesau mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol.

6.  Personau nad ydynt yn athrawon neu athrawesau cofrestredig ac sy'n paratoi at Gymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol Prifathrawiaeth, neu wedi'i ennill.

7.  Personau nad ydynt yn perthyn i unrhyw un o'r categorïau uchod ac nad ydynt yn athrawon neu athrawesau cofrestredig, sydd —

(a)â rhif cyfeirnod swyddogol wedi'i ddyrannu iddynt; a

(b)yn cael eu cyflogi, neu wedi cael eu cyflogi ar unrhyw adeg, yn athro neu'n athrawes mewn ysgol neu sefydliad addysgol arall.