xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1078 (Cy. 71)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud

6 Ebrill 2000

Yn dod i rym

7 Ebrill 2000

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981(1), sydd bellach wedi'u breinio ynddo, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru(2) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:–

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 7 Ebrill 2000.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru a'r môr tiriogaethol cyfagos at Gymru, a bydd darpariaethau erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 yn effeithiol ar gyfer penderfynu pa rannau o'r môr y dylid eu trin fel rhai sy'n gyfagos at Gymru a pha rai na ddylid eu trin felly(3).

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn –

(2Yn y Gorchymyn hwn mae unrhyw gyfeiriad at goflyfr, datganiad, dogfen neu wybodaeth a fynnwyd yn cynnwys, yn ogystal â choflyfr, datganiad, dogfen neu wybodaeth a fynnwyd mewn ysgrifen –

(i)unrhyw fap, plan, graff neu ddarlun,

(ii)unrhyw ffotograff,

(iii)unrhyw ddata, sut bynnag y'i hatgynhyrchir, a dderbynnir gan Ganolfan Monitro Pysgodfeydd o ddyfais olrhain loerennol,

(iv)unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio seiniau neu ddata arall (nad ydynt yn ddelweddau gweledol) fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (gyda chymorth unrhyw gyfarpar arall neu hebddo), a

(v)unrhyw ffilm (gan gynnwys microffilm), negatif, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arnynt fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (fel y dywedwyd uchod).

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at un o offerynnau'r Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r offeryn hwnnw sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.

Olrhain cychod pysgota â lloeren

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) mae'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw gwch pysgota o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru sy'n mesur mwy nag 20 metr rhwng y sythlinau neu fwy na chyfanswm o 24 metr o hyd.

(2Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i gwch pysgota o'r fath sydd –

(a)yn gweithredu'n llwyr o fewn 12 milltir fôr i'r gwaelodlinau y caiff môr tiriogaethol Aelod-wladwriaeth ei faner ei fesur ohonynt, neu

(b)nad yw byth yn treulio mwy na 24 awr ar y môr, o'i gymryd o'r amser ymadael hyd at amser dychwelyd i'r porthladd.

(3Rhaid i ddyfais olrhain loerennol –

(a)cael ei gosod;

(b)cael ei chadw yn hollol weithredol,

ar gwch pysgota y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo.

(4Rhaid i'r ddyfais olrhain loerennol honno drosglwyddo'r wybodaeth a fynnwyd –

(a)pan yw'r ddyfais olrhain loerennol yn gallu cael ei pholio:

(i)o leiaf bob dwy awr; neu

(ii)mewn achos y pennir cyfnod hiraf gwahanol ar ei gyfer yn Atodiad I i Reoliad 1489/97, yn ôl y cyfnod hwnnw neu o fewn y cyfnodau hynny; neu

(b)pan nad yw'r ddyfais olrhain loerennol yn gallu cael ei pholio, bob awr, a hynny i Ganolfan Monitro Pysgodfeydd yn y fformat a ragnodir gan Atodiad II i Reoliad 1489/97.

Tramgwyddau

4.—(1Pan dorrir, neu pan fethir â chydymffurfio –

(a)ag unrhyw ddarpariaeth yn erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu

(b)mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota y mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, ag Erthygl 6.1 neu 6.2 o Reoliad 1489/97,

bydd y perchennog, y siartrwr (os oes un) a'r meistr yn euog o dramgwydd.

(2Bydd yn amddiffyniad mewn achos ynglŷn â thorri erthygl 3(3)(b) neu (4) neu fethu â chydymffurfio â hwy, i berchennog, siartrwr (os oes un), neu feistr y cwch brofi ei fod wedi cydymffurfio ag Erthygl 6.1 a 6.2 o Reoliad 1489/97.

(3Bydd unrhyw berson a fydd mewn unrhyw ffordd –

(a)yn newid, yn amnewid neu'n dyblygu adnabyddiaeth dyfais olrhain loerennol a osodwyd ar gwch pysgota Prydeinig perthnasol; neu

(b)yn tynnu'r ddyfais olrhain loerennol oddi ar gwch pysgota o'r fath;

heb roi gwybod ymlaen llaw i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn euog o dramgwydd.

(4Mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota y mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, bydd unrhyw berson a fydd mewn unrhyw ffordd –

(a)yn gohirio neu fel arall yn ymyrryd â throsglwyddiad yr wybodaeth a fynnwyd gan ddyfais olrhain loerennol;

(b)yn ymyrryd â gallu dyfais olrhain loerennol i gael ei pholio; neu

(c)yn fwriadol yn trosglwyddo neu'n rhoi gwybodaeth a fynnwyd ffug,

yn euog o dramgwydd.

Cosbau

5.—(1Bydd person a geir yn euog o dramgwydd perthnasol mewn perthynas â thorri Erthygl 3(3)(b) neu (4) o'r Gorchymyn hwn neu Erthygl 6.1 neu 6.2 o Reoliad 1489/97, neu fethu â chydymffurfio â hwy, yn agored –

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na'r uchafswm statudol;

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

(2Bydd person a geir yn euog o unrhyw dramgwydd perthnasol arall yn agored–

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na £50,000;

(b)o'i gollfarnu ar dditiad i ddirwy.

Casglu dirwyon

6.—(1Pan orfodir dirwy gan lys ynadon ar y meistr, y perchennog, y siartrwr, y person sy'n gyfrifol am y cwch pysgota neu unrhyw berson arall a gollfernir gan y llys o dramgwydd perthnasol neu dramgwydd o dan erthygl 9 o'r Gorchymyn hwn, er mwyn casglu swm y dirwy, fe gaiff y llys–

(a)cyhoeddi gwarant atafaelu yn erbyn y cwch a oedd yn gysylltiedig a 136 chyflawni'r dramgwydd, ei offer a'i haldiad ac unrhyw eiddo sydd gan y person a gollfarnwyd; neu

(b)gorchymyn cadw'r cwch am gyfnod o ddim mwy na thri mis o ddyddiad y gollfarn neu hyd nes y telir y ddirwy neu y cesglir swm y ddirwy yn unol ag unrhyw warant o'r fath, p'un bynnag fydd yn digwydd gyntaf.

(2Bydd adrannau 77(1) a 78 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(18) (gohirio cyhoeddi gwarantau atafaelu, a diffygion ynddynt) yn gymwys i warant atafaelu a gyhoeddir o dan yr erthygl hon fel y maent yn gymwys i warant atafaelu a gyhoeddir o dan Ran III o'r Ddeddf honno.

(3Pan fydd gorchymyn trosglwyddo dirwy mewn perthynas â dirwy ynglŷn â throsedd berthnasol yn cael ei wneud o dan adran 90 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980, Erthygl 95 o Orchymyn Llysoedd Ynadon (Gogledd Iwerddon) 1981(19) neu adran 222 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(20) ac yn pennu rhanbarth llys ynadon yng Nghymru, bydd yr erthygl hon yn gymwys fel pe bai'r ddirwy wedi'i gorfodi gan lys o fewn y rhanbarth llys ynadon hwnnw.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota

7.—(1Er mwyn gorfodi erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig a wneir er mwyn gweithredu mesur Cymunedol ar gyfer monitro â lloeren, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (2) i (4) o'r erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota yn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru.

(2Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda phersonau a neilltuwyd i gynorthwyo gyda'i ddyletswyddau neu hebddynt, a chaiff ei gwneud yn ofynnol bod y cwch yn stopio a gwneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso naill ai mynd ar fwrdd y cwch neu fynd oddi arno.

(3Caiff y swyddog ei gwneud yn ofynnol bod y meistr ac unrhyw bersonau eraill sydd ar fwrdd y cwch yn bresennol a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiadau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol at y diben a grybwyllir ym mharagraff (1) o'r erthygl hon ac, yn benodol –

(a)caiff chwilio am unrhyw offer ar y cwch, ei archwilio a'i brofi, gan gynnwys y ddyfais olrhain loerennol, a'i gwneud yn ofynnol bod personau sydd ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso chwiliad, archwiliad neu brawf o'r fath;

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn cyflwyno unrhyw ddogfen ynglŷn â'r cwch neu offer y cwch, unrhyw weithrediadau pysgota neu weithrediadau ategol iddynt neu â'r personau sydd ar fwrdd y cwch sydd yng nghadwraeth neu feddiant y person hwnnw;

(c)er mwyn canfod a oes tramgwydd perthnasol wedi'i chyflawni, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a gall ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r chwilio;

(ch)caiff archwilio a chopïo unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir i'r swyddog neu y deuir o hyd iddi ar fwrdd y cwch, a'u cadw yn ei feddiant tra bydd yn cwblhau unrhyw chwiliad, archwiliad ac arolygiad y darperir ar eu cyfer o dan yr erthygl hon;

(d)heb ragfarn i is-baragraffau (c) ac (ch), caiff ei gwneud yn ofynnol bod y meistr ac unrhyw berson sydd am y tro yn gyfrifol am y cwch yn trosi'r holl ddogfennau o'r fath sydd ar system gyfrifiadurol i ffurf weladwy a darllenadwy, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw ddogfen o'r fath yn cael ei chyflwyno mewn ffurf y gellir mynd â hi oddi yno; ac

(dd)os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i chyflawni mewn perthynas â'r cwch, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir neu y deuir o hyd iddi ar fwrdd y cwch er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos ynglŷn â'r dramgwydd.

(4Os yw'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod tramgwydd perthnasol wedi'i chyflawni ar unrhyw amser, caiff y swyddog –

(a)ei gwneud yn ofynnol bod meistr y cwch y cyflawnwyd y tramgwydd mewn perthynas ag ef yn mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd sy'n ymddangos i'r swyddog fel y porthladd cyfleus agosaf, neu caiff y swyddog wneud hynny ei hun; a

(b)cadw'r cwch yn y porthladd neu ei gwneud yn ofynnol bod y meistr yn ei gadw yn y porthladd;

a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw neu'n ei gwneud yn ofynnol cadw'r cwch rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y caiff y cwch ei gadw neu ei bod yn ofynnol ei gadw hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

Amddiffyn swyddogion

8.  Ni fydd swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig na pherson sy'n ei gynorthwyo yn rhinwedd erthygl 7(2) o'r Gorchymyn hwn yn atebol mewn unrhyw achosion sifil neu droseddol am unrhyw beth a wneir drwy arfer honedig o'r pwerau a roddwyd iddo yn rhinwedd erthygl 7 o'r Gorchymyn hwn os yw'r llys wedi'i fodloni fod y weithred wedi'i gwneud yn ddidwyll, bod sail resymol dros wneud hynny a'i bod wedi'i gwneud gyda medr a gofal rhesymol.

Rhwystro etc.

9.  Bydd unrhyw berson sydd –

(a)heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig o dan y pwerau a roddwyd iddo neu iddi yn rhinwedd erthygl 7 o'r Gorchymyn hwn;

(b)heb esgus rhesymol yn rhwystro unrhyw berson arall rhag cydymffurfio ag unrhyw ofyniad o'r fath; neu

(c)yn rhwystro unrhyw swyddog o'r fath sydd wrthi'n arfer unrhyw un o'r pwerau hynny,

yn euog o drosedd, ac yn agored –

(i)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na'r uchafswm statudol;

(ii)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

Darpariaethau ynglŷn â throseddau ac achosion

10.—(1Pan brofir bod unrhyw drosedd o dan erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan gorff corfforedig wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall o'r corff corfforedig, neu berson yn honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforedig, yn euog o'r drosedd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

(2Pan brofir bod unrhyw drosedd o dan erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan bartneriaeth wedi'i chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y person hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o'r drosedd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

(3Pan brofir bod unrhyw drosedd o dan erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig (heblaw partneriaeth) wedi'i chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw swyddog o'r gymdeithas neu unrhyw aelod o'i chorff llywodraethu, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y person hwnnw yn ogystal â'r gymdeithas yn euog o'r drosedd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

Derbynioldeb coflyfrau a dogfennau eraill fel tystiolaeth

11.  Bydd unrhyw –

(a)coflyfr a gedwir o dan Erthyglau 6, 17.2 neu 28c;

(b)datganiad a gyflwynir o dan Erthyglau 8.1, 11, 12, 17.2 neu 28f;

(c)adroddiad ymdrech a gwblheir o dan Erthyglau 19b a 19c;

(ch)dogfen a lunnir o dan Erthyglau 9 neu 13,

o Reoliad 2847/93 ac unrhyw wybodaeth a fynnwyd a dderbynnir gan Ganolfan Monitro Pysgodfeydd, mewn unrhyw achos ynglŷn â throsedd berthnasol, yn dystiolaeth o'r materion a ddatgenir ynddynt.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(21).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Ebrill 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru a'r môr tiriogaethol cyfagos at Gymru, yn darparu ar gyfer gorfodi Erthyglau 3 a 28c o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93 sy'n sefydlu system reoli sy'n gymwys ar gyfer y polisi pysgodfeydd cyffredin a Rheoliad y Comisiwn (EC) 1489/97 sy'n pennu rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93 o ran systemau sydd wedi'u seilio ar loeren ar gyfer monitro cychod.

Mae'r Rheoliadau hynny yn darparu ar gyfer trosglwyddo adnabyddiaeth cychod ac adroddiadau ar eu lleoliad drwy gyfrwng lloeren gan gychod pysgota sy'n mesur mwy nag 20 metr rhwng y sythlinau neu fwy na chyfanswm o 24 metr o hyd. Erthygl 3 o'r Gorchymyn yw'r brif ddarpariaeth sy'n rhoi eu heffaith i'r gofynion hyn.

Mae'r Gorchymyn yn creu tramgwyddau mewn perthynas â thorri'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn, gan gynnwys torri erthyglau 6.1 a 6.2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1489/97. Mae erthyglau 6.1 a 6.2 yn ei gwneud yn ofynnol bod yr wybodaeth a fynnwyd (fel y'i diffinnir yn erthygl 2(1) o'r Gorchymyn) yn cael ei hanfon at Aelod-wladwriaeth y faner ac at Aelod-wladwriaeth yr arfordir o dan sylw drwy ddull arall, o leiaf bob 24 awr, os ceir methiant technegol neu os bydd naill ai dyfais olrhain loerennol a osodwyd ar gwch pysgota neu system monitro cychod Aelod-wladwriaeth y faner yn methu â gweithredu. Hefyd, os ceir methiant technegol neu os na fydd dyfais olrhain loerennol yn gweithredu, mae'n ofynnol i'r perchennog drefnu ei thrwsio neu ei hamnewid o fewn un mis neu, pan geir digwyddiad o'r fath yn ystod taith bysgota sy'n para mwy na mis, cyn gynted ag y daw'r cwch pysgota i borthladd. Nid awdurdodir meistr y cwch pysgota i ddechrau taith bysgota newydd nes bod y ddyfais olrhain loerennol wedi'i thrwsio neu wedi'i hamnewid felly.

Mae'r cosbau am dorri'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn i'w gweld yn erthygl 5 o'r Gorchymyn.

Er mwyn gorfodi'r Gorchymyn hwn, yn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru rhoddir pwerau i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig fynd ar fwrdd cychod pysgota, chwilio, archwilio a phrofi offer y cwch, ei gwneud yn ofynnol bod dogfennau'n cael eu cyflwyno a chymryd y cwch i'r porthladd cyfleus agosaf (erthygl 7).

Gwneir darpariaeth hefyd ar gyfer erlyn tramgwyddau newid adnabyddiaeth dyfais olrhain loerennol a osodwyd ar gwch pysgota neu dynnu'r ddyfais oddi ar y cwch heb awdurdod blaenorol (erthygl 4(3)), ymyrryd â throsglwyddiadau o'r ddyfais neu roi gwybodaeth ffug yn fwriadol (erthygl 4(4)), a rhwystro swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig (erthygl 9). Nodir y cosbau yn sgil collfarnu yn erthyglau 5(2) a 9. Uchafswm statudol y gosb a bennir yn y Gorchymyn yw £5,000 ar hyn o bryd.

Mae'r Gorchymyn yn darparu pwerau ar gyfer casglu dirwyon a osodwyd gan lysoedd ynadon (erthygl 6).

Mae erthyglau 8, 10 ac 11 yn cynnwys darpariaethau ategol.

(1)

1981 p.29; gweler adran 30(3) i gael y diffiniadau o “cyfyngiad Cymunedol gorfodadwy” (“enforceable Community restriction”), “rhwymedigaeth Gymunedol orfodadwy” (“enforceable Community obligation”) ac “y Gweinidogion” (“the Ministers”) fel y'u diwygiwyd gan Atodlen 2 paragraff 68(5) i Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820). Mae erthygl 3(1) o Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Swyddogaethau Cyfamserol) 1999 (O.S. 1999/1592) ac Atodlen 1 iddi yn darparu i'r swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adran 30(2) o Ddeddf 1981 gael eu harfer gan y Gweinidogion, yn gyfamserol â Gweinidogion yr Alban, mewn perthynas â'r canlynol: cychod pysgota Prydeinig perthnasol o fewn y parth Albanaidd; a chychod pysgota yr Alban o fewn ffiniau pysgodfeydd Prydain ond y tu allan i'r parth Albanaidd (am “y parth Albanaidd” gweler adran 126 o Ddeddf yr Alban 1998 (p.46) a Gorchymyn Ffiniau Dyfroedd Cyfagos at yr Alban 1999 (O.S. 1999/1126)).

(2)

Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, a swyddogaethau'r Ysgrifenyddion Gwladol ynglŷn â physgota môr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon o dan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29), i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)

Pennir y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru yn unol â darpariaethau adran 1 o Ddeddf Môr Tiriogaethol 1987 (p.47) ac ag unrhyw ddarpariaethau a wnaed, neu sy'n dwyn effaith fel pe baent wedi'u gwneud, o dan yr adran honno. Pennir y ffin rhwng y rhannau hynny o'r môr yn Aberoedd Hafren a Dyfrdwy a drinir fel moroedd tiriogaethol cyfagos at Gymru, a'r rhannau na thrinir felly, yn unol â'r cyfesurannau a nodir yn Atodlen 3 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(5)

OJ Rhif L261, 20.10.93, t.1.

(6)

OJ Rhif L301, 14.12.95, t.1.

(7)

OJ Rhif L301, 14.12.95. t.35.

(8)

OJ Rhif L338, 28.12.96, t.12.

(9)

OJ Rhif L102, 19.4.97, t.1.

(10)

OJ Rhif L304, 7.11.97, t.1.

(11)

OJ Rhif L356, 31.12.97, t.14.

(12)

OJ Rhif L358, 31.12.98, t.5.

(13)

OJ Rhif L202, 30.7.97, t.18.

(14)

OJ Rhif L054, 25.2.98, t.5.

(15)

OJ Rhif L105, 22.4.99, t.20.

(16)

OJ Rhif L298, 19.11.99, t.5.

(17)

A fewnosodwyd gan Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820).

(18)

1980 p.43.

(20)

1995 p.46.

(21)

1998 p.38.