Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 7 Ebrill 2000.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru a'r môr tiriogaethol cyfagos at Gymru, a bydd darpariaethau erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 yn effeithiol ar gyfer penderfynu pa rannau o'r môr y dylid eu trin fel rhai sy'n gyfagos at Gymru a pha rai na ddylid eu trin felly(1).

(1)

Pennir y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru yn unol â darpariaethau adran 1 o Ddeddf Môr Tiriogaethol 1987 (p.47) ac ag unrhyw ddarpariaethau a wnaed, neu sy'n dwyn effaith fel pe baent wedi'u gwneud, o dan yr adran honno. Pennir y ffin rhwng y rhannau hynny o'r môr yn Aberoedd Hafren a Dyfrdwy a drinir fel moroedd tiriogaethol cyfagos at Gymru, a'r rhannau na thrinir felly, yn unol â'r cyfesurannau a nodir yn Atodlen 3 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).