xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG

PENNOD 2LL+CAMRYWIO CYFARWYDDYD I ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG

15Cais am amrywiad lleihauLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gosod y gofynion sydd i'w bodloni mewn cais gan awdurdod tai lleol i Weinidogion Cymru am amrywiad lleihau i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i'r cais—

(a)cynnwys drafft o'r cyfarwyddyd (fel y byddid yn ei amrywio pe caniateid y cais) a fyddai, pes cynhwysid mewn cais am gyfarwyddyd o dan adran 3, yn cydymffurfio â gofynion adran 3(2)(a), a

(b)esbonio pam y mae'r awdurdod wedi dod i'r casgliad fod y cyflwr a ddisgrifir yn adran 14(2) yn bodoli.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 15 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 90(2)

I2A. 15 mewn grym ar 3.9.2012 gan O.S. 2012/2091, erglau. 1(2), 2